
Rydym wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn lansio cynllun newydd i gefnogi darpar famau i fod yn egnïol ac iach yn ystod eu beichiogrwydd.
Mae'r cynllun, sef 'Baby Let's Move,' yn darparu rhaglen gweithgareddau corfforol 16 wythnos o hyd er mwyn helpu mamau sy'n feichiog i gynnal pwysau iach drwy gydol y beichiogrwydd.
Mae nifer o fanteision o gymryd rhan yng nghynllun Baby Let's Move, gan gynnwys;
- Gwella rheolaeth ar bwysau a enillir yn ystod beichiogrwydd.
- Gwella hwyliau a hunan-barch
- Gwella cwsg a chylchrediad
- Gallu ymdopi'n well ag esgor a genedigaeth
- Cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiadau
Sut y gallaf i gael fy nghyfeirio at y cynllun atgyfeirio ymarfer corff?
Bydd angen ichi wneud apwyntiad gyda'ch bydwraig. Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun yna bydd eich bydwraig yn cwblhau ffurflen gyfeirio.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich cyfeirio?
Gofynnir ichi fynychu ymgynghoriad cychwynnol ar adeg sy'n gyfleus ichi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli neu Rydaman. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniad i'r cynllun, taith o amgylch y ganolfan hamdden ac asesiad iechyd.
A fyddaf i'n ymarfer ar fy mhen fy hun a pha mor aml bydd angen i mi fynychu'r dosbarthiadau atgyfeirio?
Byddwch yn ymarfer gydag eraill ar ffurf grwpiau mewn amgylchedd cyfeillgar drwy gydol y rhaglen sy'n para 16 wythnos.
Bydd y rheiny sy'n cael eu hatgyfeirio yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn yr wythnos.
Beth yw’r gost?
Mae'r sesiynau AM DDIM!
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun, cysylltwch â'ch bydwraig neu;
Simon Davies, Cydgysylltydd Gweithgareddau drwy ffonio 01269 590266
Helen James, Bydwraig yn Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 07970 814694
E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk