
Rydym wedi cyflwyno dosbarthiadau NEWYDD i'n hamserlen dosbarthiadau ffitrwydd i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Gym LIT - bob dydd Mawrth a dydd Iau 11:30
Mae’r dosbarth effaith isel hwn, sy’n cyfuno amrywiaeth o ymarferion gan ddefnyddio ffrâm ffitrwydd synrgy, yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr ac oedolion hŷn.
Gym HIIT - bob dydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn 09:30
Sesiwn ymarfer hynod egnïol sy’n helpu i losgi braster, gwella gwytnwch ac adeiladu nerth.
‘Insanity’ - bob dydd Llun 07:30
Sesiwn ymarfer ddwys iawn sy’n defnyddio pwysau eich corff yn unig, a gynlluniwyd i herio’ch corff i’r eithaf.
Canolfan Hamdden Caerfyrddin a Chanolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn
Jungle Body Konga – Dechrau 1 Ebrill
Mae Jungle Body yn gyfuniad dwys iawn, hawdd ei ddilyn, o Focsio, Cardio, Dawns a Cherflunio i’r gerddoriaeth orau o bob degawd. Mae Konga yn ymarfer caled a gwyllt sydd â’r nod o siapio, cerflunio ac ailddiffinio eich corff.
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn – pob nos Lun, 5pm – 6pm
Canolfan Hamdden Caerfyrddin – pob nos Wener, 6pm – 7pm
Canolfan Hamdden Llanelli
Her Driphlyg - bob dydd Llun 09:30
Mae'r sesiwn ymarfer hon ar gyfer y corff yn cynnwys 15 munud o amrywiadau aerobig: stepio, dawns, cardio dwysedd uchel.
Bootcamp - bob dydd Mawrth o 06:45
Cyfuno ymarferion pwysau’r corff ag ymarfer â seibiannau ac ymarfer cryfder.
Kettlercise Combat Max - bob dydd Mawrth 06:45 a dydd Sadwrn 09:00
Cyfuniad cyffrous o bwysau tegell a chrefft ymladd gymysg. Mae'n darparu sesiwn ymarfer cardio uchel ar gyfer y corff cyfan, gyda phwyslais ar gryfder craidd a llosgi braster.
Cliciwch yma am yr holl ddosbarthiadau ffitrwydd.