Diolch yn fawr wrth Actif

Diolch yn fawr wrth Actif

Mae cyfnod o darfu wedi bod ledled ein canolfannau dros y 6 mis diwethaf yn sgil gwneud gwaith adnewyddu yn ein campfeydd.  Mae mwyafrif y gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ond mae dal peth gwaith yn mynd yn ei flaen.

Fel ffordd o ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn o darfu, rydym yn rhoi Pecynnau Teyrngarwch AM DDIM i bob cwsmer a oedd yn aelod ar 30 Medi.  Bydd pob aelod o'r gampfa sy'n gymwys wedi derbyn ‘Tocyn Rhodd’ ar e-bost neu drwy lythyr.

Ewch â'r Tocyn Rhodd hwn i unrhyw un o'n canolfannau i hawlio eich Pecyn Teyrngarwch AM DDIM.

DIM TOCYN RHODD DIM PECYN TEYRNGARWCH

Beth sy'n rhan o'r Pecyn Am Ddim?

Mae'r Pecyn yn cynnwys Band Garddwrn RFID, Botwm RFID, potel ddŵr Actif, Tywel Actif a Chylch Allwedd ar gyfer y Loceri.

Mae'r Band Garddwrn RFID ar gael mewn amrywiol liwiau a meintiau, mae'r botel ddŵr Actif ar gael mewn 5 lliw gwahanol a'r Tywelion Actif ar gael yn un ai Gwyn neu Nefi. Bydd y Pecyn Teyrngarwch yn benodol ar eich cyfer chi; gallwch ddewis lliwiau'r eitemau amrywiol yn unol â'ch dewis personol.

Categories:


Bookmarking: