Beth yw Parkrun Arfordir Llanelli?
Mae'n ras 5 cilometr – pawb yn erbyn y cloc.
Pryd mae'r ras?
Bob dydd Sadwrn am 9.00am.
Ble?
Cynhelir y digwyddiad ar Gaeau Chwarae'r Brenin Siôr, Heol y Pwll, y Pwll, Llanelli, SA15 4AR. Gweler tudalen y cwrs i gael rhagor o fanylion.
Faint mae'n ei gostio i ymuno?
Dim byd – mae’n rhad ac am ddim! Fodd bynnag gofynnir i chi gofrestru cyn eich ras gyntaf. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda Parkrun. Cofiwch ddod â chopi papur o'ch côd bar (gofynnwch am nodyn atgoffa). Os byddwch yn ei anghofio, ni chewch amser.
Pa mor gyflym fydd yn rhaid i mi redeg?
Rydym ni i gyd yn rhedeg er pleser. Dewch i ymuno â ni, beth bynnag eich gallu!
Mae eich angen chi ar Parkrun Arfordir Llanelli!
Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr - e-bostiwch llanellicoasthelpers@parkrun.com os hoffech helpu.
Rydym yn gyfeillgar!
Bob wythnos rydym yn mwynhau coffi ar ôl y Parkrun yng Nghaffi'r Pafiliwn, Caeau Chwarae'r Brenin Siôr, Heol y Pwll, Llanelli, SA15 4BA. Mae modd cyrraedd y prif faes parcio drwy Heol y Dramffordd, sydd ychydig ar ôl y brif fynedfa i'r parc ac ychydig cyn y goleuadau traffig. Dewch i ymuno â ni!