Mae'r gwaith adnewyddu wedi gorffen yn barod yng nghanolfannau hamdden Llanelli a Chaerfyrddin. Dewch i fwrw golwg arnyn nhw a soniwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu iddyn nhw gael manteisio ar y cyfleusterau newydd. Bydd ein cynnig arbennig o £19.99 yn dod i ben yn fuan, felly achubwch ar y cyfle i chi a'ch anwyliaid arbed dros £50.
Mae'r gwaith wedi dechrau yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ac mae disgwyl iddo orffen yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mynnwch gip ar yr hyn sydd i ddod yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman drwy glicio yma.