Clwb Actif - Gadewch I hwyl yr haf ddechrau!

Clwb Actif - Gadewch I hwyl yr haf ddechrau!


Croeso i Newyddlen Sir Gâr Hamdden Mehefin...


Clwb Actif - Gadewch I hwyl yr haf ddechrau!

Oes gennych chi blant rhwng 8-12 oed ac yn chwilio am syniadau i diddori’r plant dros yr haf? Edrychwch ar ein Clwb Gwyliau Actif.

Mae ein Clwb Actif yn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau a chwaraeon i blant 8-12 oed.

Mae'r clwb yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Haf o Dydd Llun 24 Gorffennaf tan 1af Medi, rhwng 8.30am a 5.30pm, sy'n berffaith ar gyfer rhieni sy'n gweithio.

Gallwch gollwng y plant I ffwrdd yn y bore a gadael iddynt mwynhau diwrnod llawn o weithgareddau difyr yn ogystal â rhoi cynnig ar chwaraeon newydd tra eu bod yn gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.

Mae'r gweithgareddau'n amrywio o gemau Olympiadd dŵr i bêl-rwyd, cyrsiau rhwystr, coginio gwirion a Achub Bywyd yn y dŵr, a llawer llawer mwy.

Cofrestrwch eich plentyn am ddiwrnod neu am yr wythnos. Gallwch cadw lle ar-lein neu trwy cysylltu gyda’r canolfannau yn uniongyrchol.

Mae Clwb Actif yn cael ei gynnal ym mhob un o'n Canolfannau Hamdden cliciwch ar y canolfannau islaw am yr amserlennu.

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman 01269 594517

Canolfan Hamdden Llanelli 01554 774757

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 01269 224731

Canolfan Hamdden San Clêr 01994 231253

Am fwy o wybodaeth ynglyn a Clwb Actif, cliciwch yma



Mae eich ymarfer newydd wella!

Traciwr ymarfer corff manwl gywir yw MYZONE sy'n eich ysgogi chi i roi'r ymdrech angenrheidiol er mwyn cael y canlyniadau rydych chi'n eu dymuno.

Mae'n ffordd wych o fonitro a chofnodi eich gweithgarwch corfforol yn y Ganolfan Hamdden a thu hwnt iddi.

Cwrdd â gwregys MZ-3

Mae gwregys MZ-3 yn tracio curiad y galon, calorïau ac ymdrech mewn amser real yn ystod eich ymarfer.

Hefyd mae gan MZ-3 gof yn rhan ohono felly gallwch wneud i bob sesiwn gyfrif, hyd yn oed os nad ydych yn ymarfer yn y gampfa neu os nad yw eich ffôn clyfar gyda chi.

Lanlwytho Data

Tu mewn i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin, mae eich data gweithgarwch yn lanlwytho'n awtomatig i sgriniau teledu yn y gampfa mewn amser real. Yng nghanolfannau hamdden eraill Actif, gellir lanlwytho'r data'n ddi-wifr drwy WI-FI i'ch ap MYZONE am ddim fel y gallwch chi adolygu eich cynnydd yn fyw neu dracio eich cynnydd yn hwyrach, ar ôl gorffen ymarfer.

A'r newyddion da yw bod WI-FI am ddim ar gael yn ein canolfannau i gyd, gan gynnwys Sanclêr, lle mae WI-FI newydd gael ei osod.

Cymdeithasol

Cysylltu â ffrindiau a chael y wybodaeth ddiweddaraf i weld sut maent yn perfformio.

Heriau

Drwy ap MYZONE , ymunwch â heriau grŵp neu dechreuwch un eich hun.  Mae hon yn un o'r ffyrdd gorau i gadw cymhelliant wrth gystadlu â ffrindiau yn y gampfa a defnyddwyr eraill ledled y byd.

Mynnwch eich un chi heddiw!

Fel aelod Actif gallwch fanteisio ar *Gôd arbennig ar-lein* sy'n golygu y gallwch brynu gwregys am &79.99 (Pris Adwerthu a Argymhellir &129.99).  Gofynnwch i aelod o'r tîm ffitrwydd neu gofynnwch yn y dderbynfa sut y gallwch gael y côd arbennig ar-lein.



Dylai pob plentyn ddysgu nofio

Anaml y bydd rhywun yn anghofio sut mae nofio os bydd yn dysgu'r sgìl yn ifanc,  ac mae modd i bobl o bob oed wneud. 

Ceir llawer o resymau pam y dylai eich plentyn ddysgu nofio, ac un o'r rhesymau pwysicaf yw bod dysgu sut mae nofio yn sgìl achub bywyd hanfodol a allai achub ei fywyd un diwrnod.

Ac mae dal ati i gael gwersi nofio dros yr haf yn fuddiol nid yn unig i'ch plentyn ond i chi fel rhiant hefyd. Pam?

  1. Hanfodol ar gyfer ei ddiogelwch

Mae gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gyfforddus yn y dŵr ac o amgylch dŵr yn hanfodol ar gyfer ei ddiogelwch. Bydd Dysgu nofio yn ifanc a chael gwersi nofio'n rheolaidd yn ei helpu pan ewch chi ar eich gwyliau haf. Mae nofio'n sgìl bywyd ac yn rhywbeth y bydd yn cadw gydol ei oes.

  1. Cynnal cynnydd

Mae'r haf yn amser prysur i'r teulu, ond mae cynnal y cynnydd y mae eich plentyn wedi ei wneud yn allweddol.  Y peth olaf rydych am ei weld pan fydd yn ailddechrau ar ôl gwyliau'r haf yw ei fod wedi mynd yn ôl lefel.  Cofiwch fod nofio'n sgìl bywyd rydych am i'ch plentyn ei ennill.

  1. Parhau i ddatblygu

Mae mynychu gwersi rheolaidd yn golygu ei fod yn parhau i gryfhau a datblygu fel nofiwr.  A phwy a ŵyr, ar ôl yr haf efallai y bydd wedi camu ymlaen i'r lefel nesaf.

  1. Cadw at y drefn arferol

Mae gennych ddiwrnodau penodedig ar gyfer gwersi nofio eisoes, felly drwy gadw at y drefn honno ni fydd yn rhaid i chi bendroni am bethau i'w gwneud gyda'r plant.  Mae 6 wythnos yn amser hir a gall fod yn anodd diddanu'r plant am gyhyd. Dewch â nhw adeg eu gwers nofio arferol tra byddwch chi'n ymlacio yn y siop goffi ac yn cael sgwrs â ffrindiau.

  1. Agor drysau i weithgareddau eraill

Mae'r gallu i ddysgu nofio yn agor drysau i'ch plentyn megis mynychu clwb nofio a chystadlu neu'n agor drysau i weithgareddau eraill cysylltiedig â nofio fel plymio, nofio cydamserol, polo dŵr, canŵio, neu Achubwr Bywyd Oedran Iau.

  1. Hwyl a mwynhad!

Yn bwysicaf oll mae nofio yn HWYL! Mae llawer o blant yn mwynhau sblasio mewn dŵr ac os oes ganddynt y gallu i nofio'n hyderus, mae'n gyfle gwych i chi dreulio amser buddiol gyda nhw. Mwynhewch ein sesiynau nofio i'r teulu, cliciwch yma

Mae ein rhaglen Dysgu Nofio yn rhedeg am 48 wythnos y flwyddyn.  I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen cliciwch yma



Kettlercise Combat MX

Rydym yn cynnig dros 80 o ddosbarthiadau ymarfer corff yr wythnos ar draws ein holl gyfleusterau. Mae pob un ohonynt yn ceisio eich ysgogi i symud mwy, teimlo'n well, ymarfer yn galetach ac yn y pen draw edrych yn well.

Y mis hwn rydym yn cyflwyno dosbarth Kettlercise Combat MX i chi – edrychwch ar beth mae'r dosbarth yn ei gynnig:

 

Beth yw Kettlercise Combat MX?

Mae'r dosbarth hwn yn gymysgedd egnïol iawn o ymarferion pwysau tegell a symudiadau deinamig sydd wedi eu hysbrydoli gan grefft ymladd.

Mae'r dosbarth hwn yn cael ei rannu'n 8 parth sy'n cynnig sesiwn ymarfer ar gyfer y corff cyfan, gan gynnwys ymarferion pwysau tegell traddodiadol ar gyfer rhannau uchaf ac isaf y corff a sesiwn egnïol iawn sy'n cynnwys cicio, dyrnio a gwthio â'ch penelin.

Mae'n cynnig popeth ond yn bwysicaf oll mae'n hwyl ac rydych yn sicr o losgi calorïau, a llawer ohonynt!

Lefel dwysedd: Canolig / Uchel

Ble: Canolfan Hamdden Llanelli

Pryd: Ar ddydd Mercher am 6.45am ac ar ddydd Sadwrn am 9.00am

Gallwch archebu ar-lein yma neu cysylltwch â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin drwy ffonio 01554 774757

Dosbarthiadau tebyg eraill sydd yn rhedeg ar draws ein canolfannau hamdden yn cynnwys;

Dosbarthiadau pwysau tegell Actif

Canolfan Hamdden Rhydaman - ar ddydd Llun, am 5.30pm

Canolfan Hamdden Caerfyrddin - ar ddydd Mercher, am 7pm

Canolfan Hamdden Llanelli – ar ddydd Mawrth ac ar ddydd Iau, am 7pm

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn - ar ddydd Gwener, am 6pm

Gallwch weld ein holl ddosbarthiadau ffitrwydd yma



Hoci carlam yn dechrau mis Gorffennaf yma!

Mae hoci carlam yn debyg i hoci, ond nid fel i chi’n arfer!

Yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ar 5 Gorffennaf, mae hoci carlam yn gêm gyflym, gyfeillgar ac yn llawn hwyl. Mae'n cael ei chware gyda 5 chwaraewr bob ochr a gellir ei chwarae dan do neu yn yr awyr agored.

Mae hoci carlam yn dilyn y rheolau arferol hoci ond yn cael ei chwarae mewn maes llai. Mae'n ffordd wych o chwarae’r gem gyda oedrannau cymysg, rhyw a gallu cymysg.

Mae'r sesiynau yn gymdeithasol a gallwch droi i fyny a chwarae bob wythnos. Mae’r sesiynau yn berffaith os ydych am gadw'n heini a chwarae hoci ond ddim yn gallu ymrwymo i dîm neu i sesiynau ymarfer rheolaidd / gemau.

Mae’r sesiynau yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman ar 5 Gorffennaf am 6 wythnos o 7pm – 8.30pm.

Mae angen i’r rhai sydd yn cymryd rhan for yn 14 mlwydd oed neu’n hyn.  Gallwch ddod fel tîm (carfan o 8) neu ar ben eich hun a byddwch yn cael eich rhoi mewn tîm.

Pris: &20 yr wythnos i bob tîm (5 bob ochr neu sgwad o 8)

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost i JoMDavies@carmarthenshire.gov.uk



NEWYDD! Amserlenni Nofio dros yr Haf

P'un a ydych yn nofio am hwyl neu ffitrwydd mae ein pyllau nofio Actif yn cynnig profiad gwych i chi a'ch teulu.

Cymerwch olwg ar ein amserlenni pwll nofio newydd dros yr Haf, ac gwnewch nofio yn rhan o'ch ffordd o fyw iach yr haf hwn.

Ddim yn aelod? Rydym yn cynnig dosbarthiadau gampfa, nofio a ffitrwydd diderfyn ar draws ein holl gyfleusterau Actif, i gyd am un pris. Mae ein haelodaeth cartref yn &41 y mis ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd (2 oedolyn a hyd at 4 o blant dan 18 oed). Cliciwch yma am fanylion



Cadwch yn heini am lai gyda Cherdyn Hamdden Saver

Beth yw’r Tocyn Hamdden?

Mae'r rhai sy'n gymwys yn gallu talu &10 am aelodaeth flynyddol ar gyfer Tocyn Hamdden a fydd yn rhoi’r hawl i chi gael gostyngiadau o hyd at 40%* oddi ar daliadau arferol ar gyfer sesiynau yn y gampfa, nofio a dosbarthiadau ffitrwydd yng nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli, Dyffryn Aman a Chastell Newydd Emlyn.

 

*Cynigir gostyngiadau o hyd at 40% ar gyfer gweithgareddau a ddewiswyd yn y canolfannau hamdden a enwir uchod yn ystod yr oriau tawel. Cynigir gostyngiad o 10% ar adegau eraill. I weld manylion llawn y gostyngiadau a gynigir, cliciwch yma.  Oriau tawel yw o'r adeg pan fydd y ganolfan yn agor hyd at 4.00pm a 9-10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul (yn amodol ar oriau agor y ganolfan).

 

Mae'r Tocyn Hamdden ar gael i:

  • Tocyn Teyrngarwch Oedolyn (ar gael i bawb)
  • Tocyn Teyrngarwch Iau (ar gael i bawb o dan 16 oed)
  • Tocyn Hŷn a Heini (Oedolion dros 50 oed)
  • Tocyn Myfyrwyr (14 oed neu’n hŷn)
  • Tocyn Budd (i unrhyw un sy'n derbyn cymorth ariannol)

Gostyngiadau sydd ar gael

Gostyngiadau o 10%:

Dim ond yr aelodaeth ganlynol fydd yn caniatáu i chi gael gostyngiad o 10% oddi ar daliadau arferol i sesiynau yn y gampfa, nofio neu ddosbarthiadau ffitrwydd. Mae’r gostyngiadau ar gael o ddydd Llun i ddydd Sul yn ystod oriau agor y ganolfan.

  • Tocyn Teyrngarwch Oedolyn (ar gael i bawb)
  • Tocyn Teyrngarwch Iau (ar gael i bawb o dan 16 oed)

Gostyngiadau hyd at 40%;

Dim ond yr aelodaeth ganlynol fydd yn caniatáu i chi gael gostyngiad o hyd at 40% oddi ar daliadau arferol i sesiynau yn y gampfa, nofio a dosbarthiadau ffitrwydd yn ystod yr oriau tawel a 10% oddi ar daliadau arferol ar gyfer sesiynau yn y gampfa, nofio a dosbarthiadau ffitrwydd o ran yr holl weithgareddau yn ystod yr oriau prysuraf. Rhaid cyflwyno prawf cymhwyster:

  • Tocyn Hŷn a Heini

Ar gyfer oedolion 50+ oed. Bydd angen prawf oedran trwy gyflwyno trwydded yrru, pasbort neu dystysgrif geni.

  • Tocyn Myfyrwyr

Ar gyfer myfyrwyr 14 oed neu hŷn. Rhaid cadarnhau statws myfyrwyr trwy llythyr swyddogol ar bapur pennawd oddi wrth yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol, yn cadarnhau bod yr ymgeisydd mewn addysg llawn amser, wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf.

  • Tocyn Budd
  • Ar gael i bobl sy'n derbyn cymorth ariannol oddi wrth un o'r canlynol; Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd, Budd-dal Tai / Budd-dal y Dreth Gyngor, Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gofal Analluedd, Lwfans Anabledd Difrifol a mathau eraill o Lwfansau a Budd-daliadau Anabledd. Hefyd, ar gael i blant dibynnol 16 oed ac iau rhywun sy'n meddu ar Docyn Budd ac sy'n byw yn yr un cyfeiriad.

I wneud cais am Docyn Hamdden gallwch ymweld â'ch Canolfan Hamdden Actif leol a gofyn am fwy o wybodaeth yn y dderbynfa am unrhyw un o'r aelodaethau uchod.