Datblygu SboncenĀ 

Datblygu SboncenĀ 

 

Cynhaliodd clwb sboncen Caerfyrddin ddigwyddiad datblygu olaf 2016 Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ddydd Gwener, 29 Rhagfyr 2016. Daeth nifer o bobl ynghyd i weld 31 o blant iau yn cystadlu o lawer o wahanol glybiau sboncen, gan gynnwys Caerfyrddin, Meads, Canolfan Hamdden Llanelli, Clwb Tennis a Sboncen Llanelli, Penfro, y Tyllgoed, Aberdâr, Castell-nedd a Phorthcawl. Daethant i gyd at ei gilydd i gymryd rhan ac i losgi rhai o galorïau ychwanegol yr ŵyl.

Mae digwyddiadau datblygu yn ffordd wych o ddod a chlybiau at ei gilydd ac yn gam cyntaf pwysig i blant, gan roi'r cyfle iddynt gystadlu heb fod pwysau arnynt. A chyda cymaint o amrywiaeth o dalent a gallu i'w gweld, o ddechreuwyr i'r rhai sy'n chwarae yn y garfan genedlaethol, roedd modd i chwaraewyr newydd wylio sboncen o'r lefel uchaf, gan agor eu llygaid i'r hyn sy'n bosib iddynt gyda pheth amser ac ymdrech.

Ond mae'r digwyddiadau yn mynd ymhell y tu hwnt i sboncen. Maent yn dod â phlant iau ynghyd o wahanol glybiau a gellir eu gweld yn llunio cyfeillgarwch parhaol drwy gydol y dydd. GWYCH!

Cafwyd tri chategori - A, B ac C. Roedd wyth chwaraewr yng nghategori A a chafodd y dorf flas ar ornestau caled o sboncen wych o'r dechrau i'r diwedd. Mae holl chwaraewyr grŵp A yn rhan o academi sboncen Cymru neu'r garfan genedlaethol. Roedd hi'n braf hefyd gweld Olivia Stephens yn gwirfoddoli i fod yr wythfed aelod o'r grŵp. Da iawn Olivia!

Enillydd Grŵp (A)

Arran Edwards - Aberdâr (pob lwc i ti yn y Bencampwriaeth Sboncen Iau)

2il Tomos Edmonds – Meads

3ydd Zoe Edwards – Aberdâr

4ydd Lewis Audsley – Porthcawl

 

Roedd 14 o blant iau yng ngrŵp (B), eto o allu tebyg gyda gornestau caled trwy gydol y dydd

Enillydd Grŵp (B)

Jack Edwards – Aberdâr

2il Emily Gray – Meads

3ydd Luke Evans – Clwb Tennis a Sboncen Llanelli 

4ydd Jake Edwards – Meads

Roedd naw plentyn iau yn cystadlu yng ngrŵp (C) ac yn derbyn hyfforddiant wrth iddynt chwarae. Y tro cyntaf ar gwrt oedd hi i rai. Gwych!

Enillydd Grŵp (C)

Scott Lewis-Armstrong – Canolfan Hamdden Llanelli

2il Millie Breach – Castell-nedd

3ydd Emma Ferns – Castell-nedd

Yn addas iawn, daeth y digwyddiad i ben drwy gyflwyno gwobr Siarter Arian i Glwb Sboncen Caerfyrddin. Caiff y cynllun ei reoli gan gorff llywodraethu Sboncen Cymru ac mae'r gwobrau siarter yn chwarae rhan allweddol o ran cydnabod arfer da o fewn clybiau. Er mwyn ennill y wobr, rhaid i glybiau ddangos eu bod yn cynnal polisïau a gweithdrefnau da ar gyfer oedolion a phlant iau. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod  hyfforddwyr a phob aelod o staff sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a'u bod yn cwblhau cwrs diogelu plant ag oedolion sy'n agored i newid. Rhaid iddynt ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd i gystadlu ar gyfer oedolion a phlant iau.

Yn yr un modd y mae nifer o glybiau sboncen yn chwarae o fewn cyfleusterau canolfannau hamdden, mae'r clwb wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin i gynnig hyfforddiant a chyfleoedd chwarae ar gyfer oedolion a phlant iau. Mae'r clwb a'r ganolfan ar eu hennill felly. Mae'r clybiau yn darparu hyfforddwyr cymwys i gynnal y sesiynau tra bod y ganolfan hamdden yn gallu cynnig y sesiynau yma i'w haelodau ac i'r cyhoedd. Y budd mwyaf i'r clwb yw y bydd yn helpu o ran cynaliadwyedd y clwb yn ogystal â'r chwaraeon yn ei hun.

Cafodd y wobr ei gyflwyno i Jenny Jones, prif hyfforddwr Caerfyrddin, sydd wedi bod yn allweddol o ran datblygu'r clwb a sicrhau bod gan y clwb y polisïau newydd diweddaraf.

Pete Crook, Swyddog Datblygu Gorllewin Cymru, cyflwynodd y wobr.

Llongyfarchiadau mawr, felly, i'r holl chwaraewyr a gymerodd ran yn y digwyddiad. Cafwyd gemau ardderchog o sboncen. Daliwch ati i ymarfer a chwarae'n ddwys, a hefyd i fwynhau chwarae sboncen.

Diolch i glwb sboncen Caerfyrddin am gynnal y digwyddiad ac i Jenny Jones, Nia Davies a Pete Crook am drefnu a chynnal y digwyddiad. Diolch hefyd i'r holl rieni ac aelodau teulu am ddod â'r plant iau i'r digwyddiad a'u cefnogi. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad nesaf... cadwch lygad ar dudalen Twitter Sboncen Cymru am y manylion.

Ac yn olaf, hoffem estyn diolch arbennig i Gary Price, Canolfan Hamdden Caerfyrddin a'i staff am eu holl gymorth a'u cefnogaeth. Rydym yn ffodus iawn o gael cymaint o gymorth arbennig gan yr awdurdod lleol. Trefnwyd bod y cyrtiau a'r neuadd ar gael i'r plant iau ar gyfer gweithgareddau megis pêl-droed, pêl-fasged a badminton wrth iddynt aros am eu gemau sboncen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â Pete Crook, Swyddog Datblygu Gorllewin Cymru, drwy anfon e-bost at petercrook23@hotmail.com neu ffonio 07809 236762.

Published in: Taith y Mis

Bookmarking: