
Fydd dim angen i chi fethu dosbarth chwilbedlo eto oherwydd mae ein dosbarth chwilbedlo rhithwir yn eich galluogi i hyfforddi pan fydd yn gyfleus i chi.*
Does dim amserlen ar gyfer dosbarthiadau rhithwir sy'n golygu y gallwch ddod unrhyw bryd a chymryd rhan**
Mae'r dosbarthiadau yn para naill ai 35 munud neu 55 munud. Mae’r dosbarthiadau yn dechrau ar yr awr.
Ydych chi'n poeni na fyddwch yn gwneud ymdrech go iawn? Peidiwch â phoeni, cewch eich tywys drwy'r ymarfer cyfan, gan brofi amrywiaeth o wahanol diroedd beicio a thirweddau trawiadol o amgylch y byd. Beth bynnag yw eich ffitrwydd, bydd y troslais yn eich herio i ddal ati i bedlo gan roi hwb i'ch ffitrwydd cardiofasgwlaidd.
Mae'r dosbarth chwilbedlo rhithwir hefyd yn wych i'r rhai nad ydynt yn ddigon hyderus o bosib i fynd i ddosbarth chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr.
Manteision di-rif chwilbedlo:
- Llosgi calorïau a llawer ohonynt!
- Gwella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd ar gyfer calon iach
- Beicio yn ôl eich cyflymder eich hun
- Tynhau'r cyhyrau
- Cryfhau eich craidd
- Ymarfer ysgafn
Sut i archebu dosbarth chwilbedlo rhithwir?
Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224700, neu fel arall, gallwch archebu ar ôl cyrraedd.
Mae dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn dechrau ar yr awr yn ystod oriau agor y ganolfan ond nodwch nad ydynt ar gael yn ystod dosbarthiadau chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr: ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am ac ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau am 5.30pm.
Prisiau
Os ydych yn aelod a bod gennych fynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd mae'r dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn rhan o'ch aelodaeth.
Os nad ydych yn aelod gallwch dalu &5.50 fesul sesiwn neu ddod yn aelod drwy glicio yma
* dim ond ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin
**ddim ar gael yn ystod dosbarthiadau chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr: ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am ac ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau am 5.30pm.