Diolch yn fawr wrth Actif

Diolch yn fawr wrth Actif




Diolch yn fawr wrth Actif

Mae cyfnod o darfu wedi bod ledled ein canolfannau dros y 6 mis diwethaf yn sgil gwneud gwaith adnewyddu yn ein campfeydd.  Mae mwyafrif y gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ond mae dal peth gwaith yn mynd yn ei flaen.

Fel ffordd o ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn o darfu, rydym yn rhoi Pecynnau Teyrngarwch AM DDIM i bob cwsmer a oedd yn aelod ar 30 Medi.  Bydd pob aelod o'r gampfa sy'n gymwys wedi derbyn ‘Tocyn Rhodd’ ar e-bost neu drwy lythyr.

Ewch â'r Tocyn Rhodd hwn i unrhyw un o'n canolfannau i hawlio eich Pecyn Teyrngarwch AM DDIM.

DIM TOCYN RHODD DIM PECYN TEYRNGARWCH

Beth sy'n rhan o'r Pecyn Am Ddim?

Mae'r Pecyn yn cynnwys Band Garddwrn RFID, Botwm RFID, potel ddŵr Actif, Tywel Actif a Chylch Allwedd ar gyfer y Loceri.

Mae'r Band Garddwrn RFID ar gael mewn amrywiol liwiau a meintiau, mae'r botel ddŵr Actif ar gael mewn 5 lliw gwahanol a'r Tywelion Actif ar gael yn un ai Gwyn neu Nefi. Bydd y Pecyn Teyrngarwch yn benodol ar eich cyfer chi; gallwch ddewis lliwiau'r eitemau amrywiol yn unol â'ch dewis personol.



Mae’n haws byth 'cofnodi' wrth gyrraedd

Ein buddsoddiad cyntaf y byddwch chi'n elwa arno fel aelodau fydd cyflwyno RFID

Beth yw Offer Adnabod Amledd Radio (RFID)?

Un o'n haddewidion ni i chi yw y byddwn ni'n ei gwneud hi'n haws i chi fod yn egnïol yn fwy aml. Un ffordd o'i gwneud hi'n haws yw trwy gyflwyno offer RFID megis botymau a bandiau garddwrn. Y cyfan sydd angen ei wneud yw tapio a bipian ac rydych chi'n barod - ni allai fod yn haws!

Ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio offer RFID yn y dderbynfa i fewngofnodi yn hytrach na defnyddio carden neu orfod cofio eich rhif aelodaeth. Cyn bo hir bydd sganwyr RFID yn cael eu gosod yn y rhan fwyaf o'n ciosgau hunanwasanaeth hefyd er mwyn i chi'n syml chwifio eich eitem RFID o flaen y ciosg ac yna mewngofnodi.

Yn ogystal bydd rhai o'n loceri yn gweithio drwy RFID hefyd felly ni fydd angen i chi gofio dod â £1 mwyach. Yn syml, gwasgwch eich eitem RFID ar y clo i gloi'r locer a gwnewch yr un peth i'w agor. Dim ond eich eitem RFID chi fydd yn agor y locer (a'n prif allwedd ni wrth gwrs!).

Ar gyfer defnyddwyr y gampfa, mae'r consolau offer Life Fitness newydd yn cydnabod eitemau RFID hefyd felly ar ôl i chi fewngofnodi a sganio eitem RFID, dim ond chwifio eich eitem RFID o'i flaen y bydd angen i chi ei wneud yn y dyfodol er mwyn mewngofnodi.

(Sylwch: Rydym wedi cael ar ddeall y dylai botymau RFID gael eu sticio ar gefn iPhones oherwydd mae'r ddyfais Apple Pay ar y top ac mae’r ddau’n gallu ymyrryd â'i gilydd.)



Yn hoffi ein Pecyn Teyrngarwch? ‘ar Werth NAWR’!!!

Gallwch!!! Hefyd bydd yr eitemau hyn ar Werth yn ein holl Ganolfannau, a hynny erbyn y Nadolig. 

Eitemau Sêl Actif

Eitem Sêl

Pris

Chylch Allwedd      

£1.00

Botwm RFID

£2.00

Cerdyn Aelodaeth a Ffob Allwedd 

£2.00

Potel Ddŵr Actif    

£2.50

Band Garddwrn RFID

£4.50

Tywel Actif  

£6.00



Oriau Agor dros Wyliau'r Nadolig

Oriau Agor Nadolig 2016

CANOLFAN HAMDDEN CAERFYRDDIN

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

8am – 4pm

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

8am – 4.00pm

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol

CANOLFAN HAMDDEN DYFFRYN AMAN

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

9am – 4pm

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

9am – 4pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

9am – 4pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

9am – 4pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

9am – 4pm

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol

CANOLFAN HAMDDEN LLANELLI

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

8am – 4pm

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

8am – 4pm

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol

LLERTH SGÏO

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

AR GAU

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

10am-6pm

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

 10am-6pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

 10am-6pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

 10am-6pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

 10am-4pm

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

10am-6pm

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

 Diwrnod Arferol

CANOLFAN HAMDDEN SANCLÊR

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

AR GAU

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

AR GAU

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol

CANOLFAN HAMDDEN CASTELLNEWYDD EMLYN

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

AR GAU

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

8am – 8pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

AR GAU

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol

PWLL NOFIO LLANYMDDYFRI

Diwrnod

Dyddiad

Nodiadau

Oriau Agor

Dydd Sadwrn

24 Rhagfyr

Noswyl Nadolig

AR GAU

Dydd Sul

25 Rhagfyr

Nadolig

AR GAU

Dydd Llun

26 Rhagfyr

Dydd San Steffan / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

27 Rhagfyr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mercher

28 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

AR GAU

Dydd Iau

29 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

9am – 4pm

Dydd Gwener

30 Rhagfyr

Diwrnod Arferol

9am – 4pm

Dydd Sadwrn

31 Rhagfyr

Nos Galan

AR GAU

Dydd Sul

1 Ionawr

Dydd Calan  / Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Llun

2 Ionawr

Gŵyl y Banc

AR GAU

Dydd Mawrth

3 Ionawr

Diwrnod Arferol

Diwrnod Arferol



Llanelli yn cynnal Parkrun 5 cilometr newydd wedi'i amseru


Beth yw Parkrun Arfordir Llanelli?

Mae'n ras 5 cilometr – pawb yn erbyn y cloc.

Pryd mae'r ras?

Bob dydd Sadwrn am 9.00am.

Ble?

Cynhelir y digwyddiad ar Gaeau Chwarae'r Brenin Siôr, Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4AR. Gweler tudalen y cwrs i gael rhagor o fanylion.

Faint mae'n ei gostio i ymuno?

Dim byd – mae’n rhad ac am ddim! Fodd bynnag gofynnir i chi gofrestru cyn eich ras gyntaf. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda Parkrun. Cofiwch ddod â chopi papur o'ch côd bar (gofynnwch am nodyn atgoffa). Os byddwch yn ei anghofio, ni chewch amser.

Pa mor gyflym fydd yn rhaid i mi redeg?

Rydym ni i gyd yn rhedeg er pleser. Dewch i ymuno â ni, beth bynnag eich gallu!

Mae eich angen chi ar Parkrun Arfordir Llanelli!

Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr - e-bostiwch llanellicoasthelpers@parkrun.com os hoffech helpu.

Rydym yn gyfeillgar!

Bob wythnos rydym yn mwynhau coffi ar ôl y Parkrun yng Nghaffi'r Pafiliwn, Caeau Chwarae'r Brenin Siôr, Heol y Pwll, Llanelli, SA15 4BA. Mae modd cyrraedd y prif faes parcio drwy Heol y Dramffordd, sydd ychydig ar ôl y brif fynedfa i'r parc ac ychydig cyn y goleuadau traffig. Dewch i ymuno â ni!



Mae dwy gampfa wedi'u hadnewyddu ac mae un ar ôl

Mae'r gwaith adnewyddu wedi gorffen yn barod yng nghanolfannau hamdden Llanelli a Chaerfyrddin. Dewch i fwrw golwg arnyn nhw a soniwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu iddyn nhw gael manteisio ar y cyfleusterau newydd.  Bydd ein cynnig arbennig o £19.99 yn dod i ben yn fuan, felly achubwch ar y cyfle i chi a'ch anwyliaid arbed dros £50.

Mae'r gwaith wedi dechrau yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ac mae disgwyl iddo orffen yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mynnwch gip ar yr hyn sydd i ddod yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman drwy glicio yma.



Clwb Actif Nadolig!

Beth am ddod â nhw i’r Clwb Actifyn eich canolfan hamdden leol?

Gyda dewis eang o weithgareddau hwyliog, i blant o 8-12 oed megis rygbi tag, pêl-rwyd, pêl-droed , helfa drysor Siôn Corn a gemau 'gwlyb a gwyllt' yn y pwll, bydd eich plant siŵr o ddatblygu eu sgiliau chwaraeon, gwneud ffrindiau newydd a chael amser gwych.

I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle ewch i wefan y Clwb Actif wrth glicio yma.

Eich Clwb Actif Lleol -

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman – 01269 594517

Canolfan Hamdden Caerfyrddin – 01267 224700

Canolfan Hamdden Llanelli - 01554 774757