
Mae hoci carlam yn debyg i hoci, ond nid fel i chi’n arfer!
Yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ar 5 Gorffennaf, mae hoci carlam yn gêm gyflym, gyfeillgar ac yn llawn hwyl. Mae'n cael ei chware gyda 5 chwaraewr bob ochr a gellir ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored.
Mae hoci carlam yn dilyn y rheolau arferol hoci ond yn cael ei chwarae mewn maes llai. Mae'n ffordd wych o chwarae’r gem gyda oedrannau cymysg, rhyw a gallu cymysg.
Mae'r sesiynau yn gymdeithasol a gallwch droi i fyny a chwarae bob wythnos. Mae’r sesiynau yn berffaith os ydych am gadw'n heini a chwarae hoci ond ddim yn gallu ymrwymo i dîm neu i sesiynau ymarfer rheolaidd / gemau.
Mae’r sesiynau yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ar 5 Gorffennaf am 6 wythnos o 7pm – 8.30pm.
Mae angen i’r rhai sydd yn cymryd rhan for yn 14 mlwydd oed neu’n hyn. Gallwch ddod fel tîm (carfan o 8) neu ar ben eich hun a byddwch yn cael eich rhoi mewn tîm.
Pris: &20 yr wythnos i bob tîm (5 bob ochr neu sgwad o 8)
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost i JoMDavies@carmarthenshire.gov.uk