Nod ein llwybr Nofio yw darparu profiad nofio cynhwysol o safon uchel i blant ac oedolion sydd â phob math o anabledd a hynny mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar.
Gyda’n cysylltiadau agos â Nofio Cymru, y nod yw datblygu plant (abl ac anabl) ymhellach a nodi nofwyr sy'n dymuno ymestyn eu taith nofio drwy gystadlu ym mhob math o gystadlaethau, os dymunan nhw.
Rhaglen Dysgu Nofio
Mae ein holl raglenni nofio yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i nofwyr abl ac anabl ar draws ein rhaglen 'dysgu i nofio'.
Rhaglen SBLASH - yn cyflwyno babanod o 3 mlwydd oed ac i fyny a phlant bach i weithgareddau dŵr hwyliog. Mae 6 cham i raglen sblash.
Rhaglen WAVE - yn dysgu sgiliau nofio a dŵr angenrheidiol i blant 4 blwydd oed a hŷn. Maen nhw hefyd yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol fel eu bod yn gallu bod yn ddiogel yn y dŵr ac o'i gwmpas. Mae 8 cam i raglen ‘Wave’.
Olrhain cynnydd
Mae ein hofferyn pasbort Acwa ar-lein yn eich helpu i olrhain cynnydd eich plentyn yn y pwll. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi a chael mynediad i wybodaeth yn uniongyrchol gan eich hyfforddwr nofio.
Gwersi nofio i oedolion
Rydym hefyd yn cynnal gwersi nofio wythnosol ar gyfer oedolion o bob gallu, o rai sydd ddim yn gallu nofio i’r rhai sy'n ceisio gwella eu techneg. Bydd aelod o'n tîm yn gallu rhoi cyngor i chi ar ba wers fyddai'n addas i'ch anghenion.
Os hoffech chi neu'ch plentyn ddysgu nofio y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni drwy e-bost gan nodi pa ganolfan hamdden fyddai orau gennych actifsirgar@sirgar.gov.uk