
Mae'r tymor Sgïo yma ac nid oes angen teithio i'r Alpau i ddysgu sut i Sgïo neu Eirfyrddio. Os ydych yn mynd ar wyliau sgïo a heb fod eisiau treulio dau ddiwrnod cyntaf eich gwyliau'n cwympo, neu’n bod yn drwsgl gyda'r holl offer, dewch draw i Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre – bydd y staff yno yn fwy na pharod i ofalu amdanoch.
Mae’n lle perffaith i chi ddysgu sgïo neu eirfyrddio, neu hyd yn oed gwella eich sgiliau presennol mewn gwers gloywi. Maent yn darparu gwersi i bob oed a gallu.
Sgïo - Hamdden
Sgïo Iau &8.50 / 1 ½ awr
Oedolion &12.50 / 1 ½ awr
Gwersi Sgïo (Gwersi Grŵp)
Gwers Iau - &11 y wers
Oedolion - &17 y wers
Mae'r gwersi ar gael ar gyfer pob oedran yn ddyddiol. Mae gwersi un-i-un hefyd ar gael ar gais. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw ar gyfer pob gwers sgïo. Ffoniwch i archebu lle: 01554 834443
Mae Sgïo Pen-bre yn fwy na dim ond cyrchfan Sgïo, mae llawer mwy i’w wneud yn y ganolfan ac o'i hamgylch, gan gynnwys;
• Tiwbio - Iau &7, Oedolion &10 (uchafswm o 12 o bobl, 6+ oed). Argymhellir archebu ymlaen llaw.
• Llogi Beiciau - Beiciau plant (20" a 24") - 2 awr - &5, 4 awr - &7, drwy'r dydd - &10
• Beiciau Oedolion - 2 awr - &8, 4 awr - &10, drwy'r dydd - &16; trelars - &5
• Golff Disg - Iau - &2.50, Oedolyn - &3.50 (blaendal ad-daladwy o &5 ar ddisgiau)
• Cobra Toboggan - &2.50 y daith, neu 3 am &5
Gwasanaethu a Chynnal a Chadw - Sgïo
A wyddech chi ein bod ni’n gallu gwasanaethu a chynnig gwasanaeth cynnal a chadw eich offer sgïo? Os oes gennych chi offer sgïo sydd angen eu gwasanaethu, gallwn ni eich helpu. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cwyro ac atgyweirio eich esgidiau sgïo. Cysylltwch â ni neu gofynnwch yn y ganolfan am fanylion.
Tocynnau Rhodd
Beth am sbwylio eich ffrindiau a’ch teulu a rhoi sesiwn eirfyrddio yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre iddynt? Boed yn ddysgu sgïo neu eirfyrddio neu’n syml, cael hwyl, gellir defnyddio tocynnau rhodd Canolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre ar gyfer holl weithgareddau’r Ganolfan. Maent yn anrhegion delfrydol i unrhyw un gydol y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu, ffoniwch Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre: 01554 834443