Mae’n haws byth 'cofnodi' wrth gyrraedd

Mae’n haws byth 'cofnodi' wrth gyrraedd

Ein buddsoddiad cyntaf y byddwch chi'n elwa arno fel aelodau fydd cyflwyno RFID

Beth yw Offer Adnabod Amledd Radio (RFID)?

Un o'n haddewidion ni i chi yw y byddwn ni'n ei gwneud hi'n haws i chi fod yn egnïol yn fwy aml. Un ffordd o'i gwneud hi'n haws yw trwy gyflwyno offer RFID megis botymau a bandiau garddwrn. Y cyfan sydd angen ei wneud yw tapio a bipian ac rydych chi'n barod - ni allai fod yn haws!

Ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio offer RFID yn y dderbynfa i fewngofnodi yn hytrach na defnyddio carden neu orfod cofio eich rhif aelodaeth. Cyn bo hir bydd sganwyr RFID yn cael eu gosod yn y rhan fwyaf o'n ciosgau hunanwasanaeth hefyd er mwyn i chi'n syml chwifio eich eitem RFID o flaen y ciosg ac yna mewngofnodi.

Yn ogystal bydd rhai o'n loceri yn gweithio drwy RFID hefyd felly ni fydd angen i chi gofio dod â £1 mwyach. Yn syml, gwasgwch eich eitem RFID ar y clo i gloi'r locer a gwnewch yr un peth i'w agor. Dim ond eich eitem RFID chi fydd yn agor y locer (a'n prif allwedd ni wrth gwrs!).

Ar gyfer defnyddwyr y gampfa, mae'r consolau offer Life Fitness newydd yn cydnabod eitemau RFID hefyd felly ar ôl i chi fewngofnodi a sganio eitem RFID, dim ond chwifio eich eitem RFID o'i flaen y bydd angen i chi ei wneud yn y dyfodol er mwyn mewngofnodi.

(Sylwch: Rydym wedi cael ar ddeall y dylai botymau RFID gael eu sticio ar gefn iPhones oherwydd mae'r ddyfais Apple Pay ar y top ac mae’r ddau’n gallu ymyrryd â'i gilydd.)


Bookmarking: