
Bwriad y sesiynau Amser Stori Actif yw cymell plant 2-6 mlwydd oed i fod yn egnïol gan gynyddu eu sgiliau sylfaenol (ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad), a hynny’n ifanc iawn, drwy adrodd stori.
Mae’n ymwneud â chyflwyno straeon mewn modd bywiog drwy weithgareddau hwyl a gemau.
Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r rhieni / gwarcheidwaid a’u plant ddysgu a chael hwyl gyda’i gilydd!
Pam y mae hyn yn bwysig?
Mae’n rhoi cyfle i blant ennill hyder a chael eu cymell yn ifanc iawn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Hefyd mae’n gyfle i blant ddysgu a meistroli’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn ogystal gall y sesiynau hyn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, sgiliau datrys problemau, sgiliau iaith, llythrennedd a rhifedd, ynghyd â’r gallu i fod yn rhan o dîm.
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Mae sesiynau’n cael eu cynnal yn eich canolfannau hamdden lleol, eich llyfrgelloedd ac yn eich canolfannau teulu.
- Canolfan Hamdden Caerfyrddin – bob dydd Llun (yn ystod y tymor), 10.30am – 11.15am yn y llecyn chwarae meddal. Sesiwn am ddim.
- Mae llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn rhedeg sesiynau wythnosol – dilynwch nhw are facebook I gadw llygad allan am y sesiynau.
Gallwch hefyd alw draw yn eich llyfrgell leol i gael benthyg pecyn rhianta sy’n cynnwys llyfr a bag o offer er mwyn annog eich plentyn i fod yn egnïol yn y cartref a’r tu hwnt.
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch hamdden@sirgar.gov.uk
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a Twitter.