Diolch am eich cefnogaeth

Diolch am eich cefnogaeth

 
 
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i DDIOLCH i bawb a gefnogodd ein digwyddiadau elusennol ym mis Medi.

Spinathon
Dydd Sadwrn 16 Medi
Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman

Cynhaliwyd Spinathon ddydd Sadwrn 16 Medi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman er mwyn codi arian ar gyfer yr Uned Strôc yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Codwyd cyfanswm o &297… GWYCH! Bydd yr arian hwn yn helpu’r uned strôc i brynu Offer Ymarfer Goddefol Actif. Diolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn y spinathon ac a gyfrannodd. Diolch!

Hoci Cerdded a Bore Coffi Elusennol er budd Macmillan

Dydd Mawrth 26 Medi
Daeth pawb sy’n cymryd rhan yn y sesiynau hoci cerdded wythnosol yn ein tri lleoliad (Sanclêr, Llandybïe a Phen-bre) at ei gilydd mewn un lleoliad, sef Neuadd Goffa Pen-bre, ddydd Mawrth 26 Medi. Trefnwyd sesiwn hoci cerdded elusennol a daeth 30 o bobl i chwarae hoci, cymdeithasu a mwynhau te, coffi a chacennau, er budd Macmillan.

Dydd Gwener 29 Medi
Diolch yn fawr i’r staff yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman am drefnu Bore Coffi Macmillan ddydd Gwener 29 Medi. Diolch i bawb a brynodd gacennau a/neu docynnau raffl yn ystod y dydd.
Y cyfanswm a godwyd yn y ddau ddigwyddiad oedd &336.79, a bydd yr holl arian yn mynd at Macmillan.
Diolch unwaith eto i bawb a ddaeth ac a gefnogodd ein holl ddigwyddiadau elusennol yn ddiweddar – rydym wedi’n syfrdanu gan haelioni cwsmeriaid a staff Actif… DIOLCH!

Hoci Cerdded - am roi cynnig arni?

Mae sesiynau hoci cerdded yn addas ar gyfer pob oedran a gallu ffitrwydd ac nid oes angen i chi fod wedi chwarae hoci o’r blaen i gymryd rhan. Mae’r sesiynau’n ymwneud yn fwy â chwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar gamp newydd a chael hwyl wrth wneud ymarfer corff ysgafn.

Cynhelir sesiynau’n wythnosol yn y lleoliadau canlynol:

• Neuadd Goffa Pen-bre – Pob dydd Mawrth 1.30-2.30pm
• Canolfan Hamdden Sanclêr - Pob bore Iau 9.30 - 10.30am
• Neuadd Goffa Llandybïe – Pob dydd Mercher 1.30 – 2.30pm

Nid oes angen i chi gael ffon hoci, byddwn ni’n darparu’r holl offer. Dewch mewn dillad rhydd a chyfforddus a pheidiwch ag anghofio eich potel ddŵr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio actifsirgar@sirgar.gov.uk