A Hoffech Chi Chwilbedlo I Berlin??

A Hoffech Chi Chwilbedlo I Berlin??

A wyddech fod modd chwilbedlo i Berlin bellach sydd tua 970 milltir i ffwrdd? Peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud hynny o ddifrif, ond petaech chi'n dymuno gallech wneud hynny yn ein profiad chwilbedlo rhithwir NEWYDD.

Mae cyflwyno ein beiciau chwilbedlo Lifecycle GX newydd sbon yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin wedi arwain at gynnydd sylweddol, oherwydd y nodweddion diweddaraf a dyluniad olwyn-ôl unigryw. Dangosir y gwytnwch ar y consol a gellir ei newid yn hawdd o ymarfer i ymarfer. Mae cyfrifiadur sgrin cyffwrdd yn rhoi adborth parhaus wrth ymarfer ynghylch cyflymder, calorïau, cadens a churiad calon. Mae hwn yn ddull ymarfer corff cardiofasgwlaidd cyflawn sy'n darparu'r canlyniadau a ddisgwylir gan brofiad beicio dan do o'r radd flaenaf. Darperir ar gyfer pobl o bob lefel ffitrwydd, boed yn ddechreuwyr neu'n brofiadol, bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener am 7am yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Mae dosbarthiadau chwilbedlo ar gael bellach drwy'r sir gan gynnwys yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr, Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, Canolfan Hamdden Llanelli a Chanolfan Hamdden Dyffryn Amman.