Parkrun Penigamp: Cymerwch ran yn llwybrau newydd Parkrun Sir Gar

Parkrun Penigamp: Cymerwch ran yn llwybrau newydd Parkrun Sir Gar


Croeso i Newyddlen Sir Gaerfyrddin Hamdden Awst ...


Hwyl Clwb Actif yn parhau

Ymunwch â ni drwy gydol gwyliau’r Haf ar gyfer y Clwb Actif. Mae bob diwrnod yn llawn dop o weithgareddau hwyliog a chynhwysol i blant rhwng 8 a 12 oed yn ein holl gyfleusterau gwych.

Mae’r Clwb Actif yn ffordd wych i’ch plentyn gadw'n heini, rhoi cynnig ar weithgareddau a chwaraeon newydd, cael llawer iawn o hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r Clwb Actif yn cael ei gynnal yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) o 8.30am tan 5pm ym mhob un o'n canolfannau hamdden.

Cliciwch ar y Ganolfan Hamdden sydd agosaf atoch neu ffoniwch i gael mwy o wybodaeth;

Canolfan Hamdden Caerfyrddin - 01267 224700

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman - 01269 594517

Canolfan Hamdden Llanelli - 01554 774757

Canolfan Hamdden Sanclêr - 01267 224778



Hyfforddiant cyn dechrau’r tymor ar gyfer eich clwb chwaraeon

Ydy’ch clwb wedi rhoi cynnig ar offer Synrgy 360 yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin?

Mae Synrgy 360 yn system hyfforddiant grŵp sy’n gallu cynnig cyfleoedd diderfyn i’ch clwb hyfforddi’n glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol.

 

Mae amrywiaeth a hyblygrwydd bob dosbarth yn golygu nad oes unrhyw ailadrodd ymarferion sydd o ganlyniad yn sicrhau bod ymarferion yn gyffrous ac yn hwyliog wythnos ar ôl wythnos.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal 17 o ddosbarthiadau Synrgy yr wythnos ac mae’r offer Synrgy ar gael ar gyfer defnydd clybiau hefyd.

Rhaglen hyfforddiant wahanol

Mae Synrgy 360 yn berffaith os ydych yn chwilio am raglen hyfforddiant wahanol ar gyfer eich clybiau chwaraeon.

Bydd y sesiynau yn darparu ymarfer ar gyfer y corff cyfan yn darparu ymarfer ar gyfer y corff cyfan i aelodau’ch tîm er mwyn ategu eich camp drwy gael eich aelodau yn fwy ffit, yn gryfach ac mewn siâp cyn ac yn ystod y tymor.

Bydd yr ymarfer egnïol iawn hwn ar ffurf cylch sy'n para 30 munud ac sy'n cynnwys rhaffau brwydr, ymarferion burpees, ymarferion TRX Suspension Straps, ymarferion ar bêl ffitrwydd a mwy yn addas ar gyfer aelodau'ch tîm, beth bynnag eu ffitrwydd.

Prisiau:

Archebion Clwb: &50 yr awr.

Heb fod yn Glwb Chwaraeon?

Os ydych am wybod mwy am Synrgy mae gennym gynigion aelodaethau gwych y gallwch chi eu hychwanegu i’ch aelodaeth graidd;

• Aelodaeth ‘Ychwanegol’ Oedolyn: &14.10

• Aelodaeth ‘Ychwanegol’ Iau: &10.50

• Aelodaeth offer Synrgy yn unig: &21

Mae opsiynau talu fesul sesiwn ar gael hefyd.



Stori wych, diolch i Synrgy Llwyddiant Dai - 6 mis a 3 stôn yn ysgafnach

Mae’n wych gweld yr hyn y gallwch ei gyflawni pan fo gennych nodau clir sy’n eich ysgogi chi i ymarfer. 6 mis yn ôl, dechreuodd David ei siwrnai ffitrwydd ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am sut y collodd Dai 3 stôn mewn 6 mis.

 

Enw: David Thomas

Oedran: 40

Dywedwch wrthym am eich siwrnai ffitrwydd a pham wnaethoch ddewis ffitrwydd Actif?

Fe wnes i roi’r gorau i chwarae rygbi ddiwedd 2015.  Tra'n chwarae rygbi roeddwn i’n cael fy ysgogi i hyfforddi er mwyn i mi allu chwarae’r gamp.  Ar ôl i mi stopio chwarae, fe wnes i golli’r ysgogiad i ymarfer, nid oeddwn mor ffit a gwnes i fagu pwysau.

Dewisais Chwaraeon a Hamdden Actif oherwydd roedd amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd ar gael ac roedd yr aelodaeth ar gyfer y teulu yn gost effeithiol iawn.

Pam wnaethoch chi ddewis y dosbarthiadau Synrgy yn lle’r prif ddosbarthiadau?

Rwyf wedi rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau ffitrwydd sydd ar gael yng nghanolfannau hamdden Caerfyrddin a Dyffryn Aman.  Yn fy mhrofiad i, mae dosbarthiadau Synrgy yn cynnig ymarfer cardiofasgwlaidd ac ymarferion i wella cryfder.  Y dosbarth hwn fuodd yn fwyaf o gymorth i mi o ran fy rhaglen colli pwysau.

Beth oedd y pethau roeddech yn eu mwynhau fwyaf am y dosbarthiadau Synrgy?

Mae pob dosbarth yn wahanol.  Gellir addasu’r holl ymarferion a'u gwneud yn fwy heriol wrth i’ch lefelau ffitrwydd a’ch cryfder wella. Mae'r hyfforddwyr hefyd yn amrywio’r dosbarthiadau drwy newid y cyfnodau gorffwys a nifer y setiau a gwblhawyd. Mae sesiynau fel arfer yn para 30 munud.

Sut mae’r dosbarthiadau wedi eich cymell i gyrraedd eich nod?

Fy nod cychwynnol oedd colli pwysau.  Cyrhaeddais fy mhwysau targed ar ôl 4 mis o fynd yn rheolaidd i ddosbarthiadau (a deiet), a llwyddais i golli 3 stôn o fewn y cyfnod hwn. Fy nod newydd yw parhau i wella fy lefelau ffitrwydd a’m cryfder.

Caiff dosbarthiadau Synrgy eu cynnal 3 gwaith y dydd, bob dydd Llun i ddydd Gwener ac mae hefyd sesiynau ar benwythnosau, sy'n wych i mi oherwydd rwy’n gallu trefnu ymarferion o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu.

Sut mae'r hyfforddwyr wedi eich ysbrydoli chi i gadw fynd yn ystod y dosbarthiadau heriol?

Mae'r hyfforddwyr yn greadigol iawn ac yn edrych ar ffyrdd o gymysgu ymarferion.  Gellir addasu’r gorsafoedd mewn dosbarthiadau ar gyfer yr unigolyn yn dibynnu ar eich lefelau ffitrwydd / cryfder, felly gallwch wneud yr ymarfer mor heriol ag y dymunwch!

A fyddech chi’n argymell Synrgy i ffrindiau a theulu?

Byddwn - mae nifer o fy ffrindiau wedi dechrau mynychu Synrgy.   Mae fy merch hefyd wedi dechrau mynychu ar ôl rhoi cynnig ar y sesiynau teulu sydd ar fore Sadwrn.



Hyfforddwr Clwb Sboncen Caerfyrddin yn cael cydnabyddiaeth

 
Yn y llun: Chris Barker (ar y chwith) a Jenny Jones (ar y dde)

Cafodd Jenny Jones o Glwb Sboncen Caerfyrddin a Chris Barker o Glwb Sboncen Bush Penfro ill dau gydnabyddiaeth fel Hyfforddwyr y Flwyddyn yng ngwobrau diweddar WSRB (Sboncen a Phêl-raced Cymru).  Cafodd y ddau hyfforddwr y wobr bwysig hon am eu hymroddiad i wella sboncen ar gyfer plant iau o fewn eu clybiau a'r gymuned leol.

Hefyd, derbyniodd Jenny ei chap am gynrychioli Cymru wedi iddi gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Meistri Rhyngwladol (Cartref) yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.

Da iawn i Jenny Jones, Prif Hyfforddwr Clwb Sboncen Caerfyrddin.

Diddordeb mewn chwarae sboncen?

Mae Jenny yn darparu hyfforddiant sboncen bob dydd Sadwrn ar gyfer plant rhwng 7 ac 16 oed.

09:30am-10:30am: Cyflwyno'r gamp a rheolau’r gêm i ddechreuwyr.

10:30am-12:30pm: Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer rhai sydd eisiau gwella.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224700.



Parkrun Penigamp: Cymerwch ran yn llwybrau newydd Parkrun Sir Gar

Yn y llun: Gwirfoddolwyr a rhedwyr brwd yn y digwyddiad Parkrun Iau ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli

Rhedeg yw un o'r ffurfiau symlaf o ymarfer corff.  Mae’n ymarfer rhad ac am ddim a gallwch ei wneud yn unrhyw le.

Y peth da am redeg yw y gallwch ei wneud cyn lleied neu gymaint o weithiau ag y dymunwch, sy'n golygu y gallwch ffitio’r ymarfer o gwmpas eich amserlen brysur. Felly, does dim esgus - rhedeg amdani! Beth am roi cynnig ar Parkrun i ddechrau?

Mae Parkrun yn trefnu rasys wythnosol, am ddim wedi’u hamseru sy’n amrywio o rasys 5k (Hŷn) a rasys 2k (Iau) mewn llefydd ledled y byd.

Y peth gwych amdanynt yw eu bod;

  • Yn agored i bawb,
  • Am ddim, ac
  • Yn ddiogel a hawdd cymryd rhan ynddynt.

Maent wedi'u cynllunio er mwyn caniatáu i bawb o bob gallu sy’n 4 oed a hŷn, gael cyfle i redeg neu gerdded. Felly, mae'n wych ar gyfer y rheiny sy’n cymryd eu camau cyntaf neu i’r rhedwyr mwy profiadol.

Mae digwyddiadau Parkrun yn boblogaidd iawn ymysg teuluoedd ac mae llawer o rieni yn rhedeg gyda'u plant ac yn achos y rhai sydd yn iau na 4 oed, mae nifer o famau a thadau brwdfrydig yn eu gwthio nhw mewn bygis.

Sut alla i gymryd rhan?

Ledled y byd mae digwyddiadau Parkrun Hŷn yn cael eu cynnal am 9am bob bore Sadwrn a digwyddiadau Parkrun Iau am 9am bob bore Sul.  Mae digwyddiadau Parkrun Iau yn agored i unrhyw un rhwng 4 a 14 oed.

Erbyn hyn mae 24 o ddigwyddiadau Parkrun Hŷn yng Nghymru a 10 Parkrun Iau.

Mae gan Sir Gaerfyrddin 4 Parkrun: 2 x 5K Hŷn yn Llyn Llech Owain ac Arfordir Llanelli, a 2 x 2K Iau yng Nghaerfyrddin ac Arfordir Llanelli. Mae hynny’n dipyn o gamp ar gyfer sir fach!

Beth am ddechrau rhedeg y penwythnos hwn?

Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer digwyddiad Parkrun presennol, mewngofnodwch drwy fynd i www.parkrun.org.uk, cofrestrwch eich manylion, argraffwch eich codau bar personol a pharatowch i redeg mewn unrhyw barc ledled y byd.