Ymunwch ar-lein I arbed

Ymunwch ar-lein I arbed

Croeso i Gylchlythyr Hamdden Sir Gaerfyrddin ...

Aelodaeth nofio FAST (techneg dull nofio a ffitrwydd)

A ydych chi'n paratoi ar gyfer eich triathlon cyntaf neu'n awyddus i gael eich perfformiad gorau yn eich digwyddiad nesaf? Gallwn eich helpu i wella pa bynnag agwedd ar eich nofio yr hoffech wella drwy ein rhaglen FAST.

Mae ein rhaglen FAST yn sesiynau nofio dan arweiniad hyfforddwyr i'r rhai sy'n chwilio am sesiynau o ansawdd uchel sydd wedi'u hanelu at wella techneg, cyflymder a dygnwch.

Mae'r adborth arbenigol a'r cymorth yr ydych yn eu cael bob wythnos yn sicrhau eich bod yn gwella  yn y meysydd yr ydych am ganolbwyntio arnynt. Bydd ein hyfforddwyr yn nodi unrhyw wendidau yn eich dull nofio ac yn gosod ymarferion ar eich cyfer i'ch helpu i gywiro eich techneg.

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd ar eich cynnydd gan yr hyfforddwr ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae ein hyfforddwyr wrth law i'w hateb i sicrhau eich bod yn elwa cymaint â phosibl ar y sesiynau.

Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i chi gwrdd ag athletwyr triathlon a nofwyr tebyg i chi sy'n awyddus i wella eu dull nofio.

Cynnwys y sesiwn;

sesiwn 45 munud wedi'i strwythuro ar gyfer pob gallu

Cyngor ar dechneg

Gwaith ar gyflymder a dygnwch

Hyfforddwr yn cofnodi ac yn dadansoddi cynnydd

Adborth rheolaidd gan yr hyfforddwr

Mae'r sesiynau FAST ar gael yn y safleoedd canlynol yn unig ar hyn o bryd ond rydym yn awyddus i ymestyn y rhaglen i byllau nofio Caerfyrddin a Llanymddyfri yn fuan iawn;

• Canolfan Hamdden Llanelli
• Canolfan Hamdden Rhydaman

Dewisiadau o ran aelodaeth

Dewiswch un aelodaeth o'r canlynol i chi gael cychwyn arni heddiw.  Gallwch ymuno ar-lein heddiw neu ymweld â Llanelli neu Rhydaman

FAST

Mae'r aelodaeth hon yn cynnig 2 sesiwn yr wythnos (45 munud yr un) gyda hyfforddwr.

&22.00 y mis

YMUNWCH AR-LEIN

FAST - Cynnig Ychwanegol

Gellir ychwanegu'r aelodaeth hon at ein haelodaeth graidd e.e. Aelodaeth Aelwyd, Platinwm, Efydd, myfyriwr neu dros 60 oed ac mae'n cynnig 2 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr

&16.50 y mis

YMUNWCH AR-LEIN

FAST - Ysgafn

Mae'r aelodaeth hon yn cynnig 1 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr

&11.00 y mis

YMUNWCH AR-LEIN

FAST - Cynnig Ychwanegol Ysgafn

Gellir ychwanegu'r aelodaeth hon at ein haelodaeth graidd e.e. Aelwyd, Platinwm, Efydd, myfyriwr neu dros 60 oed ac mae'n cynnig 1 sesiwn yr wythnos gyda hyfforddwr

&8.75 y mis

YMUNWCH AR-LEIN

Clwb Actif Gwyliau’r Pasg

Mae’r Clwb Gwyliau Actif yn ôl ar gyfer gwyliau'r Pasg!

Mae ein clwb gwyliau sydd yn cael ei gynnal bob gwyliau ysgol yn llawn o weithgareddau hwyl i blant 8-12 oed. Ffordd wych i'ch plentyn gadw'n heini, cael hwyl a gwneud ffrindiau a cheisio ystod eang o weithgareddau a chwaraeon newydd!

Mae ein clwb gwyliau’r Pasg yn cael ei gynnal o 2 Ebrill - 13 Ebrill (nid yw'n cael ei gynna ddydd Llun y Pasg).

Gallwch archebu lle i’ch plentyn am y diwrnod o 8.30 – 5pm neu cadwch le i’ch plentyn ar nifer o ddyddiau neu am yr wythnos.

Darperir brecwast, cinio a byrbrydau yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin a Llanelli bob dydd fel rhan o'r pris dyddiol. Gofynnir i blant ddod a phecyn bwyd i Ganolfan Hamdden Rhydaman, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr.

Prisiau yn dechrau o &15.90 y dydd.

Gweithgareddau ar gyfer plant 4-7 oed
Yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr yn unig rydym yn cynnal gweithgareddau hanner diwrnod i blant 4-7 oed. Am fanylion llawn, edrychwch ar yr amserlen Sanclêr islaw.

Edrychwch ar yr amserlenni ar gyfer pob un o'n canolfannau islaw;

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Canolfan Hamdden Rhydaman

Canolfan Hamdden Llanelli

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Canolfan Hamdden Sanclêr

Archebu lle

Gallwch archebu lle i’ch plentyn ar-lein neu ewch i’ch Canolfan Hamdden Actif agosaf.

Cymry Coch

Bydd Gemau’r Gymanwlad 2018 yn dechrau cyn hir.

Rhwng 4-5 Ebrill bydd Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal ar yr Arfordir Aur yn Awstralia wrth i fwy na 6,600 o athletwyr a swyddogion o 70 o wledydd y Gymanwlad gymryd rhan.

Llongyfarchiadau a phob lwc i’r athletwyr.

Wedi cael eich ysbrydoli?

Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar thema’r Gymanwlad yn ein parciau lleol yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman o ddydd Mawrth 3 Ebrill. Dewch i roi cynnig ar weithgareddau megis beicio, pêl-rwyd, hoci, rygbi, athletau ac aml-sgiliau a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau’n addas i blant dan 11 oed o bob gallu. Rhaid i’r plant fod yng nghwmni oedolyn/gwarcheidwad ar bob adeg. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

BRYSIWCH… SÊL YN DOD I BEN 31 MAWRTH

Mae’r sêl wedi ymestyn gyda gostyngiad o hyd at 60% ar bris siacedi, trowsus a bŵts sgïo a sgïau yn sêl cau siop Sgïo Pen-bre. Mae’n rhaid gwerthu popeth. Bydd y gweithgareddau yng Nghanolfan Sgïo a Gweithgareddau Pen-bre yn parhau fel arfer.

Dewch i weld y dewis llawn o eitemau gan gynnwys;

• Dillad gaeaf i blant ac oedolion gan gynnwys siacedi a sallopettes Scott, offer sgïo Animal, hetiau a menig gan frandiau blaenllaw
• Sgïau ac esgidiau sgïo – gostyngiad o hyd at 60% ar rai eitemau
• Esgidiau eirafyrddio o &60
• Dillad o &7

Dewch i Siop Sgïo Pen-bre a manteisio ar y sêl

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 10am – 6pm

Mae’r brandiau’n cynnwys:

Amser i ddathlu!

Cynllunio parti pen-blwydd nesaf eich plentyn? Mae Canolfannau Hamdden Actif yn berffaith ar gyfer eich dathliadau.

Mae gennym becynnau partion gwych i ddewis ohonynt fel bod eich plentyn yn cael llawer o hwyl yn dathlu eu pen-blwydd arbennig gyda'u ffrindiau, gan ei gwneud yn ddiwrnod i'w gofio!

Gadewch inni helpu i gymryd y straen allan o drefnu parti pen-blwydd nesaf eich plentyn.

Bydd ein Arweinwyr Actif yn sicrhau eich bod chi a'ch gwesteion yn derbyn gofal. Gallwn hyd yn oed ddosbarthu bwyd i chi hefyd (ar safleoedd dethol). Ac yn bwysicaf oll byddwn yn clirio'r sbwriel sydd yn golygu y gallwch chi fwynhau parti pen-blwydd heb unrhyw drafferth, dim llanast dim ond llawer a llawer o HWYL!

Gweler yr holl opsiynau partion pen-blwydd isod;

I archebu lle i’ch plentyn  cysylltwch a a’r Canolfannau Hamdden neu’r canolfan Sgio yn uniongyrchol.

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman - 01269 594517

Canolfan Hamdden Caerfyrddin - 01267 224700

Canolfan Hamdden Llanelli - 01544 774757

Pwll Nofio Llanymddyfri - 01267 224733

Canolfan Hamdden San Cler - 01267 224778

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn - 01267 224731

Canolfan Sgio a Gweithgareddau Pen-Bre - 01554 834443

Rhaglenni Aml-chwaraeon NEWYDD i Blant wedi lansio

Mae ein rhaglenni pasbort newydd wedi cael ei lansio sydd yn golygu eich bod yn gallu rhoi eich plant ar y trywydd i fod yn Actif!

Mae ein rhaglenni NEWYDD i blant yn cynnwys Sgiliau ar gyfer Chwaraeon a rhaglenni Aml-chwaraeon fydd yn helpu plant i:

• Ddysgu sgiliau corfforol sylfaenol
• Datblygu hyder a gwneud penderfyniadau
• Cadw'n iach
• Cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd

Bydd y rhaglenni'n rhoi pwyslais ar gael y plant i ddysgu a meistroli sgiliau chwaraeon ar eu cyflymder eu hunain er mwyn eu helpu i ddatblygu ymhellach ac i chwarae camp o'u dewis nhw.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglenni

Pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon

Yn ystod sesiynau'r pasbort Sgiliau ar gyfer Chwaraeon  bydd plant yn dysgu ac yn gwella sgiliau symud sylfaenol megis cydbwyso, neidio, taflu a dal fel bod ganddyn nhw'r holl sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnyn nhw i fynd ymlaen i chwarae unrhyw gamp.

Rhaglenni Pasbort Aml-chwaraeon

Yn y rhaglenni aml-chwaraeon bydd plant yn cael dewis yn o’r chwaraeon canlynol lle byddan nhw'n dysgu ac yn gwella sgiliau ar gyfer camp benodol.

Pasbortau yn cynnwys;

• Pêl-rwyd Mini
• Hoci Mini
• Beicio Mini

Mae gan bob pasbort 3 cham (coch, oren a gwyrdd) ac ar bob cam bydd plant yn dysgu ac yn meistroli gwahanol sgiliau.

Ar ôl cwblhau'r pasbort, bydd y plant yn barod i chwarae camp o'u dewis mewn clwb chwaraeon cymunedol lle byddan nhw'n parhau i ddysgu ar lefel leol / cenedlaethol neu ryngwladol.

Mae’r rhaglenni pasbort yn rhedeg yn Ganolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin a Llanelli.

Am fwy o wybodaeth ac i weld yr amserlenni cliciwch yma neu cysylltwch â’r canolfannau yn uniongyrchol.

Ymunwch ar-lein I arbed

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu gallan nhw gofrestru ar-lein ac ARBEDWCH HYD AT 33% oddi ar ein ffi weinyddol arferol.

Gallwch ymuno ag unrhyw un o'n aelodaeth ar-lein yng nghysur eich cartref neu gallwch ddod i mewn i un o'n canolfannau hamdden ac ymuno ar-lein trwy ddefnyddio ein iPads newydd sbon i fanteisio ar yr arbedion ffioedd gweinyddol.

Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i gwsmeriaid newydd yn ogystal â chwsmeriaid sy'n edrych i drosglwyddo o un aelodaeth Actif i un arall.

AELODAETH

FFI WEINYDDOL

COST Y MIS

YMUNWCH AR-LEIN

AELODAETH AELWYD ACTIF

Ar gael i aelwydydd o 2 oedolyn a hyd at 4 plentyn (o dan 18 oed).

Cynnwys defnydd o’r ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Ffi weinyddol ar gyfer aelodau newydd NAWR yn &20 (oedd yn &30)

Aelodau presennol sydd eisiau trosglwyddo NAWR yn &15 (oedd yn &20)

&41 y mis

YMUNWCH YMA

PLATINWM

Ar gael i bawb– Cynnwys defnydd o’r ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Ffi weinyddol NAWR yn &10 (oedd yn &15)

&33 y mis

YMUNWCH YMA

PLATINWM CORFFORAETHOL

Ar gael i weithwyr cwmnïau / sefyldiadau sy’n gysylltiedig a’r cynllun.  Cynnwys defnydd o’r ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Ffi weinyddol NAWR yn &10 (oedd yn &15)

&28 y mis

YMUNWCH YMA

STUDENT

Ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser. Cynnwys defnydd o’r ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Ffi weinyddol NAWR yn &10 (oedd yn &15)

&25 y mis

YMUNWCH YMA

OVER 60’s

Ar gael i rhai dros 60 oed.  Cynnwys defnydd o’r ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd a nofio.

Ffi weinyddol NAWR yn &10 (oedd yn &15)

&25 y mis

YMUNWCH YMA