Amserlenni Tymor Iau Newydd

Amserlenni Tymor Iau Newydd


Croeso i Newyddlen Sir Gâr Hamdden Mai


Amserlenni Tymor Iau Newydd

Yn ystod y tymor, mae digonedd o weithgareddau a champau hwyliog i gadw'r plant yn egnïol ac yn iach ar gael yn ein holl ganolfannau hamdden.

Mae'r gweithgareddau rydym yn eu cynnig i blant rhwng 2 ac 16 oed yn cynnwys Beiciau Balans, Hoci Iau, Pêl-rwyd, Rygbi, Ioga, Badminton a Thennis Bwrdd a llawer mwy!

Bydd y sesiynau NEWYDD yn ystod y tymor yn cael eu cynnal rhwng dydd Llun, 5 Mehefin a dydd Gwener, 21 Gorffennaf 2017.
Ewch i gael golwg ar yr amserlenni isod;



Paratowch at yr haf!


Ydych chi'n gwneud yr un hen ymarferion corff bob wythnos ac yn teimlo eich bod yn aros yn yr unfan? Does dim rhaid ichi. Rydym ni yma i'ch helpu bob cam o'ch siwrne ffitrwydd. 

  1. Gofynnwch am help!

Trafodwch eich targedau ffitrwydd gyda hyfforddwr. Efallai nad ydych wedi siarad â hyfforddwr ers eich sesiwn sefydlu felly byddai'n syniad da ichi archebu sesiwn ½ awr gydag un er mwyn edrych eto ar eich targedau ffitrwydd. Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar her 5k neu am wybod rhagor am ymarferion cryfder mae'r hyfforddwyr wrth law i roi cyngor ffitrwydd ichi sydd wedi'i deilwra ar gyfer eich targedau. 

  1. Newidiwch ddwyster eich ymarferion

Os ydych yn teimlo nad yw eich ymarferion yn ddigon o her mwyach, beth am godi'r dwyster yn raddol? Felly, os ydych yn cymryd seibiant o 60 eiliad rhwng setiau, lleihewch hyd y seibiant. Neu rhedwch / cerddwch ar gyflymdra uwch nag o'r blaen. Ond gofal piau rhag ichi gael anaf.

Gallwch gael cynghorion wythnosol da ynghylch addasu'ch ymarferion drwy ein Ap LF Connect. Dy'ch chi ddim ar LF Connect? Gofynnwch i hyfforddwr ffitrwydd sut mae cofrestru pan fyddwch chi'n ymweld nesaf. 

  1. Rhowch gynnig ar ddosbarth ymarfer mewn grŵp

Maen nhw'n cael eu harwain gan hyfforddwr profiadol a bydd ef/hi yn eich helpu i fwrw ati mewn awyrgylch grŵp. Dysgwch ymarferion newydd a fydd o gymorth i chi golli pwysau a thynhau'r cyhyrau. Ar ben hynny, mwynhewch yr agwedd gymdeithasol o gwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiadau a'ch cynghorion o ran ymarfer corff a maeth a bwyd. Mynnwch gip ar y dosbarthiadau ffitrwydd rydym yn eu cynnig fan hyn.

  1. Dewch â ffrind

Bydd eich ffrind yn eich helpu i gynnal brwdfrydedd. Mae trefnu sesiwn yn y gampfa gyda ffrind yn eich gwneud yn atebol am y sesiwn a bydd hyn nid yn unig yn sicrhau eich bod yn mynd yno ond hefyd yn eich cymell i weithio'n galetach ar ôl i chi gyrraedd.

Gall ymarfer ar y cyd â ffrind eich cyflwyno i bethau newydd megis ymarferion cryfder neu ddosbarthiadau grŵp, a allai godi braw ar eich pen eich hun ond sy'n haws gyda ffrind.

  1. Rhowch gynnig ar nofio

Mae nofio yn weithgaredd gwych i ychwanegu at eich ymarferion wythnosol. Nid yw nofio yn rhy drwm ar y cymalau ac mae'n weithgaredd hynod effeithiol ar gyfer y corff cyfan.

Os nad ydych yn nofiwr neu'ch bod yn dymuno gwella eich sgiliau mae gennym ddosbarthiadau nofio i oedolion i'ch helpu i adeiladu eich hyder gan roi mwy o reswm i chi neidio i'r dŵr.

Ddim yn aelod?

Mae gennym amrywiaeth o becynnau aelodaeth sy'n dechrau am &25 y mis ar gyfer y gampfa, y pwll a'r dosbarthiadau ffitrwydd. Ewch ar-lein fan hyn i ymuno



Llongyfarchiadau i nofwyr FAST!

Dyma'r enwau o'r chwith i'r dde: Mark Davies, Kathryn Sweetman, Richard Selwood, James Oulsnam, Jon Folkes, Lee Summers, Jonathan Summers, Dayton Hughes a Josh Chapman (yr aelod o staff sydd yng ngofal y sesiwn FAST).

 

Llongyfarchiadau mawr i'r nofwyr FAST (llun uchod) o Ganolfan Hamdden Rhydaman a lwyddodd i gwblhau Triathlon Byr Dyffryn Aman ym mis Ebrill ac sydd wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau ers hynny.

Drwy'r sesiynau FAST mae'r aelodau hyn wedi ymdrechu i wella'u sgiliau nofio;

  • Dechreuodd James yn y gwersi nofio sydd gennym i oedolion cyn mynd yn ei flaen i sesiynau FAST, ac mae'n aelod selog ohonyn nhw erbyn hyn.
  • Roedd Jon, Richard a Simon ond yn gallu nofio 25 metr cyn cael seibiant pan wnaethon nhw ddechrau'r sesiynau ym mis Tachwedd; maen nhw hefyd yn mynychu'r sesiynau yn rheolaidd erbyn hyn.

Mae sesiynau FAST yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy'n ymarfer ar gyfer cystadlaethau Meistri a triathlon a digwyddiadau Ironman. Mae'r sesiynau'n rhoi cymorth ac arweiniad i nofwyr gyda'r nod o wella'u sgiliau a'u technegau nofio er mwyn iddyn nhw berfformio hyd eithaf eu gallu yn y cystadlaethau.

Mae'r modd mae'r nofwyr hyn wedi gwella eu sgiliau nofio wedi bod yn rhyfeddol.

Mae'r grŵp cyfan wedi llwyddo hefyd i gystadlu mewn cystadleuaeth nofio elusennol mewn dŵr agored yn Noc y Gogledd ar ddechrau mis Mai, gan nofio cyfanswm o 1,500 o fetrau. Gwnaethon nhw gystadlu yn Triathlon Llanelli hefyd ac maen nhw eisoes yn chwilio am yr her nesaf. Da iawn wir bob un ohonoch!

A ydyn nhw wedi'ch ysbrydoli?

Os ydych yn dymuno gwella'ch sgiliau nofio, gallai'r sesiynau FAST fod ar eich cyfer chi. Cynhelir y sesiynau ym mhedwar o'n pyllau nofio: Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a Phwll Nofio Llanymddyfri.

Hefyd, gellir ychwanegu aelodaeth FAST at eich aelodaeth bresennol.

Os nad ydych yn aelod gallwch fynychu drwy dalu fesul sesiwn am &5.50 y sesiwn.

I gael rhagor o fanylion am amserau'r sesiynau hyn cliciwch fan hyn

Eisiau bod yn aelod? Cliciwch fan hyn i gael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau aelodaeth



Cyfle i Enwebu Seren Chwaraeon

Rydym yn chwilio am Seren Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn falch o noddi categori Seren Chwaraeon y Flwyddyn yng Ngwobrau Arwyr Lleol Radio Sir Gâr eleni.

Ydych chi'n adnabod unigolyn sydd wedi rhagori yn ei gamp ar lefel ysgol, leol, genedlaethol neu ryngwladol? Os ydych, cofiwch ei enwebu a, phwy a ŵyr, efallai bydd yn ennill y wobr yn y seremoni wobrwyo fawreddog ym mis Gorffennaf.

Gallwch enwebu ar-lein drwy glicio yma

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau edrychwch ar y wefan www.radiocarmarthenshire.com



Dosbarthiadau Rhithwir

Fydd dim angen i chi fethu dosbarth chwilbedlo eto oherwydd mae ein dosbarth chwilbedlo rhithwir yn eich galluogi i hyfforddi pan fydd yn gyfleus i chi.*

Does dim amserlen ar gyfer dosbarthiadau rhithwir sy'n golygu y gallwch ddod unrhyw bryd a chymryd rhan**

Mae'r dosbarthiadau yn para naill ai 35 munud neu 55 munud.  Mae’r dosbarthiadau yn dechrau ar yr awr.

Ydych chi'n poeni na fyddwch yn gwneud ymdrech go iawn? Peidiwch â phoeni, cewch eich tywys drwy'r ymarfer cyfan, gan brofi amrywiaeth o wahanol diroedd beicio a thirweddau trawiadol o amgylch y byd.  Beth bynnag yw eich ffitrwydd, bydd y troslais yn eich herio i ddal ati i bedlo gan roi hwb i'ch ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

Mae'r dosbarth chwilbedlo rhithwir hefyd yn wych i'r rhai nad ydynt yn ddigon hyderus o bosib i fynd i ddosbarth chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr.

Manteision di-rif chwilbedlo:

  • Llosgi calorïau a llawer ohonynt!
  • Gwella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd ar gyfer calon iach
  • Beicio yn ôl eich cyflymder eich hun
  • Tynhau'r cyhyrau
  • Cryfhau eich craidd
  • Ymarfer ysgafn

Sut i archebu dosbarth chwilbedlo rhithwir?

Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224700, neu fel arall, gallwch archebu ar ôl cyrraedd.

Mae dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn dechrau ar yr awr yn ystod oriau agor y ganolfan ond nodwch nad ydynt ar gael yn ystod dosbarthiadau chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr: ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am ac ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau am 5.30pm.

Prisiau

Os ydych yn aelod a bod gennych fynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd mae'r dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn rhan o'ch aelodaeth.

Os nad ydych yn aelod gallwch dalu &5.50 fesul sesiwn neu ddod yn aelod drwy glicio yma

 

* dim ond ar gael yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

**ddim ar gael yn ystod dosbarthiadau chwilbedlo dan arweiniad hyfforddwr: ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am ac ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau am 5.30pm.



NEWYDD! Sesiynau Amser Stori Actif

Bwriad y sesiynau Amser Stori Actif yw cymell plant 2-6 mlwydd oed i fod yn egnïol gan gynyddu eu sgiliau sylfaenol (ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad), a hynny’n ifanc iawn, drwy adrodd stori.

Mae’n ymwneud â chyflwyno straeon mewn modd bywiog drwy weithgareddau hwyl a gemau.

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r rhieni / gwarcheidwaid a’u plant ddysgu a chael hwyl gyda’i gilydd!

Pam y mae hyn yn bwysig?

Mae’n rhoi cyfle i blant ennill hyder a chael eu cymell yn ifanc iawn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

Hefyd mae’n gyfle i blant ddysgu a meistroli’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn ogystal gall y sesiynau hyn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, sgiliau datrys problemau, sgiliau iaith, llythrennedd a rhifedd, ynghyd â’r gallu i fod yn rhan o dîm.

Sut y gallwch chi gymryd rhan?

Mae sesiynau’n cael eu cynnal yn eich canolfannau hamdden lleol, eich llyfrgelloedd ac yn eich canolfannau teulu. 

  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin – bob dydd Llun (yn ystod y tymor), 10.30am – 11.15am yn y llecyn chwarae meddal. Sesiwn am ddim.
  • Mae llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn rhedeg sesiynau wythnosol – dilynwch nhw are facebook I gadw llygad allan am y sesiynau.

Gallwch hefyd alw draw yn eich llyfrgell leol i gael benthyg pecyn rhianta sy’n cynnwys llyfr a bag o offer er mwyn annog eich plentyn i fod yn egnïol yn y cartref a’r tu hwnt.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch hamdden@sirgar.gov.uk

Gallwch hefyd ein  dilyn ni ar Facebook a Twitter.



Dosbarth y Mis: Bootcamp

 

Rydym yn cynnig dros 80 o ddosbarthiadau ymarfer corff yr wythnos ar draws ein holl gyfleusterau. Mae pob un ohonynt yn ceisio eich ysgogi i symud mwy, teimlo'n well, ymarfer yn galetach ac yn y pen draw edrych yn well.

Y mis hwn rydym yn cyflwyno dosbarth Bootcamp i chi – edrychwch ar beth mae'r dosbarth yn ei gynnig:

Beth yw Bootcamp?

Curwch eich targedau ffitrwydd mewn dosbarth Bootcamp!

Dyma ddosbarth ysbeidiol egnïol dros ben sy'n cyfuno ymarferion pwysau'r corff ag ymarferion cardiofasgiwlar, plyometrig a chryfder.

Mae'r dosbarth, sy'n seiliedig ar gylchoedd ymarfer, i fod yn wahanol bob tro felly byddwch chi byth yn diflasu ar y dosbarth hwn!

Os ydych chi eisiau bod yn fwy ffit, llosgi braster a thynhau'ch corff, dyma'r dosbarth ichi oherwydd bydd yr hyfforddwr yn eich gwthio i'r eithaf bob tro!

 

Lefel dwysedd: Uchel

 

Ble:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin - Bob dydd Sadwrn 10.30am

Canolfan Hamdden Llanelli - Bob dydd Mawrth 6.45am a dydd Mercher 6.00pm

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman - Bob dydd Iau 6.45am a dydd Sadwrn 10.00am

Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn - Bob dydd Mawrth 6pm

 

Gallwch weld ein holl ddosbarthiadau ffitrwydd yma.

A wyddech chi? Gallwch archebu eich dosbarthiadau ar-lein ond cofiwch fynd i'r dderbynfa neu i'r bwth i gasglu eich derbynneb ar gyfer y dosbarth.