Wedi gorwneud hi dros y Nadolig?

Wedi gorwneud hi dros y Nadolig?

Sicrhewch eich bod yn manteisio'n llawn ar Ffitrwydd Actif eleni. Gyda thair campfa sydd newydd gael eu hadnewyddu ac amrywiaeth o dros 80 o Ddosbarthiadau Ffitrwydd ar hyd a lled y sir, a chyda dosbarthiadau newydd yn cael eu hychwanegu ar gyfer y Flwyddyn Newydd, mae dewis helaeth ar eich cyfer yn 2017.

YN NEWYDD i Ffitrwydd Actif yn 2017

Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Gwersi Boxfit Newydd ar nos Iau am 7pm. Dosbarth yw 'Boxfit' sy'n cyfuno bocsio ac ymarfer corff mewn gweithgaredd hwyliog, sy'n cael gwared ar straen. 'Boxfit' yw un o'r mathau mwyaf effeithiol o draws-ymarfer sydd ar gael heddiw gan ei fod yn cyfuno ymarferion erobig ac anerobig i greu sesiwn ymarfer egnïol ac amrywiol. Bydd y sesiwn hon yn targedu ac yn gwella pethau megis cydsymud, cydbwysedd, cryfder a gwytnwch. Wrth weithio'n galed yn y sesiwn hon rydych yn sicr o gael hwyl a chael blas arni, ac mae'n addas i grŵp o bobl cymysg eu gallu.

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLFAN HAMDDEN CAERFYRDDIN

Canolfan Hamdden Llanelli - amrywiaeth o ddosbarthiadau newydd, gan gynnwys;

Kettlercise Combat Max
Cyfuniad cyffrous o bwysau tegell a chrefft ymladd cymysg (MMA). Mae'n darparu sesiwn ymarfer cardio uchel ar gyfer y corff cyfan, gyda phwyslais ar gryfder craidd a llosgi braster. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Siâp” LF connect

Her Driphlyg
Pwy ddywedodd fod ymarfer corff yn ddiflas? Mae'r sesiwn ymarfer hon ar gyfer y corff yn cynnwys 15 munud o amrywiadau aerobig: Stepio, Dawns, Cardio dwysedd uchel. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Symud” LF connect

Gwella Ffurf y Corff
Dosbarth effeithiol iawn ac egnïol dros ben sy'n defnyddio peli ymarfer, pwysau llaw a phwysau eich corff fel gwrthiant. Teimlwch yn fwy ffit ac egnïol yn 2017. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Her” LF connect

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLFAN HAMDDEN LLANELLI

Mae Canolfan Hamdden Rhydaman hefyd wedi cyflwyno dau ddosbarth newydd y Flwyddyn Newydd hon.

Barbell Sculpt
Bydd y dosbarth hwn yn tynhau, yn ffyrfhau ac yn cryfhau eich corff i gyd, yn gyflym! Mae’r dosbarth hwn yn her i’ch holl brif grwpiau o gyhyrau tra byddwch yn cyrcydu, gwthio, codi a chyrlio.

Ioga-lates
Cyfle i wella ystwythder a chryfder drwy gyfuniad o symudiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan ioga a Pilates. Addas ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd.

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLDFAN HAMDDEN DYFFRYN AMAN

Peidiwch ag anghofio bod gennym ni ddewis o Ddosbarthiadau Ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden Castellnewydd Emlyn a Sanclêr hefyd.

Os ydych am wybod rhagor am Ffitrwydd Actif cliciwch yma.