Clwb Actif Gwyliau’r Pasg

Clwb Actif Gwyliau’r Pasg

Bydd Clwb Gwyliau Actif yn ôl ar gyfer gwyliau'r Pasg!

Mae ein Clwb Gwyliau Actif yn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau a chwaraeon i blant 8-12 oed yn ystod yr holl wyliau ysgol.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Pasg o 10 Ebrill tan 21 Ebrill rhwng 8.30am a 5.30pm (ar gau dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg) - sy'n berffaith ar gyfer rhieni sy'n gweithio.

Gall plant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau difyr yn ogystal â rhoi cynnig ar chwaraeon newydd tra eu bod yn gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r gweithgareddau'n amrywio o sblash a sleidiau i bêl-rwyd, cyrsiau rhwystr, coginio gwirion a Helfa Drysor y Pasg, a llawer llawer mwy.

Mae ein Clwb Gwyliau Actif wedi ei anelu at blant 8-12 oed – cofrestrwch eich plentyn am ddiwrnod neu am yr wythnos.

Mae Clwb Actif yn cael ei gynnal ym mhob un o'n Canolfannau Hamdden cliciwch ar y canolfannau islaw am yr amserlennu.

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman 01269 594517

Canolfan Hamdden Llanelli 01554 774757

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 01269 224731

Canolfan Hamdden Sanclêr 01994 231253