Aelodaeth o'r Gampfa

Aelodaeth o'r Gampfa

Paratowch eich hun ar gyfer y campfeydd newydd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r awdurdod wrthi'n buddsoddi dros &1 filiwn i wella ein cyfleusterau a'n hoffer ffitrwydd, er mwyn cynnig y cyfleusterau gorau eto, a'r rhai gorau yn yr ardal. Mae campfa newydd eisoes wedi agor yn Llanelli, a bydd dwy gampfa arall yn agor yng Nghaerfyrddin ac yn Rhydaman yn fuan. Bydd cynlluniau'r campfeydd newydd yn cynnig amgylchedd gwych ichi wneud ymarfer corff.

Mae'r dyddiau pan fyddech yn syllu ar yr un hen sgrin ar yr offer wedi mynd.Mae'r offer newydd gan Life Fitness yn eich galluogi i wneud ymarfer corff mewn ffordd fwy ysgogol a rhyngweithiol, a gallwch wylio'r digwyddiadau chwaraeon diweddaraf neu wrando ar eich hoff ganeuon ar Youtube, a fydd yn ychwanegu elfen bersonol at eich sesiynau ymarfer corff.

Gydag ychydig o gymorth gan Ap LF Connect, gallwch gyrchu sesiynau ymarfer corff personol drwy wasgu botwm a byddwch ar y ffordd i gwblhau Marathon Llundain. Os nad ydych chi'n un am y dechnoleg ddiweddaraf, peidiwch â phoeni gan fod ein staff croesawgar a chyfeillgar bob amser wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad. Credwch neu beidio, NID OES CYNNYDD yn y ffioedd aelodaeth chwaith. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.