
Mae ein rhaglenni pasbort newydd wedi cael ei lansio sydd yn golygu eich bod yn gallu rhoi eich plant ar y trywydd i fod yn Actif!
Mae ein rhaglenni NEWYDD i blant yn cynnwys Sgiliau ar gyfer Chwaraeon a rhaglenni Aml-chwaraeon fydd yn helpu plant i:
- Ddysgu sgiliau corfforol sylfaenol
- Datblygu hyder a gwneud penderfyniadau
- Cadw'n iach
- Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd
Bydd y rhaglenni'n rhoi pwyslais ar gael y plant i ddysgu a meistroli sgiliau chwaraeon ar eu cyflymder eu hunain er mwyn eu helpu i ddatblygu ymhellach ac i chwarae camp o'u dewis nhw.
Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni
Pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon
Yn ystod sesiynau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon bydd plant yn dysgu ac yn gwella sgiliau symud sylfaenol megis cydbwyso, neidio, taflu a dal fel bod ganddyn nhw'r holl sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnyn nhw i fynd ymlaen i chwarae unrhyw gamp.

Rhaglenni Pasbort Aml-chwaraeon
Yn y rhaglenni aml-chwaraeon bydd plant yn cael dewis yn o’r chwaraeon canlynol lle byddan nhw'n dysgu ac yn gwella sgiliau ar gyfer camp benodol.
Pasbortau yn cynnwys;
- Pêl-rwyd Mini
- Hoci Mini
- Beicio Mini
Mae gan bob pasbort 3 cham (coch, oren a gwyrdd) ac ar bob cam bydd plant yn dysgu ac yn meistroli gwahanol sgiliau.
Ar ôl cwblhau'r pasbort, bydd y plant yn barod i chwarae camp o'u dewis mewn clwb chwaraeon cymunedol lle byddan nhw'n parhau i ddysgu ar lefel leol / cenedlaethol neu ryngwladol.
Mae’r rhaglenni pasbort yn rhedeg yn Ganolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin a Llanelli.
Am fwy o wybodaeth ac i weld yr amserlenni cliciwch yma neu cysylltwch â’r canolfannau yn uniongyrchol.