
Traciwr ymarfer corff manwl gywir yw MYZONE sy'n eich ysgogi chi i roi'r ymdrech angenrheidiol er mwyn cael y canlyniadau rydych chi'n eu dymuno.
Mae'n ffordd wych o fonitro a chofnodi eich gweithgarwch corfforol yn y Ganolfan Hamdden a thu hwnt iddi.
Cwrdd â gwregys MZ-3
Mae gwregys MZ-3 yn tracio curiad y galon, calorïau ac ymdrech mewn amser real yn ystod eich ymarfer.
Hefyd mae gan MZ-3 gof yn rhan ohono felly gallwch wneud i bob sesiwn gyfrif, hyd yn oed os nad ydych yn ymarfer yn y gampfa neu os nad yw eich ffôn clyfar gyda chi.
Lanlwytho Data
Tu mewn i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin, mae eich data gweithgarwch yn lanlwytho'n awtomatig i sgriniau teledu yn y gampfa mewn amser real. Yng nghanolfannau hamdden eraill Actif, gellir lanlwytho'r data'n ddi-wifr drwy WI-FI i'ch ap MYZONE am ddim fel y gallwch chi adolygu eich cynnydd yn fyw neu dracio eich cynnydd yn hwyrach, ar ôl gorffen ymarfer.
A'r newyddion da yw bod WI-FI am ddim ar gael yn ein canolfannau i gyd, gan gynnwys Sanclêr, lle mae WI-FI newydd gael ei osod.
Cymdeithasol
Cysylltu â ffrindiau a chael y wybodaeth ddiweddaraf i weld sut maent yn perfformio.
Heriau
Drwy ap MYZONE , ymunwch â heriau grŵp neu dechreuwch un eich hun. Mae hon yn un o'r ffyrdd gorau i gadw cymhelliant wrth gystadlu â ffrindiau yn y gampfa a defnyddwyr eraill ledled y byd.
Mynnwch eich un chi heddiw!
Fel aelod Actif gallwch fanteisio ar *Gôd arbennig ar-lein* sy'n golygu y gallwch brynu gwregys am &79.99 (Pris Adwerthu a Argymhellir &129.99). Gofynnwch i aelod o'r tîm ffitrwydd neu gofynnwch yn y dderbynfa sut y gallwch gael y côd arbennig ar-lein.