Aelodaeth Myfyriwr Actif

Aelodaeth Myfyriwr Actif

Dechrau yn y Brifysgol ym mis Medi?? 16 neu'n troi'n 16 yn fuan?? Beth am fanteisio'n llawn ar Aelodaeth Myfyriwr, sy'n cynnig gostyngiad ENFAWR o 27% ar ein prisiau llawn? NID OES CONTRACTAU i'w llofnodi a gallwch REWI eich aelodaeth unrhyw bryd, yn enwedig os yw arian yn brin neu os ydych yn mynd adref i weld eich anwyliaid. A ydych chi'n byw'n lleol? Wel, beth am ddewis gwneud ymarfer corff yn un o'n 4 cyfleuster gwych arall ar garreg eich drws? Mae'r aelodaeth hon hefyd yn cynnwys gostyngiad pellach o 10% ar ein holl weithgareddau eraill. Beth mae hyn yn ei gynnwys? Wel, os byddwch yn ymaelodi, cewch fynediad i'n Campfeydd, Pyllau Nofio a Dosbarthiadau Ffitrwydd penodol. Felly, peidiwch ag oedi, ymunwch ar-lein NAWR.