Paratowch eich hun ar gyfer y campfeydd newydd yn Sir Gaerfyrddin!

Paratowch eich hun ar gyfer y campfeydd newydd yn Sir Gaerfyrddin!




Aelodaeth o'r Gampfa

Paratowch eich hun ar gyfer y campfeydd newydd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r awdurdod wrthi'n buddsoddi dros &1 filiwn i wella ein cyfleusterau a'n hoffer ffitrwydd, er mwyn cynnig y cyfleusterau gorau eto, a'r rhai gorau yn yr ardal. Mae campfa newydd eisoes wedi agor yn Llanelli, a bydd dwy gampfa arall yn agor yng Nghaerfyrddin ac yn Rhydaman yn fuan. Bydd cynlluniau'r campfeydd newydd yn cynnig amgylchedd gwych ichi wneud ymarfer corff.

Mae'r dyddiau pan fyddech yn syllu ar yr un hen sgrin ar yr offer wedi mynd.Mae'r offer newydd gan Life Fitness yn eich galluogi i wneud ymarfer corff mewn ffordd fwy ysgogol a rhyngweithiol, a gallwch wylio'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf neu wrando ar eich hoff ganeuon ar Youtube, a fydd yn ychwanegu elfen bersonol at eich sesiynau ymarfer corff.

Gydag ychydig o gymorth gan Ap LF Connect, gallwch gyrchu sesiynau ymarfer corff personol drwy wasgu botwm a byddwch ar y ffordd i gwblhau Marathon Llundain. Os nad ydych chi'n un am y dechnoleg ddiweddaraf, peidiwch â phoeni gan fod ein staff croesawgar a chyfeillgar bob amser wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad. Credwch neu beidio, NID OES CYNNYDD yn y ffioedd aelodaeth chwaith. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.



Aelodaeth Myfyriwr Actif

Dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi?? 16 neu'n troi'n 16 yn fuan?? Beth am fanteisio'n llawn ar Aelodaeth Myfyriwr, sy'n cynnig gostyngiad ENFAWR o 27% ar ein prisiau llawn? NID OES CONTRACTAU i'w llofnodi a gallwch REWI eich aelodaeth unrhyw bryd, yn enwedig os yw arian yn brin neu os ydych yn mynd adref i weld eich anwyliaid. A ydych chi'n byw'n lleol? Wel, beth am ddewis gwneud ymarfer corff yn un o'n 4 cyfleuster gwych arall ar garreg eich drws? Mae'r aelodaeth hon hefyd yn cynnwys gostyngiad pellach o 10% ar ein holl weithgareddau eraill. Beth mae hyn yn ei gynnwys? Wel, os byddwch yn ymaelodi, cewch fynediad i'n Campfeydd, Pyllau Nofio a Dosbarthiadau Ffitrwydd penodol. Felly, peidiwch ag oedi, ymunwch ar-lein NAWR.



Aelodaeth Llwybr Ymarfer yn y Dwr

Ydych chi wedi'ch ysbrydoli gan y Gemau Olympaidd yn Rio? Ydych chi'n teimlo'r awydd i roi cynnig ar rywbeth newydd?
A oeddech chi'n gwybod, yma yn Chwaraeon a Hamdden Sir Gaerfyrddin, fod gennym amrywiaeth o weithgareddau ymarfer yn y dŵr nad ydych o bosibl wedi rhoi cynnig arnynt o'r blaen!
Cynigir Deifio, Nofio Cydamserol a Pholo Dŵr i enwi ond ychydig.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.  



Amserlenni – Dosbarthiadau Nofio a Ffitrwydd Newydd (Dosbarth Chwilbedlo Newydd yng Nghastellnewydd Emlyn a Sanclêr)

AR GAEL NAWR – Amserlenni Newydd

Amserlenni Newydd ar gyfer y Pwll yn ystod y tymor ac Amserlenni Dosbarthiadau Ffitrwydd, lawrlwytho eich copi heddiw.

Mae Amserlenni Adleoli hefyd ar gael ar gyfer Canolfan Hamdden Caerfyrddin, cysylltwch ag actifsirgar@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion.

Gallwch weld yr amserlen ddiweddaraf drwy glicio yma.



Chwaraeon a Hamdden Actif

 

WAW, cafwyd Gemau Olympaidd a Paralympaidd gwych unwaith eto yn Rio, a gwnaeth ein hathletwyr yn arbennig o dda.

A yw hyn wedi'ch ysbrydoli i fynd allan a bod yn fwy egnïol yn fwy aml?

Rydym ni yma yn Chwaraeon a Hamdden Actif yn wir yn gobeithio hynny. Pa un a ydych am roi cynnig ar Feicio neu Athletau, gadewch inni eich arwain a'ch cefnogi i wireddu eich llawn botensial drwy gael golwg ar yr ystod lawn o weithgareddau sydd ar gael ar draws ein holl safleoedd heddiw!

Cofiwch fod sylw i'r Gemau Paralympaidd yn dechrau ar 7 Medi. I weld ein rhestr lawn o weithgareddau, cliciwch yma.

Peidiwch oedi, archebwch ar-lein nawr!