Campfeydd sy'n Ystyriol o Deuluoedd

Campfeydd sy'n Ystyriol o Deuluoedd

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod plant rhwng 11 a 13 oed bellach yn gallu ymarfer ein campfeydd*.

Mae hyn yn golygu y gallwch ymarfer fel teulu ym mhob un o'n canolfannau hamdden,  sy’n rhoi’r cyfle i chi gyflwyno manteision cadw’n heini’n rheolaidd i aelodau iau'r teulu, gan gynnwys:

  • rhoi hwb i lefelau ffitrwydd
  • cynnal pwysau iach, a
  • theimlo'n fwy egnïol

Rydym yn cynnig ystod eang o beiriannau cardiofasgwlaidd, gwytnwch ac offer rhyngweithiol Life Fitness gan wneud pob sesiwn ymarfer yn hwyl ar gyfer eich plentyn yn ei arddegau (nid yw’n cynnwys mynediad i'r lle pwysau rhydd).

Bydd angen i bob plentyn 11-13 oed fynychu cyflwyniad i'r gampfa cyn dechrau defnyddio'r offer.

Gall pobl ifanc yn eu harddegau sy’n 14 oed a throsodd fynychu ein campfeydd ac nid oes angen iddyn nhw fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

I drefnu sesiwn gynefino, cysylltwch â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700
Canolfan Hamdden Llanelli 01554 774757
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman 01269 594517
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn 01269 224731
Canolfan Hamdden Sanclêr 01994 231253

* Rhaid bod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

Ddim yn aelod?

Edrychwch ar ein Haelodaeth Gartref, berffaith i deuluoedd. Mae'r aelodaeth ar gael ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 4 o blant (dan 18 oed), sy’n rhoi mynediad llawn i chi ar deulu i'r gampfa, nofio a dosbarthiadau ar draws pob un o'n canolfannau hamdden. I ymuno cliciwch yma.