Neidiwch mewn i siâp am llai gydag Synrgy

Neidiwch mewn i siâp am llai gydag Synrgy




Neidiwch mewn i siâp am llai gydag Synrgy

Rydym yn gwybod nad yw'n hawdd cael eich cymell i ymarfer o hyd, felly gadewch i ni eich cyflwyno i Synrgy 360 a allai wneud eich trefn ymarfer yn fwy diddorol wrth barhau i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.

P'un a ydych am fod yn fwy ffit, colli pwysau neu gryfhau - bydd Synrgy 360 yn eich helpu i gyrraedd yno ac yn gyflymach.

Cynnig arbennig y Gwanwyn

Am gyfnod cyfyngedig yn unig, rydym yn cynnig aelodaeth ganlynol am HANNER PRIS am un mis yn unig;

  • Aelodaeth Synrgy (ychwanegol) am aelodau newydd a phresennol – DIM OND &7*
  • Aelodaeth Synrgy (ychwanegol) am aelodau Iau newydd a phresennol – DIM OND &5*
  • Aelodaeth offer Synrgy yn unig  am aelodau newydd a phresennol – DIM OND &10*
  • Aelodaeth offer Synrgy yn unig  am aelodau Iau newydd a phresennol – DIM OND &7*

*Un mis yn unig. 2 ddosbarth Synrgy yr wythnos fesul person. Dim ond ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Cynnig yn gorffen 30 Ebrill 2017.


Beth all dosbarthiadau Synrgy 360 ei gynnig i chi? 

  • Ymarfer amlswyddogaethol gyda chyfleoedd di-ri i hyfforddi yn gallach, yn well ac yn fwy effeithiol.
  • Ymarfer i’r corff cyfan sy’n cyfuno ymarfer cardiofasgwlaidd a chryfder dwysedd uchel mewn 30 munud
  • Mae pob sesiwn yn unigryw gyda gwahanol gyfuniadau
  • Gweithiwch ar eich cyflymder eich hun a heriwch eich hun. Mae lle i wella bob amser, felly ni fyddwch byth yn diflasu ar geisio gwella eich hun ym mhob dosbarth.
  • Ac yn bwysicaf oll MAE'N HWYL!
  • Amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gyfer gwahanol lefelau ffitrwydd

Mae dosbarthiadau Synrgy dim ond yn para 30 munud sy'n golygu eich bod yn gallu eu gwasgu i mewn cyn i chi ddechrau gweithio, yn ystod eich awr ginio neu yn syth ar ôl y gwaith, sy'n golygu y gallwch ymarfer ar adeg sy’n gyfleus i chi.

I fanteisio ar y cynnig hwn, ymaelodwch ar-lein neu ewch i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin a gofyn am fanylion wrth y dderbynfa.

Ddim yn aelod?

Ymaelodwch i fwynhau'r gampfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &24 y mis ar draws pob un o'n 5 Clybiau Ffitrwydd Actif. Cliciwch yma i ymuno heddiw!



Campfeydd sy'n Ystyriol o Deuluoedd

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod plant rhwng 11 a 13 oed bellach yn gallu ymarfer ein campfeydd*.

Mae hyn yn golygu y gallwch ymarfer fel teulu ym mhob un o'n canolfannau hamdden,  sy’n rhoi’r cyfle i chi gyflwyno manteision cadw’n heini’n rheolaidd i aelodau iau'r teulu, gan gynnwys:

  • rhoi hwb i lefelau ffitrwydd
  • cynnal pwysau iach, a
  • theimlo'n fwy egnïol

Rydym yn cynnig ystod eang o beiriannau cardiofasgwlaidd, gwytnwch ac offer rhyngweithiol Life Fitness gan wneud pob sesiwn ymarfer yn hwyl ar gyfer eich plentyn yn ei arddegau (nid yw’n cynnwys mynediad i'r lle pwysau rhydd).

Bydd angen i bob plentyn 11-13 oed fynychu cyflwyniad i'r gampfa cyn dechrau defnyddio'r offer.

Gall pobl ifanc yn eu harddegau sy’n 14 oed a throsodd fynychu ein campfeydd ac nid oes angen iddyn nhw fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

I drefnu sesiwn gynefino, cysylltwch â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700
Canolfan Hamdden Llanelli 01554 774757
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman 01269 594517
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn 01269 224731
Canolfan Hamdden Sanclêr 01994 231253

* Rhaid bod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

Ddim yn aelod?

Edrychwch ar ein Haelodaeth Gartref, berffaith i deuluoedd. Mae'r aelodaeth ar gael ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 4 o blant (dan 18 oed), sy’n rhoi mynediad llawn i chi ar deulu i'r gampfa, nofio a dosbarthiadau ar draws pob un o'n canolfannau hamdden. I ymuno cliciwch yma.



Taith y Mis - Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Hoffi'r hyn rydych yn ei weld?

Wel, ymaelodwch i Ganolfan Hamdden Dyffryn Aman heddiw.

Mae'r gampfa wedi'i chyfarparu ag offer ‘Life Fitness’ o’r radd flaenaf ac mae gan ein holl gyfarpar cardio newydd sbon Ap ffitrwydd arloesol LF Connect , sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i wneud y gorau o’ch ymweliadau â’r gampfa.

Archebu lle ar daith

Oeddech chi'n gwybod y gallwch archebu lle ar daith? Felly, gallwch gael golwg ar Ganolfan Hamdden Dyffryn Aman cyn i chi ymuno.

Mae’r teithiau yn digwydd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10am a 7pm.

Archebwch eich taith heddiw drwy gysylltu â derbynfa Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, drwy ffonio 01269 594517, neu e-bostiwch actifsirgar@sirgar.gov.uk

Ddim yn aelod?

Ymaelodwch i fwynhau'r gampfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &24 y mis ar draws pob un o'n 5 Clybiau Ffitrwydd Actif. Cliciwch yma i ymuno heddiw!



Sblasio yn y tonnau!

Yn dilyn llwyddiant a'r adborth ardderchog a gafwyd gan rieni ar gyfer ein rhaglenni Splash a Wave rydym yn falch o gyhoeddi bod y rhaglenni cyffrous hyn yn cael eu cyflwyno ym Mhwll Nofio Llanymddyfri.

Rydyn yn gweithio yn agos gydag Nofio Cymru i ddatblygu'r rhaglenni cyffrous yma sydd yn ffurfio fan cychwyn i daith Dysgu nofio.

Mae ein rhaglen Splash yn cyflwyno babanod o oedran 3 mis i weithgareddau hwyliog yn y dŵr i ddatblygu eu sgiliau gyda chymorth oedolyn yn y dŵr. Unwaith y byddant digon hyderus ac annibynnol yn y dŵr maent wedyn yn barod i symud ymlaen i'r rhaglen Wave.

Ein rhaglen Wave yw brif raglen 'Dysgu Nofio' sy'n dysgu'r sgiliau angenrheidiol sydd ei hangen arnynt i nofio, datblygu llythrennedd corfforol yn y dŵr sgiliau diogelwch hanfodol fel eu bod yn dysgu sut i fod yn ddiogel yn ac o amgylch dŵr.

Mae'r rhaglenni yma sy'n bodoli eisoes yn dechrau ym Mhwll Nofio Llanymddyfri ym mis Mai.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phwll Nofio Llanymddyfri ar 01267 224733.

Mae'r rhaglenni hyn hefyd yn cael eu darparu yn ein canolfannau hamdden eraill;

Canolfan Hamdden Caerfyrddin - 01267 224700
Canolfan Hamdden Llanelli - 01554 774757
Rhydaman Canolfan Hamdden - 01269 594517

Am ragor o wybodaeth naill ai gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol, anfonwch e-bost i actifsirgar@carmarthenshire.gov.uk  neu ewch i'n gwefan www.actifsirgar.co.uk



Dosbarthiadau ffitrwydd newydd wedi’u hychwanegu!

Rydym wedi cyflwyno dosbarthiadau NEWYDD i'n hamserlen dosbarthiadau ffitrwydd i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd.

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Gym LIT - bob dydd Mawrth a dydd Iau 11:30

Mae’r dosbarth effaith isel hwn, sy’n cyfuno amrywiaeth o ymarferion gan ddefnyddio ffrâm ffitrwydd synrgy, yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr ac oedolion hŷn.

Gym HIIT - bob dydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn 09:30

Sesiwn ymarfer hynod egnïol sy’n helpu i losgi braster, gwella gwytnwch ac adeiladu nerth.

‘Insanity’ - bob dydd Llun 07:30

Sesiwn ymarfer ddwys iawn sy’n defnyddio pwysau eich corff yn unig, a gynlluniwyd i herio’ch corff i’r eithaf.

Canolfan Hamdden Caerfyrddin a Chanolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Jungle Body Konga – Dechrau 1 Ebrill

Mae Jungle Body yn gyfuniad dwys iawn, hawdd ei ddilyn, o Focsio, Cardio, Dawns a Cherflunio i’r gerddoriaeth orau o bob degawd. Mae Konga yn ymarfer caled a gwyllt sydd â’r nod o siapio, cerflunio ac ailddiffinio eich corff.

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn – pob nos Lun, 5pm – 6pm

Canolfan Hamdden Caerfyrddin – pob nos Wener, 6pm – 7pm

Canolfan Hamdden Llanelli

Her Driphlyg - bob dydd Llun 09:30

Mae'r sesiwn ymarfer hon ar gyfer y corff yn cynnwys 15 munud o amrywiadau aerobig: stepio, dawns, cardio dwysedd uchel.

Bootcamp - bob dydd Mawrth o 06:45

Cyfuno ymarferion pwysau’r corff ag ymarfer â seibiannau ac ymarfer cryfder.

Kettlercise Combat Max - bob dydd Mawrth 06:45 a dydd Sadwrn 09:00

Cyfuniad cyffrous o bwysau tegell a chrefft ymladd gymysg. Mae'n darparu sesiwn ymarfer cardio uchel ar gyfer y corff cyfan, gyda phwyslais ar gryfder craidd a llosgi braster.

Cliciwch yma am yr holl ddosbarthiadau ffitrwydd.



Clwb Actif Gwyliau’r Pasg

Bydd Clwb Gwyliau Actif yn ôl ar gyfer gwyliau'r Pasg!

Mae ein Clwb Gwyliau Actif yn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau a chwaraeon i blant 8-12 oed yn ystod yr holl wyliau ysgol.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Pasg o 10 Ebrill tan 21 Ebrill rhwng 8.30am a 5.30pm (ar gau dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg) - sy'n berffaith ar gyfer rhieni sy'n gweithio.

Gall plant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau difyr yn ogystal â rhoi cynnig ar chwaraeon newydd tra eu bod yn gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r gweithgareddau'n amrywio o sblash a sleidiau i bêl-rwyd, cyrsiau rhwystr, coginio gwirion a Helfa Drysor y Pasg, a llawer llawer mwy.

Mae ein Clwb Gwyliau Actif wedi ei anelu at blant 8-12 oed – cofrestrwch eich plentyn am ddiwrnod neu am yr wythnos.

Mae Clwb Actif yn cael ei gynnal ym mhob un o'n Canolfannau Hamdden cliciwch ar y canolfannau islaw am yr amserlennu.

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman 01269 594517

Canolfan Hamdden Llanelli 01554 774757

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 01269 224731

Canolfan Hamdden Sanclêr 01994 231253



Sialens y Pasg

Mwynhewch y Pasg trwy fod yn ffit ag yn iach gyda'n her Pasg LF connect cyntaf erioed.

Heb gysylltu â LF Connect? Rydych yn colli gymaint, gan gynnwys;

  • Creu ymarferion personol eich hun 
  • Cofnodwch eich gweithgareddau awyr agored ac ailadrodd y rhu’n ymarfer ond yn y gampfa
  • Olrheiniwch eich cynnydd ffitrwydd
  • Rhannwch eith ymarferion ac ysbrydoli aelodau eraill
  • Derbyniwch heriau ffitrwydd llawn hwyl gan dîm Actif Ffitrwydd

Ar eich ymweliad nesaf i'r gampfa peidiwch ag anghofio gofyn i un o’r hyfforddwr i wneud yn siŵr eich bod wedi cysylltu.

Sialens y Pasg

Gwnewch yn siŵr y Pasg yma ei fod llawn hwyl drwy gymryd rhan yn ein her campfa'r Pasg trwy LF Connect.

Newidiwch ddanteithion gwningen y Pasg gyda ffitrwydd yn y gampfa yn lle.

Her: Cyrhaeddwch y targed 10,000 o galorïau ar offer cardiofasgwlaidd rhwng y 1af o Ebrill a'r 30ain mis Ebrill a fydd yr enillydd yn derbyn profiad canmoliaethus Synrgy 360 yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.

Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun 1 Fai.

Dyma rai awgrymiadau ar sut i daro'r targed hynny o 10,000 calorïau.

Ymaelodwch i fwynhau'r gampfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &24 y mis ar draws pob un o'n 5 Clybiau Ffitrwydd Actif. Cliciwch yma i ymuno heddiw!