Stori wych, diolch i Synrgy Llwyddiant Dai - 6 mis a 3 stôn yn ysgafnach

Stori wych, diolch i Synrgy Llwyddiant Dai - 6 mis a 3 stôn yn ysgafnach

Mae’n wych gweld yr hyn y gallwch ei gyflawni pan fo gennych nodau clir sy’n eich ysgogi chi i ymarfer. 6 mis yn ôl, dechreuodd David ei siwrnai ffitrwydd ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am sut y collodd Dai 3 stôn mewn 6 mis.

 

Enw: David Thomas

Oedran: 40

Dywedwch wrthym am eich siwrnai ffitrwydd a pham wnaethoch ddewis ffitrwydd Actif?

Fe wnes i roi’r gorau i chwarae rygbi ddiwedd 2015.  Tra'n chwarae rygbi roeddwn i’n cael fy ysgogi i hyfforddi er mwyn i mi allu chwarae’r gamp.  Ar ôl i mi stopio chwarae, fe wnes i golli’r ysgogiad i ymarfer, nid oeddwn mor ffit a gwnes i fagu pwysau.

Dewisais Chwaraeon a Hamdden Actif oherwydd roedd amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd ar gael ac roedd yr aelodaeth ar gyfer y teulu yn gost effeithiol iawn.

Pam wnaethoch chi ddewis y dosbarthiadau Synrgy yn lle’r prif ddosbarthiadau?

Rwyf wedi rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau ffitrwydd sydd ar gael yng nghanolfannau hamdden Caerfyrddin a Dyffryn Aman.  Yn fy mhrofiad i, mae dosbarthiadau Synrgy yn cynnig ymarfer cardiofasgwlaidd ac ymarferion i wella cryfder.  Y dosbarth hwn fuodd yn fwyaf o gymorth i mi o ran fy rhaglen colli pwysau.

Beth oedd y pethau roeddech yn eu mwynhau fwyaf am y dosbarthiadau Synrgy?

Mae pob dosbarth yn wahanol.  Gellir addasu’r holl ymarferion a'u gwneud yn fwy heriol wrth i’ch lefelau ffitrwydd a’ch cryfder wella. Mae'r hyfforddwyr hefyd yn amrywio’r dosbarthiadau drwy newid y cyfnodau gorffwys a nifer y setiau a gwblhawyd. Mae sesiynau fel arfer yn para 30 munud.

Sut mae’r dosbarthiadau wedi eich cymell i gyrraedd eich nod?

Fy nod cychwynnol oedd colli pwysau.  Cyrhaeddais fy mhwysau targed ar ôl 4 mis o fynd yn rheolaidd i ddosbarthiadau (a deiet), a llwyddais i golli 3 stôn o fewn y cyfnod hwn. Fy nod newydd yw parhau i wella fy lefelau ffitrwydd a’m cryfder.

Caiff dosbarthiadau Synrgy eu cynnal 3 gwaith y dydd, bob dydd Llun i ddydd Gwener ac mae hefyd sesiynau ar benwythnosau, sy'n wych i mi oherwydd rwy’n gallu trefnu ymarferion o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu.

Sut mae'r hyfforddwyr wedi eich ysbrydoli chi i gadw fynd yn ystod y dosbarthiadau heriol?

Mae'r hyfforddwyr yn greadigol iawn ac yn edrych ar ffyrdd o gymysgu ymarferion.  Gellir addasu’r gorsafoedd mewn dosbarthiadau ar gyfer yr unigolyn yn dibynnu ar eich lefelau ffitrwydd / cryfder, felly gallwch wneud yr ymarfer mor heriol ag y dymunwch!

A fyddech chi’n argymell Synrgy i ffrindiau a theulu?

Byddwn - mae nifer o fy ffrindiau wedi dechrau mynychu Synrgy.   Mae fy merch hefyd wedi dechrau mynychu ar ôl rhoi cynnig ar y sesiynau teulu sydd ar fore Sadwrn.