Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant yn lansio'n fuan, y cyntaf yng Nghymru!

Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant yn lansio'n fuan, y cyntaf yng Nghymru!


Croeso i Gylchlythyr Rhagfyr Hamdden Sir Gaerfyrddin ...


Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant yn lansio'n fuan, y cyntaf yng Nghymru!

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein Rhaglenni Aml-chwaraeon i Blant sy'n dechrau'n fuan!

Bydd y rhaglenni NEWYDD i blant yn cynnwys Sgiliau ar gyfer Chwaraeon a rhaglenni Aml-chwaraeon fydd yn rhoi eich plant ar y trywydd i fod yn Actif!

Bydd y rhaglenni newydd hyn yn helpu plant i:

  • Ddysgu sgiliau corfforol sylfaenol
  • Datblygu hyder a gwneud penderfyniadau
  • Cadw'n iach
  • Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd
Bydd y rhaglenni'n rhoi pwyslais ar gael y plant i ddysgu a meistroli sgiliau chwaraeon ar eu cyflymder eu hunain er mwyn eu helpu i ddatblygu ymhellach ac i chwarae camp o'u dewis nhw. Mae plant yn dysgu ac yn datblygu ar wahanol raddfeydd ac mae ein rhaglenni'n cydnabod hyn, felly ble maen nhw arni sy'n bwysig nid eu hoedran.
 

Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni

 

Pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon

Yn ystod sesiynau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon  bydd plant yn dysgu ac yn gwella sgiliau symud sylfaenol megis cydbwyso, neidio, taflu a dal fel bod ganddyn nhw'r holl sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnyn nhw i fynd ymlaen i chwarae unrhyw gamp.

Ar ddechrau'r rhaglen bydd pob plentyn yn cael pasbort fel bod modd iddyn nhw olrhain eu cynnydd a bydd digon o stampiau a sticeri ar hyd y ffordd! Ar ôl cwblhau Sgiliau ar gyfer Chwaraeon gallan nhw ddewis un o'n rhaglenni Aml-chwaraeon lle byddan nhw'n parhau i ddysgu sgiliau ar gyfer camp benodol.
 
 

Rhaglenni Pasbort Aml-chwaraeon
Ar ôl cwblhau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon bydd y plant yn symud ymlaen i un o'n rhaglenni Aml-chwaraeon lle byddan nhw'n dysgu ac yn gwella sgiliau ar gyfer camp benodol.

Y pasbortau Chwaraeon sydd ar y gweill yw Pêl-rwyd Mini, Hoci Mini a Beicio Mini.

Mae gan bob pasbort 3 cham (coch, oren a gwyrdd) ac ar bob cam bydd plant yn dysgu ac yn meistroli gwahanol sgiliau.
Ar ôl cwblhau'r pasbort, bydd y plant yn barod i chwarae camp o'u dewis mewn clwb chwaraeon cymunedol lle byddan nhw'n parhau i ddysgu ar lefel leol / cenedlaethol neu ryngwladol.

 
Hoffech chi fod ymhlith y cyntaf i glywed am y Rhaglenni NEWYDD hyn?
Llenwch y ffurflen isod a rhown y wybodaeth ddiweddaraf i chi
 
 
 
 
 
 



Llithro i lawr y llethrau!

Mae'r tymor Sgïo yma ac nid oes angen teithio i'r Alpau i ddysgu sut i Sgïo neu Eirfyrddio. Os ydych yn mynd ar wyliau sgïo a heb fod eisiau treulio dau ddiwrnod cyntaf eich gwyliau'n cwympo, neu’n bod yn drwsgl gyda'r holl offer, dewch draw i Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre – bydd y staff yno yn fwy na pharod i ofalu amdanoch.

Mae’n lle perffaith i chi ddysgu sgïo neu eirfyrddio, neu hyd yn oed gwella eich sgiliau presennol mewn gwers gloywi. Maent yn darparu gwersi i bob oed a gallu.

Sgïo - Hamdden

Sgïo Iau &8.50 / 1 ½ awr
Oedolion &12.50 / 1 ½ awr

Gwersi Sgïo (Gwersi Grŵp)

Gwers Iau - &11 y wers

Oedolion - &17 y wers

Mae'r gwersi ar gael ar gyfer pob oedran yn ddyddiol.  Mae gwersi un-i-un hefyd ar gael ar gais. Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw ar gyfer pob gwers sgïo. Ffoniwch i archebu lle: 01554 834443

Mae Sgïo Pen-bre yn fwy na dim ond cyrchfan Sgïo, mae llawer mwy i’w wneud yn y ganolfan ac o'i hamgylch, gan gynnwys;

• Tiwbio - Iau &7, Oedolion &10 (uchafswm o 12 o bobl, 6+ oed). Argymhellir archebu ymlaen llaw.

• Llogi Beiciau - Beiciau plant (20" a 24") - 2 awr - &5, 4 awr - &7, drwy'r dydd - &10

• Beiciau Oedolion - 2 awr - &8, 4 awr - &10, drwy'r dydd - &16; trelars - &5

• Golff Disg - Iau - &2.50, Oedolyn - &3.50 (blaendal ad-daladwy o &5 ar ddisgiau)

• Cobra Toboggan - &2.50 y daith, neu 3 am &5

 

Gwasanaethu a Chynnal a Chadw - Sgïo

A wyddech chi ein bod ni’n gallu gwasanaethu a chynnig gwasanaeth cynnal a chadw eich offer sgïo?  Os oes gennych chi offer sgïo sydd angen eu gwasanaethu, gallwn ni eich helpu.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cwyro ac atgyweirio eich esgidiau sgïo.  Cysylltwch â ni neu gofynnwch yn y ganolfan am fanylion.

 

Tocynnau Rhodd
Beth am sbwylio eich ffrindiau a’ch teulu a rhoi sesiwn eirfyrddio yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre iddynt?  Boed yn ddysgu sgïo neu eirfyrddio neu’n syml, cael hwyl, gellir defnyddio tocynnau rhodd Canolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre ar gyfer holl weithgareddau’r Ganolfan.  Maent yn anrhegion delfrydol i unrhyw un gydol y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu, ffoniwch Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre: 01554 834443



NEWYDD! Amserlenni Nofio dros y Nadolig

Edrychwch ar ein hamserlenni nofio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Eisiau llosgi’r mins peis na bant dros y Nadolig? Gallwch nawr lawrlwytho amserlen y pwll dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Lawrlwythwch yr amserlenni isod neu ewch i’r wefan:

Pwll Nofio Llanymddyfri

Canolfan Hamdden Llanelli

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Ddim yn aelod?

Rydym yn cynnig aelodaeth nofio yn unig (Aelodaeth Efydd) o &25 y mis ac i fyny. Neu gallwch gael mynediad diderfyn i’r gampfa, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd ar draws ein holl ganolfannau Actif gyda ein Aelodaeth Cartref am &41 y mis.  Mae’r aelodaeth yma yn berffaith i deuluoedd (2 oedolyn a hyd at 4 o blant dan 18 oed); gall oedolion ychwanegol gael eu hychwanegu i’r aelodaeth am dâl bach. Cliciwch yma am fanylion.



Chwilbedlo Rhithwir yng Nghanolfannau Hamdden Castell Newydd Emlyn a Sanclêr

Cyflwyno Chwilbedlo Rhithwir yng Nghastell Newydd Emlyn a Chanolfan Hamdden Sanclêr.

Bellach gallwch fynd i ddosbarthiadau Chwilbedlo y tu allan i’r sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr a gallan nhw fod yn fwy cyfleus i chi.

Mae'r dosbarthiadau yn para 35 munud neu 55 munud ac yn dechrau ar yr awr *

Ydych chi'n poeni na fyddwch yn gwneud ymdrech go iawn? Peidiwch â phoeni, cewch eich tywys drwy'r ymarfer cyfan, gan brofi amrywiaeth o wahanol diroedd beicio a thirweddau trawiadol o amgylch y byd.  Beth bynnag yw eich ffitrwydd, bydd y pwyslais ar eich herio i ddal ati i bedlo gan roi hwb i'ch ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Sesiynau yn cael eu cynnal:

  • Dydd Mawrth 5pm, 6pm, 7pm
  • Dydd Iau 9.30am a 4pm
  • Dydd Gwener 9.30am a 6pm

Canolfan Hamdden Sanclêr

Sesiynau yn cael eu cynnal:

  • Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher 9am - 9pm

Mae dosbarthiadau rhithwir hefyd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar yr awr yn ystod oriau agor y ganolfan. Nid ydyn nhw ar gael yn ystod y sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr - edrychwch ar yr amserlen ar gyfer yr amseroedd.

Sut mae archebu lle mewn dosbarth chwilbedlo rhithwir?

Cysylltwch â'r canolfannau'n uniongyrchol:

Canolfan Hamdden Sanclêr 01267 224778

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn 01267 224731

Canolfan Hamdden Caerfyrddin 01267 224700

Prisiau

Os ydych yn aelod a bod gennych fynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd mae'r dosbarthiadau chwilbedlo rhithwir yn rhan o'ch aelodaeth.

Os nad ydych yn aelod gallwch dalu &5.50 fesul sesiwn neu dod yn aelod drwy glicio yma



<span style="font-family: Calibri, 'Segoe UI', Optima, Arial, sans-serif;">Newydd! Amserlenni dosbarthiadau ffitrwydd 2018</span>

Blwyddyn newydd a dosbarthiadau newydd wedi'u hychwanegu! Gyda dros 100 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos ar draws ein Canolfannau Hamdden Actif mae ‘na rhywbeth i pawb! 

Llosgwch y calorïau Nadolig ar ôl y Calan drwy roi cynnig ar ddosbarth newydd - Boxfit Bootcamp, Muscle Max, HIIT Cryfder a mwy!

Felly byddwch yn barod i gychwyn rhaglen ffitrwydd newydd y flwyddyn newydd hon! Lawrlwythwch yr amserlenni isod:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Canolfan Hamdden Llanelli

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Canolfan Hamdden Sanclêr

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Ddim yn aelod?

Rydym yn cynnig mynediad diderfyn i’r gampfa, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd ar draws ein holl ganolfannau Actif gydag aelodaeth cartref am &41 y mis.  Mae’r aelodaeth yma yn berffaith i deuluoedd (2 oedolyn a hyd at 4 o blant dan 18 oed); gall oedolion ychwanegol gael eu hychwanegu i’r aelodaeth am dâl bach. Cliciwch yma am fanylion.



Rhaglenni nofio cynhwysol

Nod ein llwybr Nofio yw darparu profiad nofio cynhwysol o safon uchel i blant ac oedolion sydd â phob math o anabledd a hynny mewn amgylchedd diogel, cefnogol a chyfeillgar.

Gyda’n cysylltiadau agos â Nofio Cymru, y nod yw datblygu plant (abl ac anabl) ymhellach a nodi nofwyr sy'n dymuno ymestyn eu taith nofio drwy gystadlu ym mhob math o gystadlaethau, os dymunan nhw.

Rhaglen Dysgu Nofio

Mae ein holl raglenni nofio yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i nofwyr abl ac anabl ar draws ein rhaglen 'dysgu i nofio'.

Rhaglen SBLASH - yn cyflwyno babanod o 3 mlwydd oed ac i fyny a phlant bach i weithgareddau dŵr hwyliog. Mae 6 cham i raglen sblash.

Rhaglen WAVE - yn dysgu sgiliau nofio a dŵr angenrheidiol i blant 4 blwydd oed a hŷn. Maen nhw hefyd yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol fel eu bod yn gallu bod yn ddiogel yn y dŵr ac o'i gwmpas. Mae 8 cam i raglen ‘Wave’.

Olrhain cynnydd

Mae ein hofferyn pasbort Acwa ar-lein yn eich helpu i olrhain cynnydd eich plentyn yn y pwll. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi a chael mynediad i wybodaeth yn uniongyrchol gan eich hyfforddwr nofio.

Gwersi nofio i oedolion

Rydym hefyd yn cynnal gwersi nofio wythnosol ar gyfer oedolion o bob gallu, o rai sydd ddim yn gallu nofio i’r rhai sy'n ceisio gwella eu techneg. Bydd aelod o'n tîm yn gallu rhoi cyngor i chi ar ba wers fyddai'n addas i'ch anghenion.

Os hoffech chi neu'ch plentyn ddysgu nofio y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni drwy e-bost gan nodi pa ganolfan hamdden fyddai orau gennych actifsirgar@sirgar.gov.uk



Marciau llawn i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin!

Newyddion gwych! Cafodd Canolfan Hamdden Caerfyrddin 100% yn y gwiriad Sicrhau Ansawdd blynyddol ar y cyrsiau achub bywyd a chymorth cyntaf a’r asesiadau a gyflwynir yn y ganolfan. Da iawn i'r holl staff sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd ar draws y cyrsiau hyn.

Mae pob un o'n canolfannau hamdden yn darparu cyrsiau gan gynnwys Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol RLSS (NPLQ) gydag AED (diffibriliad allanol awtomatig). Mae'r NPLQ yn gymhwyster achub bywyd cydnabyddedig ledled y DU ac fe'i cyflwynir ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn yn ein canolfannau.

Os ydych yn ystyried bod yn achubwr bywyd neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yn agos i chi, e-bostiwch actifsirgar@sirgar.gov.uk