Mae'r aros bron ar ben...

Mae'r aros bron ar ben...




Mae'r aros bron ar ben...

Ar ôl i'r gwaith adnewyddu ddod i ben cyn bo hir bydd gan gampfa Canolfan Hamdden Dyffryn Aman y cyfarpar mwyaf a mwyaf sythweledol yn y diwylliant ffitrwydd, a hynny drwy Life Fitness. Mae'r aelodau presennol yn cael eu cyflwyno i'r llwyfan LF Connect newydd yn barod am y profiad ymarfer corff cyffrous hwn.

Ar 17eg Rhagfyr bydd y cyfleuster ffitrwydd newydd yn cael ei agor. Felly siaradwch â hyfforddwr ymarfer am ymuno â LF Connect a chyfeirio eich ffrindiau a'ch teulu at ein cynnig gwych newydd, sef &19.99 am bob aelodaeth, er mwyn cael golwg ar y cyfleuster mwyaf trawiadol yn y sir!

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.



Hoci Iau'n Ffynnu yn Sir Gaerfyrddin

Gan weithio'n agos gyda Hoci Cymru, corff llywodraethu cenedlaethol y gamp, mae swyddogion yn creu cysylltiadau cryf â chlybiau yn y sir, gan helpu i rannu arferion gorau gyda phwyslais ar wella hoci iau drwy ddatblygiad ysgolion a chlybiau.

Gyda phwyslais ar fwynhau a chymryd rhan, mae cynghrair gymysg iau wedi cael ei sefydlu i roi cyfleoedd i chwaraewyr iau na fyddent fel arall wedi cael cyfle i chwarae mewn gemau. Mae'r gynghrair hefyd wedi rhoi cyfleoedd i'r rheiny sy'n mynychu sesiynau hoci yn y canolfannau hamdden nad ydynt yn gysylltiedig â chlwb, sy'n sicrhau bod y clwb ar agor i'r holl blant rhwng 10 a 15 oed.

A ninnau'n hanner ffordd drwy'r tymor, mae'r gynghrair yn mynd yn dda ac mae dros 100 o fechgyn a merched yn dod ar fore dydd Sul unwaith y mis i chwarae hoci, felly mae dyfodol y gamp yn edrych yn ddisglair iawn. Mae'r gynghrair wedi symud o gwmpas y sir o Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a Chanolfan Hamdden Dyffryn Aman i'r Teigrod hefyd, gan annog pob plentyn o bob rhan o'r sir i gymryd rhan. 

Dyma'r gemau nesaf…

 

Diwrnod/Dyddiad  Amser Lleoliad
Dydd Sul 5 Chwefror  10-12  Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
Dydd Sul 5 Mawrth   10-12 Teigrod
Dydd Sul 2 Ebrill   10-12 Canolfan Hamdden Caerfyrddin                                                       

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynghrair hoci iau cysylltwch â'ch clwb lleol.



Gwneud Mwy am Lai 

Yn Actif rydym bellach yn cyflwyno 'Cynigion Ychwanegol' i'n haelodau cyfredol. Gall aelodau cyfredol fanteisio ar Gynnig Ychwanegol Gweithgareddau Dŵr - FAST (techneg strôc a ffitrwydd) ac mae un Cynnig Ychwanegol Ffitrwydd ar gyfer cwsmeriaid yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin - Synrgy.

Beth yw manteision Cynnig Ychwanegol i chi?

Mae ein Cynigion Ychwanegol Gweithgareddau Dŵr a Ffitrwydd yn gyfle ichi ddatblygu eich sgiliau a'ch technegau hyd yn oed ymhellach.

FAST

Os ydych yn bwriadu cystadlu mewn digwyddiadau Meistri, Triathlon neu Iron Man yn 2017 efallai mai ein Cynnig Ychwanegol Gweithgareddau Dŵr yw beth sydd ei angen arnoch. Mae'r sesiynau FAST yn addas i bob gallu gan gynnwys gwella ffitrwydd, triathletwyr a chystadleuwyr Iron Man. Gall y sesiynau hyn helpu i wella eich amseroedd a'ch technegau yn ogystal â gwella eich pellter.

SYNRGY

Mae offer 'lle chwarae' SYNRGY360 yn fwy na dim ond ymarfer corff. Mae'r syniad chwyldroadol hwn yn cynnig cyfleoedd dirifedi i ymarfer yn glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol. Mae SYNRGY360 yn rhoi amrywiaeth o fanteision i'r defnyddiwr er mwyn sicrhau ei fod yn teimlo ei fod wir wedi gweithio'n galed erbyn diwedd y sesiwn.

Mae’r manteision yn cynnwys:

  • Sesiwn ymarfer effeithiol ar gyfer y corff cyfan, mewn un man.
  • Gwnewch yr ymarferion yn ôl eich cyflymder eich hun, p'un a ydych yn athletwr elît neu'n ddechreuwr.
  • Defnyddiwch bwysau eich corff neu bwysau o'ch dewis wrth bob gorsaf er mwyn taro'ch amcanion perfformiad.
  • Gwellwch eich cryfder gweithredol at ddibenion cydbwysedd a symudedd ac i atal anafiadau.

 

Dyma rai o fanteision ein Cynigion Ychwanegol unigryw sydd ar gael i chi. Nod y sesiynau hyn yw eich helpu i gyrraedd eich nodau. Mae cyngor arbenigol wrth law, yn ystod pob sesiwn. Cofiwch y wybodaeth ychwanegol ar ddiwedd y sesiwn a'i defnyddio yn eich cystadlaethau.

 

I gael rhagor o wybodaeth am bob un o'n Cynigion Ychwanegol cliciwch isod:

Cynnig Ychwanegol FAST

Cynnig Ychwanegol Synrgy



Beth sy’n digwydd yn y Flwyddyn Newydd??

Mae llawer o bethau’n digwydd yn Actif yn y Flwyddyn Newydd. Peidiwch â cholli’r cyfle, edrychwch ar yr amserlenni newydd ar gyfer y dosbarthiadau ffitrwydd a’r pwll nofio yn eich ardal chi nawr.

Amserlen Pwll Nofio Amserlen Dosbarth Ffitrwydd
Caerfyrddin      Caerfyrddin
Llanelli Llanelli
Dyffryn Amman Dyffryn Amman
Llanmyddyfri Castell Newydd Emlyn
  Sanclêr
  SYNRGY   

 



Waw, yn dyw hi 'di gwneud yn dda?

 
Fi yw Christina Appleby-Phillips (Chrissie yn fyr). Rwy'n gweithio yng Nghanolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn fel hyfforddwr Ffitrwydd a Chynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) ac rwyf wedi gwneud ers tua 9 mlynedd bellach. Roeddwn bob amser yn cystadlu mewn chwaraeon, sef pêl-droed a phêl-fasged yn bennaf, pan oeddwn yn ifanc ac wedyn fe ddes ar draws codi pwysau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau codi pwysau (sef cyrcydu, codi pwysau ar y fainc, a chodi pwysau marw).

Rwy'n bencampwraig codi pwysau Cymru yn y categori dan 84 cilogram ar hyn o bryd. O ganlyniad, roeddwn yn gymwys i gystadlu ym mhencampwriaethau Prydain, lle des i'n 3ydd gyda chyfanswm o 437.5 cilogram. Llwyddais i dorri record codi pwysau ar y fainc Prydain ar yr un pryd trwy godi 102.5 cilogram. Fy nodau wrth gamu ymlaen yn amlwg yw ennill Pencampwriaeth Codi Pwysau Prydain, a chynrychioli Prydain ym mhencampwriaethau'r byd, felly byddaf yn ymarfer yn galed i wireddu hyn. 



Y Cynllun Tocyn Hamdden

Mae’n hawdd cael Tocyn Hamdden ac fe fydd yn rhoi gostyngiad o hyd at 40%*  ichi ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn unrhyw un o’r pedair canolfan hamdden a restrir isod. Cynigir gostyngiad ar gyfer y gweithgareddau canlynol: y stiwdio ffitrwydd, y pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a gêmau raced.

Mae'r cyfleusterau canlynol yn rhan o'r Cynllun:

Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn, Llanelli a Dyffryn Aman.

Cynigir gostyngiadau o hyd at 40% ar gyfer gweithgareddau detholedig yn y canolfannau hamdden a enwir uchod yn ystod yr oriau tawel. Cynigir gostyngiad o 10% ar adegau eraill. I weld manylion llawn y gostyngiadau a gynigir, edrychwch ar y daflen Rhestr Brisiau yn un o'r canolfannau hamdden sy'n rhan o'r cynllun hwn.  Ystyr oriau tawel yw o'r adeg pan mae'r ganolfan yn agor hyd at 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn amodol ar yr oriau agor cyhoeddus.

 

Mae'r Categorïau'n cynnwys:

 

  • Tocyn Myfyriwr
  • Tocyn Budd
  • Tocyn Hŷn a Heini
  • Tocyn Teyrngarwch (10% o ostyngiad bob amser)

 

Mae'r Tocyn Myfyriwr ar gael i:

 

  • Myfyrwyr / Disgyblion mewn addysg

 

14 oed a hŷn

 

Mae'r Tocyn Budd ar gael i:

 

  • Y sawl sy'n cael budd-daliadau*
  • Hefyd, plant dibynnol 16 oed ac iau rhywun sy'n meddu ar Docyn Budd ac sy'n byw yn yr un cyfeiriad

 

*Mae'r sawl sy'n cael y budd-daliadau canlynol yn gymwys i wneud cais:

 

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Tai / Budd-dal y Dreth Gyngor
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gofal Analluedd

 

Lwfans Anabledd Difrifol a mathau eraill o Lwfansau a Budd-daliadau Anabledd

 

Mae'r Tocyn Hŷn a Heini ar gael i:

 

Yr holl gwsmeriaid 50 oed a hŷn

 

Mae'r Tocyn Teyrngarwch ar gael i:

 

  • Yr holl gwsmeriaid
  • Wedi'i rannu yn: Tocyn Teyrngarwch Oedolyn (dros 16 oed) a Thocyn Teyrngarwch Iau (16 oed ac iau)

 

Y ffïoedd ymuno ar gyfer y cynllun yw:

 

Tocyn Hamdden

Cost

Hyd

Tocyn Myfyriwr

&10.00

12 mis

Tocyn Budd

&5.00

6 mis

Tocyn Budd i Blant Dibynnol

Am ddim

6 mis

Tocyn Hŷn a Heini

&10.00

12 mis

Tocyn Teyrngarwch (Oedolyn)

&10.00

12 mis

Tocyn Teyrngarwch (Iau)

&5.00

12 mis