Taith y Mis

Taith y Mis




Taith y Mis

Hoffi'r hyn rydych yn ei weld? Peidiwch oedi! Ewch i ganolfan gyfagos heddiw!

A wyddech chi fod modd archebu Taith o gwmpas y Ganolfan?

Archebwch eich taith heddiw!

Teithiau o gwmpas Canolfan Hamdden Llanelli - Dydd Llun – Dydd Sul 10am-7pm

Anfonwch e-bost i actifsirgar@sirgar.gov.uk, am ragor o wybodaeth neu er mwyn archebu taith.



Datblygu Sboncen 

 

Cynhaliodd clwb sboncen Caerfyrddin ddigwyddiad datblygu olaf 2016 Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ddydd Gwener, 29 Rhagfyr 2016. Daeth nifer o bobl ynghyd i weld 31 o blant iau yn cystadlu o lawer o wahanol glybiau sboncen, gan gynnwys Caerfyrddin, Meads, Canolfan Hamdden Llanelli, Clwb Tennis a Sboncen Llanelli, Penfro, y Tyllgoed, Aberdâr, Castell-nedd a Phorthcawl. Daethant i gyd at ei gilydd i gymryd rhan ac i losgi rhai o galorïau ychwanegol yr ŵyl.

Mae digwyddiadau datblygu yn ffordd wych o ddod a chlybiau at ei gilydd ac yn gam cyntaf pwysig i blant, gan roi'r cyfle iddynt gystadlu heb fod pwysau arnynt. A chyda cymaint o amrywiaeth o dalent a gallu i'w gweld, o ddechreuwyr i'r rhai sy'n chwarae yn y garfan genedlaethol, roedd modd i chwaraewyr newydd wylio sboncen o'r lefel uchaf, gan agor eu llygaid i'r hyn sy'n bosib iddynt gyda pheth amser ac ymdrech.

Ond mae'r digwyddiadau yn mynd ymhell y tu hwnt i sboncen. Maent yn dod â phlant iau ynghyd o wahanol glybiau a gellir eu gweld yn llunio cyfeillgarwch parhaol drwy gydol y dydd. GWYCH!

Cafwyd tri chategori - A, B ac C. Roedd wyth chwaraewr yng nghategori A a chafodd y dorf flas ar ornestau caled o sboncen wych o'r dechrau i'r diwedd. Mae holl chwaraewyr grŵp A yn rhan o academi sboncen Cymru neu'r garfan genedlaethol. Roedd hi'n braf hefyd gweld Olivia Stephens yn gwirfoddoli i fod yr wythfed aelod o'r grŵp. Da iawn Olivia!

Enillydd Grŵp (A)

Arran Edwards - Aberdâr (pob lwc i ti yn y Bencampwriaeth Sboncen Iau)

2il Tomos Edmonds – Meads

3ydd Zoe Edwards – Aberdâr

4ydd Lewis Audsley – Porthcawl

 

Roedd 14 o blant iau yng ngrŵp (B), eto o allu tebyg gyda gornestau caled trwy gydol y dydd

Enillydd Grŵp (B)

Jack Edwards – Aberdâr

2il Emily Gray – Meads

3ydd Luke Evans – Clwb Tennis a Sboncen Llanelli 

4ydd Jake Edwards – Meads

Roedd naw plentyn iau yn cystadlu yng ngrŵp (C) ac yn derbyn hyfforddiant wrth iddynt chwarae. Y tro cyntaf ar gwrt oedd hi i rai. Gwych!

Enillydd Grŵp (C)

Scott Lewis-Armstrong – Canolfan Hamdden Llanelli

2il Millie Breach – Castell-nedd

3ydd Emma Ferns – Castell-nedd

Yn addas iawn, daeth y digwyddiad i ben drwy gyflwyno gwobr Siarter Arian i Glwb Sboncen Caerfyrddin. Caiff y cynllun ei reoli gan gorff llywodraethu Sboncen Cymru ac mae'r gwobrau siarter yn chwarae rhan allweddol o ran cydnabod arfer da o fewn clybiau. Er mwyn ennill y wobr, rhaid i glybiau ddangos eu bod yn cynnal polisïau a gweithdrefnau da ar gyfer oedolion a phlant iau. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod  hyfforddwyr a phob aelod o staff sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a'u bod yn cwblhau cwrs diogelu plant ag oedolion sy'n agored i newid. Rhaid iddynt ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd i gystadlu ar gyfer oedolion a phlant iau.

Yn yr un modd y mae nifer o glybiau sboncen yn chwarae o fewn cyfleusterau canolfannau hamdden, mae'r clwb wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin i gynnig hyfforddiant a chyfleoedd chwarae ar gyfer oedolion a phlant iau. Mae'r clwb a'r ganolfan ar eu hennill felly. Mae'r clybiau yn darparu hyfforddwyr cymwys i gynnal y sesiynau tra bod y ganolfan hamdden yn gallu cynnig y sesiynau yma i'w haelodau ac i'r cyhoedd. Y budd mwyaf i'r clwb yw y bydd yn helpu o ran cynaliadwyedd y clwb yn ogystal â'r chwaraeon yn ei hun.

Cafodd y wobr ei gyflwyno i Jenny Jones, prif hyfforddwr Caerfyrddin, sydd wedi bod yn allweddol o ran datblygu'r clwb a sicrhau bod gan y clwb y polisïau newydd diweddaraf.

Pete Crook, Swyddog Datblygu Gorllewin Cymru, cyflwynodd y wobr.

Llongyfarchiadau mawr, felly, i'r holl chwaraewyr a gymerodd ran yn y digwyddiad. Cafwyd gemau ardderchog o sboncen. Daliwch ati i ymarfer a chwarae'n ddwys, a hefyd i fwynhau chwarae sboncen.

Diolch i glwb sboncen Caerfyrddin am gynnal y digwyddiad ac i Jenny Jones, Nia Davies a Pete Crook am drefnu a chynnal y digwyddiad. Diolch hefyd i'r holl rieni ac aelodau teulu am ddod â'r plant iau i'r digwyddiad a'u cefnogi. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y digwyddiad nesaf... cadwch lygad ar dudalen Twitter Sboncen Cymru am y manylion.

Ac yn olaf, hoffem estyn diolch arbennig i Gary Price, Canolfan Hamdden Caerfyrddin a'i staff am eu holl gymorth a'u cefnogaeth. Rydym yn ffodus iawn o gael cymaint o gymorth arbennig gan yr awdurdod lleol. Trefnwyd bod y cyrtiau a'r neuadd ar gael i'r plant iau ar gyfer gweithgareddau megis pêl-droed, pêl-fasged a badminton wrth iddynt aros am eu gemau sboncen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â Pete Crook, Swyddog Datblygu Gorllewin Cymru, drwy anfon e-bost at petercrook23@hotmail.com neu ffonio 07809 236762.



SYNRGY yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin 

Dewch â'r teulu cyfan i sesiwn ymarfer corff arbennig dan arweiniad hyfforddwr yn ein hystafell SYNRGY 360! Adeiladwyd yr ystafell bwrpasol hon er mwyn creu a darparu awyrgylch ymarfer corff unigryw! Nid oes ffordd well o herio'r teulu cyfan i gymryd rhan mewn ymarfer corff nag yn yr amgylchedd hwyliog, cyffrous ag egnïol hwn. Bydd ein hyfforddwyr cymwysedig yn sicr o'ch gwthio i'r eithaf.

Gellir addasu'r ymarferion er mwyn diwallu anghenion aelodau iau'r teulu gan ganiatáu iddynt fod yn ddigon heriol i blant ac i oedolion ar yr un pryd. Trwy ddefnyddio opsiynau ymarfer corff sydd bron yn ddi-ben-draw, ychwanegiadau opsiynol ac adnoddau ymarfer dynamig, byddwn yn sicrhau bod profiad SYNRGY 360 yn fwy na sesiwn ymarfer arferol.

Mae'r syniad arloesol hwn yn darparu cyfleoedd i gynnig sesiwn ymarfer mewn grŵp bach sy’n ddynamig ac yn gyffrous i bawb.

Mae'r ystafell yn cynnwys system sain a goleuadau sy'n sicr o godi'r curiad calon a'ch ysbrydoli i wneud ymarfer corff! Mae gennym brisiau gostyngedig ar gyfer ein haelodau hefyd. Yn ogystal, rydym yn cynnig yr aelodaeth ychwanegol i SYNRGY i unrhyw ddebydau uniongyrchol, a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn unrhyw un o'r 17 o ddosbarthiadau sy'n cael eu cynnal bob wythnos.

I archebu lle ewch i: www.actifsirgar.co.uk

I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma.



Chwilbedlo Rhithwir yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

Dewch i'r ganolfan ac ewch ar feic o'ch dewis a fydd yn eich arwain drwy wahanol dirweddau gan ddod o hyd i dirluniau trawiadol y gellir eu dilyn ar y sgrin. Wrth ymdroelli ar hyd y ffyrdd, y llwybrau a'r traciau byddwch yn cael eich herio gan ddulliau ymarfer corff ysbeidiol a dulliau eraill sy'n gwella eich dycnwch.

Bydd y rhain yn sicr o'ch gwthio i'r eithaf. Cewch eich gwobrwyo â chyfnodau o orffwys ger rhai o dirnodau mwyaf prydferth y wlad. Teithiwch ar draws Seland Newydd neu Ganada ar ymgyrch i roi hwb i'ch ffitrwydd cardiofasgwlaidd ac i ymarfer rhan isaf y corff.

Beth mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid Talu Fesul Sesiwn ac i'r aelodau? Mae'n golygu rhagor o amrywiaeth a'r gallu i chwilbedlo bron â bod ar unrhyw adeg y mae'r clwb ar agor, y tu allan i'r sesiynau beicio dan gyfarwyddyd yr hyfforddwr. Mae'r llwybrau anhygoel ar gael i unigolion o bob lefel ffitrwydd ac maent yn sicr o roi her i bob un ohonoch a fydd yn eich annog i barhau i’ch gwthio eich hun.

Cewch eich arwain drwy'r profiad ymarfer cyfan a byddwch yn gadael gyda'r teimlad arbennig o fod wedi cyflawni sesiwn wych!



Mae arnom eich angen! 

Ydych chi dros 16 oed?

Ydych chi am fod yn aelod o dîm sy'n dysgu dros 2,500 o blant y Sir i nofio?

Mae Gweithgareddau Dŵr yn elfen allweddol o'n gweithgareddau i blant iau ac wrth gyflwyno Sblash i'n Rhaglen Dysgu Nofio, rydym yn cyflwyno nofio i blant dan 4 oed. 

Mae darparu cynorthwywyr yn y dŵr yn ystod y sesiynau hyn wedi agor llwybr newydd i'r rheiny sy'n chwilio am yrfa ym maes hamdden ac i'r rheiny sy'n chwilio am opsiynau heriol i wirfoddoli fel rhan o'u haddysg.

Dywedodd Steffan, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn Sblash ers i’r gweithgaredd hwn gael ei gyflwyno i'n rhaglen, "Mae bod yn gynorthwyydd yn brofiad gwerthfawr iawn – gallwch gael effaith gadarnhaol iawn ar y plant, ac mae bod yn rhan o'u datblygiad yn deimlad mor foddhaus"

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, cyfeillgar ac ymroddgar i ymuno â'n tîm – a oes gennych chi'r hyn sydd ei eisiau?

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â; actifsirgar@sirgar.gov.uk



Ymestyn Oriau Agor y Gampfa 

Mae Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn bellach ar agor o 6:45am ymlaen ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. http://www.actifsirgar.co.uk/cy/leisure-centres-2/castell-newydd-emlyn

Mae Canolfan Hamdden Caerfyrddin bellach ar agor rhwng 8:00am a 6:00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. http://www.actifsirgar.co.uk/cy/leisure-centres-2/caerfyrddin

Mae Canolfan Hamdden Dyffryn Aman bellach ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Iau o 6:30am ymlaen. http://www.actifsirgar.co.uk/cy/leisure-centres-2/dyffryn-aman

Mae Canolfan Hamdden Llanelli bellach ar agor rhwng 8:00am a 6:00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. http://www.actifsirgar.co.uk/cy/leisure-centres-2/llanelli-cy