Wedi gorwneud hi dros y Nadolig?

Wedi gorwneud hi dros y Nadolig?




Wedi gorwneud hi dros y Nadolig?

Sicrhewch eich bod yn manteisio'n llawn ar Ffitrwydd Actif eleni. Gyda thair campfa sydd newydd gael eu hadnewyddu ac amrywiaeth o dros 80 o Ddosbarthiadau Ffitrwydd ar hyd a lled y sir, a chyda dosbarthiadau newydd yn cael eu hychwanegu ar gyfer y Flwyddyn Newydd, mae dewis helaeth ar eich cyfer yn 2017.

YN NEWYDD i Ffitrwydd Actif yn 2017

Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Gwersi Boxfit Newydd ar nos Iau am 7pm. Dosbarth yw 'Boxfit' sy'n cyfuno bocsio ac ymarfer corff mewn gweithgaredd hwyliog, sy'n cael gwared ar straen. 'Boxfit' yw un o'r mathau mwyaf effeithiol o draws-ymarfer sydd ar gael heddiw gan ei fod yn cyfuno ymarferion erobig ac anerobig i greu sesiwn ymarfer egnïol ac amrywiol. Bydd y sesiwn hon yn targedu ac yn gwella pethau megis cydsymud, cydbwysedd, cryfder a gwytnwch. Wrth weithio'n galed yn y sesiwn hon rydych yn sicr o gael hwyl a chael blas arni, ac mae'n addas i grŵp o bobl cymysg eu gallu.

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLFAN HAMDDEN CAERFYRDDIN

Canolfan Hamdden Llanelli - amrywiaeth o ddosbarthiadau newydd, gan gynnwys;

Kettlercise Combat Max
Cyfuniad cyffrous o bwysau tegell a chrefft ymladd cymysg (MMA). Mae'n darparu sesiwn ymarfer cardio uchel ar gyfer y corff cyfan, gyda phwyslais ar gryfder craidd a llosgi braster. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Siâp” LF connect

Her Driphlyg
Pwy ddywedodd fod ymarfer corff yn ddiflas? Mae'r sesiwn ymarfer hon ar gyfer y corff yn cynnwys 15 munud o amrywiadau aerobig: Stepio, Dawns, Cardio dwysedd uchel. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Symud” LF connect

Gwella Ffurf y Corff
Dosbarth effeithiol iawn ac egnïol dros ben sy'n defnyddio peli ymarfer, pwysau llaw a phwysau eich corff fel gwrthiant. Teimlwch yn fwy ffit ac egnïol yn 2017. Delfrydol i'r rheiny sydd yng “Ngrŵp Her” LF connect

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLFAN HAMDDEN LLANELLI

Mae Canolfan Hamdden Rhydaman hefyd wedi cyflwyno dau ddosbarth newydd y Flwyddyn Newydd hon.

Barbell Sculpt
Bydd y dosbarth hwn yn tynhau, yn ffyrfhau ac yn cryfhau eich corff i gyd, yn gyflym! Mae’r dosbarth hwn yn her i’ch holl brif grwpiau o gyhyrau tra byddwch yn cyrcydu, gwthio, codi a chyrlio.

Ioga-lates
Cyfle i wella ystwythder a chryfder drwy gyfuniad o symudiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan ioga a Pilates. Addas ar gyfer pob gallu a lefel ffitrwydd.

DOSBARTH FFITRWYDD CANOLDFAN HAMDDEN DYFFRYN AMAN

Peidiwch ag anghofio bod gennym ni ddewis o Ddosbarthiadau Ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden Castellnewydd Emlyn a Sanclêr hefyd.

Os ydych am wybod rhagor am Ffitrwydd Actif cliciwch yma.



LF Connect

Rydym am arloesi yn y modd yr ydych yn mwynhau manteision iechyd a ffitrwydd yn 2017. Daw ein holl gyfarpar cardio newydd sbon gyda'r Ap Ffitrwydd arloesol LF Connect, sydd wedi'i fwriadu i'ch helpu i wneud y gorau o'ch ymweliadau â'r gampfa.  

  • Ewch ati i greu eich ymarferion personol eich hun a bydd ein gweithwyr proffesiynol Ffitrwydd Actif yn anfon atoch ymarferion sydd wedi'u teilwra ar sail eich nodau
  • Cofnodwch weithgareddau awyr agored trwy system leoli fyd-eang (GPS) megis cerdded, rhedeg a hyd yn oed beicio ac ailchwarae hyn ar y consol Discover
  • Olrheiniwch eich cynnydd
  • Rhannwch eich ymarferion / eich canlyniadau â'ch ffrindiau
  • Ymunwch ag un o'n 10 "Grŵp" o Iechyd i Berfformio  

Achubwch y blaen ar y gystadleuaeth, personolwch eich profiad campfa a lawrlwythwch yr ap iPhone LF Connect neu Android AM DDIM.

Cysylltwch â Ffitrwydd Actif mewn ffordd gwbl newydd - dechreuwch bersonoli a gwella eich profiad campfa yn 2017. 

Pam aros, cofrestrwch â LF Connect heddiw.



Osgowch y ciwiau y flwyddyn newydd hon!

Mae Ciosgau bellach wedi'u gosod ym mhob canolfan, felly yn lle sefyll yn y ciw yn aros i gael archebu eich sesiwn, sganiwch eich cerdyn aelodaeth drwy'r ciosg, dewiswch eich gweithgaredd a bant â chi, mae mor syml â hynny. 

Fel aelod gwerthfawr o gyfleusterau hamdden Sir Gaerfyrddin, oeddech chi'n gwybod bod modd i chi hefyd archebu Ar-lein.

Bellach gallwch archebu a thalu am y canlynol:

  • Badminton
  • Sboncen
  • Tennis Bwrdd
  • Tennis
  • Dosbarthiadau Iechyd a Ffitrwydd

Sut i archebu ar-lein, dilynwch y 5 cam syml hyn:

Cam 1) Ewch i'n gwefan;http://www.actifsirgar.co.uk/cy/hafan  

Cam 2) Cliciwch ar y botwm Archebion Yma

Cam 3) Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich Cyfeirnod Aelodaeth a'ch Rhif Pin.

Cam 4) Dewiswch y safle a ffefrir gennych

Cam 5) Dewiswch y dosbarth yr ydych yn dymuno archebu ar ei gyfer.

Oeddech chi'n gwybod? Gall aelodau archebu hyd at 14 diwrnod o flaen llaw.



Dysgwch Nofio gyda ni yn Actif

Mae adroddiad 'Turning the Curve on Childhood Obesity', a ysgrifennwyd gan y Grŵp Llywio Atal Gordewdra Plant, yn edrych ar nifer o weithredoedd allweddol y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd presennol mewn gordewdra plant. A wyddech chi mai Cymru sydd â'r lefelau uchaf o ordewdra plant yn y DU, gyda 34% o blant yn cael eu hystyried dros bwysau neu'n ordew ar hyn o bryd, gan gynnwys 19% yn ordew¹.  Mae'r dystiolaeth hon yn syfrdanol, ond mae modd ei atal. Yn ôl yr adroddiad, un o'r newidiadau y gellir ei wneud er mwyn lleihau'r cynnydd mewn gordewdra plant yw annog mwy o blant i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac i wirioni ar chwaraeon.

Felly sut mae Acwa Actif yn helpu ein cenhedlaeth iau i ddod yn fwy egnïol yn amlach?

Yma yn Actif, rydym wedi cyflwyno rhaglen weithgareddau dŵr lefel mynediad newydd o'r enw Sblash, sydd yn agored i blant o 3 mis oed hyd at oedolion. Un o brif nodau Acwa Actif yw sicrhau bod pob plentyn yn gallu nofio erbyn iddynt gyrraedd 11 oed.

Mae ein rhaglen Sblash yn fan cychwyn i bob plentyn sydd am ddechrau ar ei daith weithgareddau dŵr gyda ni yma yn Actif. Mae'n addas i bob plentyn o 3 mis oed a hŷn. Mae athro wrth ymyl y pwll yn y sesiynau yma, a fydd yn helpu i annog a llywio eich plentyn yn ddiogel drwy'r dŵr. Cynigir un sesiwn yr wythnos sy’n helpu i greu arferiad oes i deuluoedd. Manteisiwch ar y cynnig hwn i blant Nofio am Ddim ar benwythnosau.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hyn sydd gan Acwa Actif i'w gynnig cliciwch yma.

¹Ymchwil Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (2013) Arolwg Iechyd Cymru, 2012. Ar gael ar-lein yn http://gov.wales/statistics-and-research/?skip=1&lang=cy



Gofalwch fod eich plant yn Actif yn y flwyddyn newydd!

Beth am ddod â nhw i’r Clwb Actif yn eich canolfan hamdden leol?

Gyda dewis eang o weithgareddau hwyliog, i blant o 8-12 oed megis rygbi tag, tenis, polo-dŵr mini, pêl-rwyd, pêl-droed ,a sesiwn 'gwlyb a gwyllt' yn y pwll, bydd eich plant siŵr o ddatblygu eu sgiliau chwaraeon, gwneud ffrindiau newydd a chael amser gwych.

I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle ewch i wefan y Clwb Actif wrth glicio yma .

Eich Clwb Actif Lleol -

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman – 01269 594517

Canolfan Hamdden Caerfyrddin – 01267 224700

Canolfan Hamdden Llanelli - 01554 774757



Taith y Mis

Hoffi'r hyn rydych yn ei weld? Peidiwch oedi! Ewch i ganolfan gyfagos heddiw!

A wyddech chi fod modd archebu Taith o gwmpas yr holl ganolfannau hamdden?

Archebwch eich taith heddiw!

Teithiau o gwmpas Canolfan Hamdden Caerfyrddin - Dydd Llun – Dydd Sul 10am-7pm

Anfonwch e-bost i actifsirgar@sirgar.gov.uk, am ragor o wybodaeth neu er mwyn archebu taith.



Mynd bant i’r llethrau’n fuan – beth am achub y blaen?? 

Mae'r tymor sgïo yn ei anterth ac felly hefyd brif gyrchfan sgïo Sir Gaerfyrddin, Canolfan Sgïo Pen-bre. Lleolir y Ganolfan Sgïo ym Mharc Gwledig Pen-bre, sydd oddi ar ffordd arfordirol yr A484 o Lanelli i Gaerfyrddin ger Porth Tywyn. Mae'r parc oddeutu taith hanner awr mewn cerbyd o Gaerfyrddin ac oddeutu'r un pellter o Gyffordd 48 yr M4.

Does dim angen i chi fynd ar eich gwyliau i Alpau'r Swistir i ddysgu sut mae Sgïo neu Eirfyrddio, gallwch feistroli'r campau hyn heb fynd yn agos at eira. Mae Canolfan Sgïo Pen-bre yn darparu ar gyfer pobl o bob gallu. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu eisiau gloywi eich techneg, mae rhywbeth yno i chi.

Nid cyrchfan sgïo yn unig yw Canolfan Sgïo Pen-bre fodd bynnag - mae cymaint mwy o bethau i'w harchwilio yn y ganolfan ac o'i chwmpas.

Dyma rai yn unig o'r gweithgareddau y gallech roi cynnig arnynt yn y Ganolfan Sgïo...

  • Sgïo - Sgïo Hamdden i Blant &8; Oedolion &11
  • Gwersi Sgïo - Plant &10.50; Oedolion &16 (Angen archebu ymlaen llaw)
  • Tiwbio – Plant &7, Oedolion &10 (hyd at 12 o bobl, 6+ oed). Argymhellir eich bod yn archebu ymlaen llaw
  • Llogi Beiciau – Beiciau plant (20” a 24”) - 2 awr &5, 4 awr &7, trwy'r dydd &10

Beiciau oedolion - 2 awr &8, 4 awr &10, trwy'r dydd &18; Ôl-gerbydau &5

  • Golff Disg - Plant &2.50, Oedolion &3.50 (blaendal ad-daladwy o &5 ar ddisgiau)
  • Tobogan Cobra - &2.50 y tro, neu 3 am &5

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ffoniwch 01554 834443

Edrychwch ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth:

Canolfan Sgïo Pen-bre - http://www.discovercarmarthenshire.com/cymraeg/actif/sgio.html

Parc Gwledig Pen-bre - http://www.discovercarmarthenshire.com/pembreycountrypark/cymraeg/index.html