Bellach gallwch fynd i ddosbarthiadau Chwilbedlo y tu allan i’r sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr a gallan nhw fod yn fwy cyfleus i chi.
Mae'r dosbarthiadau yn para 35 munud neu 55 munud ac yn dechrau ar yr awr *
Ydych chi'n poeni na fyddwch yn gwneud ymdrech go iawn? Peidiwch â phoeni, cewch eich tywys drwy'r ymarfer cyfan, gan brofi amrywiaeth o wahanol diroedd beicio a thirweddau trawiadol o amgylch y byd. Beth bynnag yw eich ffitrwydd, bydd y pwyslais ar eich herio i ddal ati i bedlo gan roi hwb i'ch ffitrwydd cardiofasgwlaidd.
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn
Sesiynau yn cael eu cynnal:
- Dydd Mawrth 5pm, 6pm, 7pm
- Dydd Iau 9.30am a 4pm
- Dydd Gwener 9.30am a 6pm
Canolfan Hamdden Sanclêr
Sesiynau yn cael eu cynnal:
- Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher 9am - 9pm
Mae dosbarthiadau rhithwir hefyd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar yr awr yn ystod oriau agor y ganolfan. Nid ydyn nhw ar gael yn ystod y sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr - edrychwch ar yr amserlen ar gyfer yr amseroedd.
Sut mae archebu lle mewn dosbarth chwilbedlo rhithwir?
Cysylltwch â'r canolfannau'n uniongyrchol:
Canolfan Hamdden Sanclêr 01267 224778
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 01267 224731
Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700
Prisiau
Os ydych yn aelod a bod gennych fynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd mae'r dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn rhan o'ch aelodaeth.
Os nad ydych yn aelod gallwch dalu &5.50 fesul sesiwn neu dod yn aelod drwy glicio yma