
Mae’r Clwb Gwyliau Actif yn ôl ar gyfer gwyliau'r Pasg!
Mae ein clwb gwyliau sydd yn cael ei gynnal bob gwyliau ysgol yn llawn o weithgareddau hwyl i blant 8-12 oed. Ffordd wych i'ch plentyn gadw'n heini, cael hwyl a gwneud ffrindiau a cheisio ystod eang o weithgareddau a chwaraeon newydd!
Mae ein clwb gwyliau’r Pasg yn cael ei gynnal o 2 Ebrill - 13 Ebrill (nid yw'n cael ei gynna ddydd Llun y Pasg).
Gallwch archebu lle i’ch plentyn am y diwrnod o 8.30 – 5pm neu cadwch le i’ch plentyn ar nifer o ddyddiau neu am yr wythnos.
Darperir brecwast, cinio a byrbrydau yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin a Llanelli bob dydd fel rhan o'r pris dyddiol. Gofynnir i blant ddod a phecyn bwyd i Ganolfan Hamdden Rhydaman, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr.
Prisiau yn dechrau o &15.90 y dydd.
Gweithgareddau ar gyfer plant 4-7 oed
Yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr yn unig rydym yn cynnal gweithgareddau hanner diwrnod i blant 4-7 oed. Am fanylion llawn, edrychwch ar yr amserlen Sanclêr islaw.
Edrychwch ar yr amserlenni ar gyfer pob un o'n canolfannau islaw;
Canolfan Hamdden Caerfyrddin
Canolfan Hamdden Rhydaman
Canolfan Hamdden Llanelli
Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn
Canolfan Hamdden Sanclêr
Archebu lle
Gallwch archebu lle i’ch plentyn ar-lein neu ewch i’ch Canolfan Hamdden Actif agosaf.