Mae'r aros bron ar ben...

Mae'r aros bron ar ben...




Mae'r aros bron ar ben...

Ar ôl i'r gwaith adnewyddu ddod i ben cyn bo hir bydd gan gampfa Canolfan Hamdden Caerfyrddin y cyfarpar mwyaf a mwyaf sythweledol yn y diwylliant ffitrwydd, a hynny drwy Life Fitness. Mae'r aelodau presennol yn cael eu cyflwyno i'r llwyfan LF Connect newydd yn barod am y profiad ymarfer corff cyffrous hwn.
 
Ar 22 Hydref bydd y cyfleuster ffitrwydd newydd yn cael ei agor. Felly siaradwch â hyfforddwr ymarfer am ymuno â LF Connect a chyfeirio eich ffrindiau a'ch teulu at ein cynnig gwych newydd, sef &19.99 am bob aelodaeth, er mwyn cael golwg ar y cyfleuster mwyaf trawiadol yn y sir!
 



Plant bach yn gwneud 'Sblash' yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman

Mae'r gwersi Sblash a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer plant dan 4 oed wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith rhieni a phlant bach.  Mae'r gwersi ychwanegol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r rhaglen Dysgu Nofio gan drosglwyddo o Grŵp Sblash: sesiynau rhieni a babanod ac yn y diwedd i'r gweithgareddau dŵr megis polo dŵr ac achubwyr bywydau Rookies.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi wedi gweld gwelliant yn ei merch Mia (4 oed), dywedodd Mrs Jenkins: "Mae Mia yn dwlu ar y gwersi, ac mae ei hyder wedi cynyddu'n sylweddol".  Yr unig beth yr oedd Mrs Jenkins yn ei ddifaru yw nad oedd Mia wedi cael gwersi pan oedd yn fach iawn, ond yn sgil gweld manteision y gwersi mae wedi trefnu i Ella, chwaer Mia, ddechrau cael gwersi Sblash a hithau'n 2 oed.

Nod ein rhaglen Sblash NEWYDD yn Sir Gaerfyrddin yw cynyddu hyder plant yn y dŵr mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl.  Mae ein gwersi Sblash yn addas ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed. Mae athro cymorth/athrawes gymorth yn y dŵr fel rhan o wersi Sblash 1-5 a fydd yn helpu i annog a llywio eich plentyn yn ddiogel drwy'r dŵr. Rydym yn gofyn i rieni plant bach iawn ymuno â nhw yn y dŵr er mwyn iddynt gymryd rhan lawn yn natblygiad eu plant a datblygu sgiliau dŵr eu plant ymhellach y tu allan i'r gwersi hyn.  Mae bathodynnau a gwobrau ar gael i'ch helpu i nodi cynnydd eich plentyn drwy'r rhaglen. Mae sesiynau Sblash ar gael yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Cliciwch ar y lleoliad i gael gwybod pryd y bydd y sesiynau Sblash nesaf yn cael eu cynnal yn eich ardal chi.



Loceri Newydd Sbon Ar Eu Ffordd!

Mae loceri newydd yn cael eu gosod ar dri safle ym mis Tachwedd ac wedyn yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman yn fuan ar ôl hynny.

Y tri safle yw: Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanelli a Chanolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn.

Bydd y prosiect hwn yn cynnwys gosod loceri newydd sbon a fydd yn gysylltiedig â'r gwaith i adnewyddu'r ystafelloedd ffitrwydd ac yn cyflwyno cloeon RFID electronig a fydd yn gweithio gyda'r bandiau garddwrn clyfar y bydd cwsmeriaid yn eu defnyddio. Dyma ffordd ddiogel i gwsmeriaid gadw eu heiddo heb orfod poeni am allwedd!

Bydd gweddill y gwaith yn cynnwys atgyweirio'r loceri presennol yn llawn ym Mhwll Nofio Llanymddyfri ynghyd â darparu cloeon dychwelyd arian, allweddi a bandiau garddwrn newydd i'w defnyddio â'r darn arian &1 newydd a gyflwynir yn 2017.

Bydd y prosiect hwn yn gwella ein safonau yn y maes pwysig hwn ac yn gwella profiad cwsmeriaid yn unol â gweddill ein cyfleusterau.



Cyfle i ymarfer yn glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol?? Sut? Drwy Synrgy 360!

Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar brofiad chwyldroadol Synrgy eto yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ewch ati ar unwaith i wneud hynny gan fod 15 dosbarth ar gael fel rhan o'r aelodaethau craidd, am hyn a hyn o amser yn unig.

Mae'r cyfarpar blaengar hwn yn cynnig hyfforddiant di-derfyn, ac mae'r dosbarthiadau a gynhelir drwy'r dydd yn cael eu darparu gan dimau ffitrwydd Chwaraeon a Hamdden Actif. Mae offer 'lle chwarae' SYNRGY360 yn fwy na dim ond ymarfer corff .Mae'r syniad chwyldroadol hwn yn cynnig cyfleoedd dirifedi i ymarfer yn glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol. 

Cymerwch olwg ar ein fideo SYNRGY360 am ragor o wybodaeth.

 



A Hoffech Chi Chwilbedlo I Berlin??

A wyddech fod modd chwilbedlo i Berlin bellach sydd tua 970 milltir i ffwrdd? Peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud hynny o ddifrif, ond petaech chi'n dymuno gallech wneud hynny yn ein profiad chwilbedlo rhithwir NEWYDD.

Mae cyflwyno ein beiciau chwilbedlo Lifecycle GX newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin wedi arwain at gynnydd sylweddol, oherwydd y nodweddion diweddaraf a dyluniad olwyn-ôl unigryw. Dangosir y gwytnwch ar y consol a gellir ei newid yn hawdd o ymarfer i ymarfer. Mae cyfrifiadur sgrin cyffwrdd yn rhoi adborth parhaus wrth ymarfer ynghylch cyflymder, calorïau, cadens a churiad calon. Mae hwn yn ddull ymarfer corff cardiofasgwlaidd cyflawn sy'n darparu'r canlyniadau a ddisgwylir gan brofiad beicio dan do o'r radd flaenaf. Darperir ar gyfer pobl o bob lefel ffitrwydd, boed yn ddechreuwyr neu'n brofiadol, bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Mae dosbarthiadau chwilbedlo ar gael bellach drwy'r sir gan gynnwys yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr, Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, Canolfan Hamdden Llanelli a Chanolfan Hamdden Dyffryn Amman.



Cyfle i ymarfer yn glyfrach, yn well ac yn fwy effeithiol?? Sut? Drwy Synrgy 360!

Gyda dewis eang o weithgareddau hwyliog, megis rygbi tag, pêl-rwyd, ymweliad calan Gaeaf gan Zoolab, helfa drysor a gemau 'gwlyb a gwyllt' yn y pwll bydd eich plant siŵr o gael amser gwych.

Rydym hefyd yn derbyn Talebau Gofal Plant gan y sefydliadau canlynol:

  • Edenred,
  • Care4,
  • Sodexo,
  • Kiddivouchers a
  • Computershare.

I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle ewch i wefan y Clwb Actif wrth clicio yma yma .

Eich Clwb Actif Lleol -

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman – 01269 594517

Canolfan Hamdden Caerfyrddin – 01267 224700

Canolfan Hamdden Llanelli - 01554 774757



Llofnodwch yr addewid. Gwnewch chwaraeon yn gêm i bawb.

Mae chwaraeon yn gyforiog o homoffobia, deuffobia a thrawsffobia. Mae ymchwil newydd ar gyfer ymgyrch Lasys Enfys yn dangos:
  • bod 72 y cant o gefnogwyr pêl-droed wedi clywed iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio
  • bod un ymhob pump o bobl ifanc 18 i 24 oed yn dweud y bydden nhw'n teimlo embaras petai eu hoff chwaraewr yn dod allan
  • bod cefnogwyr ifanc ddwywaith mor debygol o ddweud bod iaith negyddol tuag at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn ddiniwed os mai dim ond 'cellwair' roedd rhywun
Mae llawer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn clywed y neges nad oes croeso iddyn nhw mewn chwaraeon, a hynny o oedran ifanc.
Mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr a chefnogwyr chwaraeon yn croesawu ac yn derbyn aelodau tîm a chefnogwyr sy'n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol ac yn draws. Allwn ni ddim gadael i leiafrif bach swnllyd ddifetha'r gêm i bawb arall.
 
I wneud chwaraeon yn gêm i bawb mae angen i ni ddangos ein bod yn cefnogi chwaraewyr a chefnogwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws – a dod at ein gilydd i ddangos hynny, fel cefnogwyr, chwaraewyr, clybiau, cynghreiriau, cyrff llywodraethu a noddwyr. Gall pobl nad ydyn nhw'n hoffi chwaraeon fod yn rhan o'r ymgyrch hefyd, a chwarae eich rhan yn y gwaith o helpu'r genhedlaeth nesaf o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws i ffynnu mewn chwaraeon.
 
Helpwch ni heddiw: ymrwymwch i wneud chwaraeon yn gêm i bawb. Llofnodwch yr addewid a rhannwch eich ymrwymiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan dagio pump o ffrindiau sy'n hoffi chwaraeon a gofyn iddyn nhw wneud ymrwymiad hefyd.
 
Mae angen i ni anfon neges bositif at ein ffrindiau, ein teuluoedd a'r rhai sy'n chwarae ac yn bloeddio gyda ni: rydyn ni'n croesawu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ym maes chwaraeon, ac rydyn ni eisiau gwneud chwaraeon yn gêm i bawb.
 
Daliwch ati i rannu. Gyda'n gilydd, gallwn ni wneud chwaraeon yn gêm i bawb.
 
Stonewall Cymru