Yn y llun: Gwirfoddolwyr a rhedwyr brwd yn y digwyddiad Parkrun Iau ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli
Rhedeg yw un o'r ffurfiau symlaf o ymarfer corff. Mae’n ymarfer rhad ac am ddim a gallwch ei wneud yn unrhyw le.
Y peth da am redeg yw y gallwch ei wneud cyn lleied neu gymaint o weithiau ag y dymunwch, sy'n golygu y gallwch ffitio’r ymarfer o gwmpas eich amserlen brysur. Felly, does dim esgus - rhedeg amdani! Beth am roi cynnig ar Parkrun i ddechrau?
Mae Parkrun yn trefnu rasys wythnosol, am ddim wedi’u hamseru sy’n amrywio o rasys 5k (Hŷn) a rasys 2k (Iau) mewn llefydd ledled y byd.
Y peth gwych amdanynt yw eu bod;
- Yn agored i bawb,
- Am ddim, ac
- Yn ddiogel a hawdd cymryd rhan ynddynt.
Maent wedi'u cynllunio er mwyn caniatáu i bawb o bob gallu sy’n 4 oed a hŷn, gael cyfle i redeg neu gerdded. Felly, mae'n wych ar gyfer y rheiny sy’n cymryd eu camau cyntaf neu i’r rhedwyr mwy profiadol.
Mae digwyddiadau Parkrun yn boblogaidd iawn ymysg teuluoedd ac mae llawer o rieni yn rhedeg gyda'u plant ac yn achos y rhai sydd yn iau na 4 oed, mae nifer o famau a thadau brwdfrydig yn eu gwthio nhw mewn bygis.
Sut alla i gymryd rhan?
Ledled y byd mae digwyddiadau Parkrun Hŷn yn cael eu cynnal am 9am bob bore Sadwrn a digwyddiadau Parkrun Iau am 9am bob bore Sul. Mae digwyddiadau Parkrun Iau yn agored i unrhyw un rhwng 4 a 14 oed.
Erbyn hyn mae 24 o ddigwyddiadau Parkrun Hŷn yng Nghymru a 10 Parkrun Iau.
Mae gan Sir Gaerfyrddin 4 Parkrun: 2 x 5K Hŷn yn Llyn Llech Owain ac Arfordir Llanelli, a 2 x 2K Iau yng Nghaerfyrddin ac Arfordir Llanelli. Mae hynny’n dipyn o gamp ar gyfer sir fach!
Beth am ddechrau rhedeg y penwythnos hwn?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer digwyddiad Parkrun presennol, mewngofnodwch drwy fynd i www.parkrun.org.uk, cofrestrwch eich manylion, argraffwch eich codau bar personol a pharatowch i redeg mewn unrhyw barc ledled y byd.