Marciau llawn i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin!

Marciau llawn i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin!

Newyddion gwych! Cafodd Canolfan Hamdden Caerfyrddin 100% yn y gwiriad Sicrhau Ansawdd blynyddol ar y cyrsiau achub bywyd a chymorth cyntaf a’r asesiadau a gyflwynir yn y ganolfan. Da iawn i'r holl staff sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd ar draws y cyrsiau hyn.

Mae pob un o'n canolfannau hamdden yn darparu cyrsiau gan gynnwys Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol RLSS (NPLQ) gydag AED (diffibriliad allanol awtomatig). Mae'r NPLQ yn gymhwyster achub bywyd cydnabyddedig ledled y DU ac fe'i cyflwynir ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn yn ein canolfannau.

Os ydych yn ystyried bod yn achubwr bywyd neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yn agos i chi, e-bostiwch actifsirgar@sirgar.gov.uk