
Mae'r tymor sgïo yn ei anterth ac felly hefyd brif gyrchfan sgïo Sir Gaerfyrddin, Canolfan Sgïo Pen-bre. Lleolir y Ganolfan Sgïo ym Mharc Gwledig Pen-bre, sydd oddi ar ffordd arfordirol yr A484 o Lanelli i Gaerfyrddin ger Porth Tywyn. Mae'r parc oddeutu taith hanner awr mewn cerbyd o Gaerfyrddin ac oddeutu'r un pellter o Gyffordd 48 yr M4.
Does dim angen i chi fynd ar eich gwyliau i Alpau'r Swistir i ddysgu sut mae Sgïo neu Eirfyrddio, gallwch feistroli'r campau hyn heb fynd yn agos at eira. Mae Canolfan Sgïo Pen-bre yn darparu ar gyfer pobl o bob gallu. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu eisiau gloywi eich techneg, mae rhywbeth yno i chi.
Nid cyrchfan sgïo yn unig yw Canolfan Sgïo Pen-bre fodd bynnag - mae cymaint mwy o bethau i'w harchwilio yn y ganolfan ac o'i chwmpas.
Dyma rai yn unig o'r gweithgareddau y gallech roi cynnig arnynt yn y Ganolfan Sgïo...
- Sgïo - Sgïo Hamdden i Blant &8; Oedolion &11
- Gwersi Sgïo - Plant &10.50; Oedolion &16 (Angen archebu ymlaen llaw)
- Tiwbio – Plant &7, Oedolion &10 (hyd at 12 o bobl, 6+ oed). Argymhellir eich bod yn archebu ymlaen llaw
- Llogi Beiciau – Beiciau plant (20” a 24”) - 2 awr &5, 4 awr &7, trwy'r dydd &10
Beiciau oedolion - 2 awr &8, 4 awr &10, trwy'r dydd &18; Ôl-gerbydau &5
- Golff Disg - Plant &2.50, Oedolion &3.50 (blaendal ad-daladwy o &5 ar ddisgiau)
- Tobogan Cobra - &2.50 y tro, neu 3 am &5
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01554 834443
Edrychwch ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth:
Canolfan Sgïo Pen-bre - http://www.discovercarmarthenshire.com/cymraeg/actif/sgio.html
Parc Gwledig Pen-bre - http://www.discovercarmarthenshire.com/pembreycountrypark/cymraeg/index.html

