Plant bach yn gwneud 'Sblash' yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman

Plant bach yn gwneud 'Sblash' yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman

Mae'r gwersi Sblash a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer plant dan 4 oed wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith rhieni a phlant bach.  Mae'r gwersi ychwanegol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r rhaglen Dysgu Nofio gan drosglwyddo o Grŵp Sblash: sesiynau rhieni a babanod ac yn y diwedd i'r gweithgareddau dŵr megis polo dŵr ac achubwyr bywydau Rookies.

Pan ofynnwyd iddi a oedd hi wedi gweld gwelliant yn ei merch Mia (4 oed), dywedodd Mrs Jenkins: "Mae Mia yn dwlu ar y gwersi, ac mae ei hyder wedi cynyddu'n sylweddol".  Yr unig beth yr oedd Mrs Jenkins yn ei ddifaru yw nad oedd Mia wedi cael gwersi pan oedd yn fach iawn, ond yn sgil gweld manteision y gwersi mae wedi trefnu i Ella, chwaer Mia, ddechrau cael gwersi Sblash a hithau'n 2 oed.

Nod ein rhaglen Sblash NEWYDD yn Sir Gaerfyrddin yw cynyddu hyder plant yn y dŵr mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl.  Mae ein gwersi Sblash yn addas ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed. Mae athro cymorth/athrawes gymorth yn y dŵr fel rhan o wersi Sblash 1-5 a fydd yn helpu i annog a llywio eich plentyn yn ddiogel drwy'r dŵr. Rydym yn gofyn i rieni plant bach iawn ymuno â nhw yn y dŵr er mwyn iddynt gymryd rhan lawn yn natblygiad eu plant a datblygu sgiliau dŵr eu plant ymhellach y tu allan i'r gwersi hyn.  Mae bathodynnau a gwobrau ar gael i'ch helpu i nodi cynnydd eich plentyn drwy'r rhaglen. Mae sesiynau Sblash ar gael yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Cliciwch ar y lleoliad i gael gwybod pryd y bydd y sesiynau Sblash nesaf yn cael eu cynnal yn eich ardal chi.