Llofnodwch yr addewid. Gwnewch chwaraeon yn gêm i bawb.

Llofnodwch yr addewid. Gwnewch chwaraeon yn gêm i bawb.

Mae chwaraeon yn gyforiog o homoffobia, deuffobia a thrawsffobia. Mae ymchwil newydd ar gyfer ymgyrch Lasys Enfys yn dangos:
  • bod 72 y cant o gefnogwyr pêl-droed wedi clywed iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio
  • bod un ymhob pump o bobl ifanc 18 i 24 oed yn dweud y bydden nhw'n teimlo embaras petai eu hoff chwaraewr yn dod allan
  • bod cefnogwyr ifanc ddwywaith mor debygol o ddweud bod iaith negyddol tuag at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ddiniwed os mai dim ond 'cellwair' roedd rhywun
Mae llawer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn clywed y neges nad oes croeso iddyn nhw mewn chwaraeon, a hynny o oedran ifanc.
Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr a chefnogwyr chwaraeon yn croesawu ac yn derbyn aelodau tîm a chefnogwyr sy'n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol ac yn draws. Allwn ni ddim gadael i leiafrif bach swnllyd ddifetha'r gêm i bawb arall.
 
I wneud chwaraeon yn gêm i bawb mae angen i ni ddangos ein bod yn cefnogi chwaraewyr a chefnogwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws – a dod at ein gilydd i ddangos hynny, fel cefnogwyr, chwaraewyr, clybiau, cynghreiriau, cyrff llywodraethu a noddwyr. Gall pobl nad ydyn nhw'n hoffi chwaraeon fod yn rhan o'r ymgyrch hefyd, a chwarae eich rhan yn y gwaith o helpu'r genhedlaeth nesaf o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws i ffynnu mewn chwaraeon.
 
Helpwch ni heddiw: ymrwymwch i wneud chwaraeon yn gêm i bawb. Llofnodwch yr addewid a rhannwch eich ymrwymiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dagio pump o ffrindiau sy'n hoffi chwaraeon a gofyn iddyn nhw wneud ymrwymiad hefyd.
 
Mae angen i ni anfon neges bositif at ein ffrindiau, ein teuluoedd a'r rhai sy'n chwarae ac yn bloeddio gyda ni: rydyn ni'n croesawu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ym maes chwaraeon, ac rydyn ni eisiau gwneud chwaraeon yn gêm i bawb.
 
Daliwch ati i rannu. Gyda'n gilydd, gallwn ni wneud chwaraeon yn gêm i bawb.
 
Stonewall Cymru