Dylai pob plentyn ddysgu nofio

Dylai pob plentyn ddysgu nofio

Anaml y bydd rhywun yn anghofio sut mae nofio os bydd yn dysgu'r sgìl yn ifanc,  ac mae modd i bobl o bob oed wneud. 

Ceir llawer o resymau pam y dylai eich plentyn ddysgu nofio, ac un o'r rhesymau pwysicaf yw bod dysgu sut mae nofio yn sgìl achub bywyd hanfodol a allai achub ei fywyd un diwrnod.

Ac mae dal ati i gael gwersi nofio dros yr haf yn fuddiol nid yn unig i'ch plentyn ond i chi fel rhiant hefyd. Pam?

  1. Hanfodol ar gyfer ei ddiogelwch

Mae gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gyfforddus yn y dŵr ac o amgylch dŵr yn hanfodol ar gyfer ei ddiogelwch. Bydd Dysgu nofio yn ifanc a chael gwersi nofio'n rheolaidd yn ei helpu pan ewch chi ar eich gwyliau haf. Mae nofio'n sgìl bywyd ac yn rhywbeth y bydd yn cadw gydol ei oes.

  1. Cynnal cynnydd

Mae'r haf yn amser prysur i'r teulu, ond mae cynnal y cynnydd y mae eich plentyn wedi ei wneud yn allweddol.  Y peth olaf rydych am ei weld pan fydd yn ailddechrau ar ôl gwyliau'r haf yw ei fod wedi mynd yn ôl lefel.  Cofiwch fod nofio'n sgìl bywyd rydych am i'ch plentyn ei ennill.

  1. Parhau i ddatblygu

Mae mynychu gwersi rheolaidd yn golygu ei fod yn parhau i gryfhau a datblygu fel nofiwr.  A phwy a ŵyr, ar ôl yr haf efallai y bydd wedi camu ymlaen i'r lefel nesaf.

  1. Cadw at y drefn arferol

Mae gennych ddiwrnodau penodedig ar gyfer gwersi nofio eisoes, felly drwy gadw at y drefn honno ni fydd yn rhaid i chi bendroni am bethau i'w gwneud gyda'r plant.  Mae 6 wythnos yn amser hir a gall fod yn anodd diddanu'r plant am gyhyd. Dewch â nhw adeg eu gwers nofio arferol tra byddwch chi'n ymlacio yn y siop goffi ac yn cael sgwrs â ffrindiau.

  1. Agor drysau i weithgareddau eraill

Mae'r gallu i ddysgu nofio yn agor drysau i'ch plentyn megis mynychu clwb nofio a chystadlu neu'n agor drysau i weithgareddau eraill cysylltiedig â nofio fel plymio, nofio cydamserol, polo dŵr, canŵio, neu Achubwr Bywyd Oedran Iau.

  1. Hwyl a mwynhad!

Yn bwysicaf oll mae nofio yn HWYL! Mae llawer o blant yn mwynhau sblasio mewn dŵr ac os oes ganddynt y gallu i nofio'n hyderus, mae'n gyfle gwych i chi dreulio amser buddiol gyda nhw. Mwynhewch ein sesiynau nofio i'r teulu, cliciwch yma

Mae ein rhaglen Dysgu Nofio yn rhedeg am 48 wythnos y flwyddyn.  I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen cliciwch yma