Newydd! Amserlenni Dosbarthiadau Ffitrwydd a Nofio

Newydd! Amserlenni Dosbarthiadau Ffitrwydd a Nofio




NEWYDD! Amserlenni Nofio

P'un a ydych yn nofio am hwyl neu er mwyn cadw'n heini, mae ein pyllau Nofio Actif yn cynnig profiad gwych i'r teulu cyfan.

Cymerwch olwg ar ein hamserlenni nofio newydd yn ystod y tymor fan hyn, gan ddechrau o'r 1 Mai.

Heb fod yn nofio yn barod, pam felly? Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi ar gyfer babanod hyd at oedolion.  A does dim angen ichi aros i ddechrau nofio, gall nofwyr newydd gymryd rhan yn y cynlluniau ar unrhyw adeg gan mai asesiad parhaus ydyw.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Eisoes yn nofiwr? Dyma rai argymhellion i'ch helpu chi yn y pwll. 

  1. Canolbwyntio ar dechneg

Cadwch edrych ar waelod y pwll gan wasgu eich brest i awr a chadw eich pen, eich cluniau a'ch traed ar yr wyneb. Os yw'ch pen a'ch brest yn rhy uchel, bydd eich cluniau yn cwympo a bydd hynny'n eich arafu.

  1. Cicio â'ch cyhyrau craidd

Ciciwch o'r cluniau, mae symudiadau bach rhythmig yn eich gyrru ymlaen yn fwy effeithlon na chiciau mwy, ysgwydol.

  1. Peidiwch â gwastraffu eich anadl

Peidiwch ag anadlu'n drwm bob tro y mae eich pen yn agos at yr arwyneb, ceisiwch sicrhau bod pob anadl yn cyfrif. Wrth i'ch gwytnwch wella, ceisiwch anadlu ar wahanol ochrau a chofiwch osgoi codi eich pen cyfan i anadlu.

  1. Peidiwch â chyfrif y lapiau, gwnewch i bob lap gyfrif

Mae pob lap yn gyfle i wella p'un ai eich bod yn canolbwyntio ar eich strôc, eich anadlu neu ar gicio ychydig yn gyflymach. Canolbwyntiwch ar feysydd rydych eisiau eu gwella.

  1. Cynllunio gwell ymarfer

Beth am wella eich ymarfer nofio trwy gyflwyno heriau megis ymarferion ysbeidiol - bydd hyn yn gwneud y sesiwn yn fwy cyffrous a hefyd yn gwella eich cyflymder, eich gwytnwch a'ch ffitrwydd. 

Ddim yn aelod Actif? Beth am ymaelodi a mwynhau sesiynau campfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &25 y mis ym mhob un o'n 5 Clwb Ffitrwydd Actif. Cliciwch fan hyn i ymuno heddiw!



Newydd! Amserlenni Dosbarthiadau Ffitrwydd 

Mae ein hamserlenni dosbarthiadau ffitrwydd newydd yn cael eu lansio ar 1 Mai, ond gallwch eu lawrlwytho nawr!

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Canolfan Hamdden Llanelli

Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn

Canolfan Hamdden Sanclêr

Gyda dros 80 + o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws ein 5 canolfan hamdden mae gennym ddigon o ddosbarthiadau i chi eu dewis gan gynnwys Kettlercise Combat MX, Bootcamp, Ioga, Body Jungle Konga i enwi dim ond rhai.

Oeddech chi'n gwybod? Fel aelod, gallwch archebu eich lle ar-lein ar gyfer unrhyw un o'n dosbarthiadau ffitrwydd bythefnos o flaen llaw. Cliciwch yma i archebu eich lle heddiw.

Ddim yn aelod? Mae ein haelodaeth hollgynhwysol yn dechrau o &25 y mis sydd yn cynnwys y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio. Ymunwch ar-lein heddiw 



Taith y Mis - Y Llethrau amdani!

Does dim angen ichi fynd i dop mynydd yn yr eira i brofi'r hyn sydd ar gael yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre. Yn hytrach, gallwch weld beth sydd ar gael yn y ganolfan o foethusrwydd eich cartref! 

Hoffi'r hyn rydych yn ei weld?

Mae Canolfan Sgïo Pen-bre, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, yn fan gwych os ydych chi eisiau dysgu sgïo neu eirafyrddio.

Yn y Ganolfan, ceir prif lethr sgïo 130 metr o hyd a llethr llai 40 metr o hyd sy'n golygu bod rhywbeth i bawb ar gael yno p'un a ydych yn rhoi cynnig ar sgïo neu eirafyrddio am y tro cyntaf oll, yn ceisio gwella eich technegau neu'n trefnu digwyddiad grŵp.

Does dim angen archebu ymlaen llaw felly gallwch ddod ar hap i sgïo neu eirafyrddio yn eich amser sbâr. Cynghorir i grwpiau mawr archebu ymlaen llaw. Darperir yr holl offer neu gallwch ddod â'ch offer eich hunain ac arbed arian!

Yn ogystal mae hyfforddiant arbenigol ar gael gan hyfforddwyr cymwys proffesiynol ASSI / BASI sy'n addas ar gyfer eich anghenion p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n sgïwr proffesiynol.  Mae'r opsiynau'n cynnwys;

  • Gwersi Sgïo mewn Grŵp
  • Gwersi i glwb neu ysgol a drefnir ymlaen llaw
  • Gwersi sgïo neu eirafyrddio preifat
  • Hyfforddiant rasio er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau a pherfformiad Rasio Alpaidd
  • Hyfforddiant i'ch helpu chi i fod yn hyfforddwr sgïo llethrau artiffisial

Mae'r uchod yn seiliedig ar hyfforddiant sy'n para 1 awr gan gynnwys llogi offer

Nid ar y llethrau yn unig y mae hwyl i'w gael cofiwch... Yn ystod eich ymweliad, beth am roi cynnig ar y profiad tobogan gorau oll? Mae'r tobogan sy'n cael ei adnabod fel 'Cobra' yn un o'r reidiau tobogan hiraf yng Nghymru. Peidiwch â cholli'r cyfle cyffrous i gael reid o amgylch y llethr sgïo.

Chwant prynhawn allan yn yr awyr agored? Beth am roi cynnig ar y cwrs golff pitsio a phytio heriol naw twll sydd yng nghanol gwyrddni'r parcdir.

Ac os nad yw hynny'n ddigon, beth am logi beic a mynd ar daith ar hyd llwybrau beicio oddi ar y ffordd drwy Barc Pen-bre.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Sgïo Pen-bre yn uniongyrchol drwy ffonio 01554 834443.



Ymarfer cyn cael babi 

Rydym wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn lansio cynllun newydd i gefnogi darpar famau i fod yn egnïol ac iach yn ystod eu beichiogrwydd.

Mae'r cynllun, sef 'Baby Let's Move,' yn darparu rhaglen gweithgareddau corfforol 16 wythnos o hyd er mwyn helpu mamau sy'n feichiog i gynnal pwysau iach drwy gydol y beichiogrwydd.

Mae nifer o fanteision o gymryd rhan yng nghynllun Baby Let's Move, gan gynnwys;

  • Gwella rheolaeth ar bwysau a enillir yn ystod beichiogrwydd.
  • Gwella hwyliau a hunan-barch
  • Gwella cwsg a chylchrediad
  • Gallu ymdopi'n well ag esgor a genedigaeth
  • Cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiadau

Sut y gallaf i gael fy nghyfeirio at y cynllun atgyfeirio ymarfer corff?

Bydd angen ichi wneud apwyntiad gyda'ch bydwraig.  Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun yna bydd eich bydwraig yn cwblhau ffurflen gyfeirio.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich cyfeirio?

Gofynnir ichi fynychu ymgynghoriad cychwynnol ar adeg sy'n gyfleus ichi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli neu Rydaman.  Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniad i'r cynllun, taith o amgylch y ganolfan hamdden ac asesiad iechyd.

A fyddaf i'n ymarfer ar fy mhen fy hun a pha mor aml bydd angen i mi fynychu'r dosbarthiadau atgyfeirio?

Byddwch yn ymarfer gydag eraill ar ffurf grwpiau mewn amgylchedd cyfeillgar drwy gydol y rhaglen sy'n para 16 wythnos.

Bydd y rheiny sy'n cael eu hatgyfeirio yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn yr wythnos.

Beth yw’r gost?
Mae'r sesiynau AM DDIM!

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun, cysylltwch â'ch bydwraig neu;

Simon Davies, Cydgysylltydd Gweithgareddau drwy ffonio 01269 590266

Helen James, Bydwraig yn Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 07970 814694

E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk



Chwant £1500 ar gyfer eich prosiect chwaraeon cymunedol?

Mae cyllid Cist Gymunedol yn rhoi cyfle i sefydliadau cymunedol gael mynediad i hyd at &1500 i'w helpu nhw i wella cyfranogiad a safonau o fewn eu clwb. 

Yn ystod 2016-17, gwnaethom ddosbarth ychydig dros &83,000 o grantiau Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru i 71 o sefydliadau chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, sef arian sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i'w helpu i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon yn y sir.

Trwy gydol 2017-18, byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda nifer o glybiau a sefydliadau i nodi meysydd posibl i'w gwella ac i annog prosiectau sy'n;

  • Gwella lefelau cyfranogiad
  • Gwella safonau trwy wella sgiliau gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, swyddogion a phobl mewn rolau gweinyddol.
  • Darparu cyfleoedd chwaraeon hygyrch ac o safon i bobl o bob oedran
  • Creu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc

I wneud cais

Mae angen cyflwyno ceisiadau ar-lein cyn y dyddiadau cau (gweler isod) trwy fynd i wefan Chwaraeon Cymru, cliciwch fan hyn i gwblhau eich cais.

Neu, cysylltwch â Hilary Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon i gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich clwb neu'ch prosiect - 01267 224714 neu HGJones@sirgar.gov.uk 

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

Cyfarfod y Panel

Dydd Mercher, 31 Mai 2017

Dydd Mercher, 14 Mehefin 2017

Dydd Iau, 27 Gorffennaf 2017

Dydd Iau, 10 Awst 2017

Dydd Mawrth, 19 Medi 2017

Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017

Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017

Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017

Dydd Iau, 11 Ionawr 2018

Dydd Iau, 25 Ionawr 2018



Mis Mai - Mis Cerdded!

Nid un cam mawr sydd angen ei gymryd ond nifer o gamau bach.

Trwy gydol mis Mai, mae'n Fis Cerdded Cenedlaethol felly mae'n amser codi ar eich traed a cherdded mwy. 

Cerdded yw un o'r meddyginiaethau gorau sydd i gael yn ôl pob sôn ac mae'n rhaid dweud ein bod ni'n cytuno! Mae manteision di-ri i'r ymarfer ysgafn, hamddenol hwn sy'n hawdd ac ar gael i bawb gan gynnwys cynnal pwysau iach, lleihau straen a lleihau'r risg o gael afiechyd cronig i enwi ond ychydig.

Beth am ddechrau cerdded gyda ni?

Daw ein holl gyfarpar cardio newydd sbon gyda'r Ap Ffitrwydd arloesol LF Connect, sy'n golygu eich bod chi'n gallu cofnodi ac ail-greu teithiau cerdded rydych chi'n eu cwblhau y tu allan i'r gampfa yn y gampfa. Cliciwch fan hyn i gael gwybod sut. 

A wyddech chi? Yn ogystal gallwch chi gerdded mewn lleoliadau enwog ledled y byd yn y gampfa hefyd drwy ddefnyddio cyrsiau rhyngweithiol sydd ar gael ar ein holl offer cardiofasgiwlar Life Fitness.

 

Chwilio am ysbrydoliaeth y tu allan i'r gampfa? Mae digonedd o ddewis o deithiau cerdded penigamp yn Sir Gaerfyrddin yn addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.  Boed yn deithiau cerdded gwledig neu deithiau cerdded arfordirol arbennig, mae'r cyfan yn barod i chi yn Sir Gâr.

Ddim yn aelod?

Gallwch ymaelodi a mwynhau sesiynau campfa, dosbarthiadau a nofio am gyn lleied â &25 y mis yn ein 5 Clwb Ffitrwydd Actif.  Cliciwch fan hyn i ymuno heddiw!



Newydd! Hoci Cerdded

Byth wedi chwarae hoci o'r blaen?  Meddwl eich bod chi'n rhy hen i ddechrau gweithgaredd newydd?

Wel, rydych chi byth yn rhy hen i roi cynnig ar rywbeth newydd, cadw'n heini, cael hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd

Mae Hoci Cerdded yn weithgaredd newydd sbon sy'n cael ei lansio ym mis Mai a'r cyntaf yng Nghymru sy'n cyfuno manteision cerdded â hwyl a mwynhad hoci.  Mae'r sesiynau ar gyfer pobl dros 50 oed ond mae croeso i unrhyw un a fyddai'n hoffi cymryd rhan mewn ymarfer ysgafn.  A does dim rhaid cael profiad o chwarae hoci o'r blaen i ymuno yn yr hwyl.

Er mwyn cyd-fynd â Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, byddwn ni'n lansio 4 o sesiynau rhagflas a fydd yn cael eu cynnal yn y gymuned.

Mae'n ffordd wych o gadw'n ffit, cael hwyl, a chymdeithasu ar yr un pryd, yng nghwmni pobl o'r un meddylfryd â chi.  Waeth beth yw eich oedran neu'ch lefel ffitrwydd, gall unrhyw un gymryd rhan yn Hoci Cerdded.

Ewch ati, rhowch gynnig arni! Cynhelir y sesiynau rhagflas AM DDIM yn;

Neuadd Goffa Llandybïe

Dydd Mercher, 3 Mai 1.30pm

Canolfan Hamdden Sanclêr

Dydd Iau, 4 Mai 9.30am

Canolfan Hamdden Sanclêr

Dydd Iau, 4 Mai 7.00pm

Neuadd Goffa Llandybïe

Dydd Gwener, 5 Mai 11.30am

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk

Ffôn: 01267 224720