Arbedion i Fyfyrwyr

Arbedion i Fyfyrwyr


Croeso i Gylchlythyr Hamdden Sir Gaerfyrddin Hydref ...


Pleidleisiwch dros eich arwr chwaraeon

 
 
Mae Gwobrau Chwaraeon Sir Gaerfyrddin a gefnogir gan Grŵp Owens yn ôl ac rydym yn chwilio am sêr chwaraeon Sir Gaerfyrddin.

Mae'r gwobrau blynyddol hyn yn cydnabod cyflawniadau rhagorol athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae 11 categori ar gyfer enwebiadau, gan gynnwys:

• Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
• Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn
• Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn
• Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
• Chwaraewraig Anabl y Flwyddyn
• Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn
• Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn
• Gwirfoddolwr y Flwyddyn
• Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
• Tîm y Flwyddyn
• Tîm Ifanc y Flwyddyn
 


Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 24 Tachwedd.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer ym mhob categori yn cael eu gwahodd i'r seremoni wobrwyo a gynhelir ddydd Gwener 2 Chwefror 2018.



Arbedion i Fyfyrwyr

 
 
Myfyrwyr – Manteisiwch ar y cynnig - DIM ffi ymaelodi - sydd wedi cael ei ymestyn trwy gydol mis Hydref.

Am &25 y mis a DIM ffi ymaelodi, gall myfyrwyr ymarfer eu hymennydd a'u corff drwy aelodaeth myfyrwyr, sy'n rhoi mynediad hollgynhwysol i’n 7 Canolfan Hamdden Actif, 4 Pwll Nofio, a mynediad i dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos.
 
Cofrestrwch heddiw ac ni chewch eich clymu i gontract. Mae ein holl becynnau aelodaeth yn eich galluogi i rewi eich aelodaeth am hyd at 6 mis ar y tro.

Mae ein haelodaeth myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr 14 oed a hŷn sydd mewn addysg amser llawn neu ran amser
 



NEWYDD! Amserlenni fftrwydd

 
 
Gyda dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws ein 7 canolfan hamdden Actif, mae gennym ddigon o ddosbarthiadau ichi ddewis ohonynt, gan gynnwys Kettlercise Combat MX, Cylchoedd Ymarfer, Boogie Bounce, Ioga a Siapio’r corff gyda barbwysau i enwi dim ond rhai.

Lawrlwythwch yr amserlenni NEWYDD isod:

Oeddech chi'n gwybod? Os ydych yn talu am eich aelodaeth yn fisol, cewch y fraint o archebu’ch dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein hyd at bythefnos o flaen llaw, ond cofiwch gasglu’ch derbynneb ar gyfer y dosbarth yn y dderbynfa neu yn un o’r ciosgau.

Ddim yn aelod? Mae ein haelodaeth hollgynhwysol yn dechrau o &25 y mis, sy’n cynnwys y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio. Ymunwch ar-lein heddiw



NEWYDD! Boogie Bounce

 
 
Mae Boogie Bounce wedi cyrraedd Canolfan Hamdden Llanelli - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymuno â'r diweddaraf ym myd ffitrwydd!

Mae’r dosbarth ffitrwydd newydd hwn yn un o’r ffyrdd gorau o gadw’n HEINI, cael HWYL a llosgi BRASTER! Mae’r dosbarth hwn, sydd wedi'i goreograffu i gerddoriaeth ysgogol, yn cynnig ymarfer i’r corff cyfan gan ddefnyddio trampolîn bach, sy'n golygu llai o straen ar eich cymalau.

Mae Boogie Bounce yn defnyddio technegau hyfforddiant egnïol iawn â seibiannau i sicrhau’r ffordd fwyaf effeithiol o losgi braster trwy gyfres o neidio, bownsio, sboncio a symudiadau stompio i enwi dim ond ychydig.

Mae'r dosbarth egnïol hwn yn addas i bobl o bob oedran a lefel ffitrwydd.

Dim ond ar gael yng Nghanolfan Hamdden Llanelliar hyn o bryd.

Lefel Dwysedd: Canolig – Uchel
Ble: Canolfan Hamdden Llanelli

Pryd:

Pob dydd Llun 6.15pm
Pob dydd Mawrth 9.30am a 6pm
Pob dydd Mercher 9.30am
Gallwch weld yr amserlen dosbarthiadau ffitrwydd yma.

Oeddech chi'n gwybod? Os ydych yn talu am eich aelodaeth yn fisol, cewch y fraint o archebu’ch dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein hyd at bythefnos o flaen llaw, ond cofiwch gasglu’ch derbynneb ar gyfer y dosbarth yn y dderbynfa neu yn un o’r ciosgau.

Ddim yn aelod? Mae ein haelodaeth hollgynhwysol yn dechrau o &25 y mis, sy’n cynnwys y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio. Ymunwch ar-lein heddiw



Symud i'r Babi

 
 
Mae'r cynllun, sef 'Baby Let's Move,' yn darparu rhaglen gweithgareddau corfforol 16 wythnos o hyd er mwyn helpu mamau sy'n feichiog i gynnal pwysau iach drwy gydol y beichiogrwydd.

Mae nifer o fanteision o gymryd rhan yng nghynllun Baby Let's Move, gan gynnwys;

• Gwella rheolaeth ar bwysau a enillir yn ystod beichiogrwydd.
• Gwella hwyliau a hunan-barch
• Gwella cwsg a chylchrediad
• Gallu ymdopi'n well ag esgor a genedigaeth
• Cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiadau

Sut y gallaf i gael fy nghyfeirio at y cynllun atgyfeirio ymarfer corff?

Bydd angen ichi wneud apwyntiad gyda'ch bydwraig. Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun yna bydd eich bydwraig yn cwblhau ffurflen gyfeirio.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich cyfeirio?

Gofynnir ichi fynychu ymgynghoriad cychwynnol ar adeg sy'n gyfleus ichi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli neu Dyffryn Aman. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniad i'r cynllun, taith o amgylch y ganolfan hamdden ac asesiad iechyd.

A fyddaf i'n ymarfer ar fy mhen fy hun a pha mor aml bydd angen i mi fynychu'r dosbarthiadau atgyfeirio?

Byddwch yn ymarfer gydag eraill ar ffurf grwpiau mewn amgylchedd cyfeillgar drwy gydol y rhaglen sy'n para 16 wythnos. Bydd y rheiny sy'n cael eu hatgyfeirio yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn yr wythnos.

Beth yw’r gost?

Mae'r sesiynau AM DDIM!

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun, cysylltwch â'ch bydwraig neu;
Simon Davies, Cydgysylltydd Gweithgareddau drwy ffonio 01269 590266
Helen James, Bydwraig yn Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 07970 814694
E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk



Diolch am eich cefnogaeth

 
 
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i DDIOLCH i bawb a gefnogodd ein digwyddiadau elusennol ym mis Medi.

Spinathon
Dydd Sadwrn 16 Medi
Canolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman

Cynhaliwyd Spinathon ddydd Sadwrn 16 Medi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman er mwyn codi arian ar gyfer yr Uned Strôc yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. Codwyd cyfanswm o &297… GWYCH! Bydd yr arian hwn yn helpu’r uned strôc i brynu Offer Ymarfer Goddefol Actif. Diolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn y spinathon ac a gyfrannodd. Diolch!

Hoci Cerdded a Bore Coffi Elusennol er budd Macmillan

Dydd Mawrth 26 Medi
Daeth pawb sy’n cymryd rhan yn y sesiynau hoci cerdded wythnosol yn ein tri lleoliad (Sanclêr, Llandybïe a Phen-bre) at ei gilydd mewn un lleoliad, sef Neuadd Goffa Pen-bre, ddydd Mawrth 26 Medi. Trefnwyd sesiwn hoci cerdded elusennol a daeth 30 o bobl i chwarae hoci, cymdeithasu a mwynhau te, coffi a chacennau, er budd Macmillan.

Dydd Gwener 29 Medi
Diolch yn fawr i’r staff yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman am drefnu Bore Coffi Macmillan ddydd Gwener 29 Medi. Diolch i bawb a brynodd gacennau a/neu docynnau raffl yn ystod y dydd.
Y cyfanswm a godwyd yn y ddau ddigwyddiad oedd &336.79, a bydd yr holl arian yn mynd at Macmillan.
Diolch unwaith eto i bawb a ddaeth ac a gefnogodd ein holl ddigwyddiadau elusennol yn ddiweddar – rydym wedi’n syfrdanu gan haelioni cwsmeriaid a staff Actif… DIOLCH!

Hoci Cerdded - am roi cynnig arni?

Mae sesiynau hoci cerdded yn addas ar gyfer pob oedran a gallu ffitrwydd ac nid oes angen i chi fod wedi chwarae hoci o’r blaen i gymryd rhan. Mae’r sesiynau’n ymwneud yn fwy â chwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar gamp newydd a chael hwyl wrth wneud ymarfer corff ysgafn.

Cynhelir sesiynau’n wythnosol yn y lleoliadau canlynol:

• Neuadd Goffa Pen-bre – Pob dydd Mawrth 1.30-2.30pm
• Canolfan Hamdden Sanclêr - Pob bore Iau 9.30 - 10.30am
• Neuadd Goffa Llandybïe – Pob dydd Mercher 1.30 – 2.30pm

Nid oes angen i chi gael ffon hoci, byddwn ni’n darparu’r holl offer. Dewch mewn dillad rhydd a chyfforddus a pheidiwch ag anghofio eich potel ddŵr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio actifsirgar@sirgar.gov.uk



Peidiwch â cholli’ch cyfle!

 
 
Am y cynigion, newyddion a’r cystadlaethau diweddaraf, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.