Rydym yn cynnig dros 80 o ddosbarthiadau ymarfer corff yr wythnos ar draws ein holl gyfleusterau. Mae pob un ohonynt yn ceisio eich ysgogi i symud mwy, teimlo'n well, ymarfer yn galetach ac yn y pen draw edrych yn well.
Y mis hwn rydym yn cyflwyno dosbarth Bootcamp i chi – edrychwch ar beth mae'r dosbarth yn ei gynnig:
Beth yw Bootcamp?
Curwch eich targedau ffitrwydd mewn dosbarth Bootcamp!
Dyma ddosbarth ysbeidiol egnïol dros ben sy'n cyfuno ymarferion pwysau'r corff ag ymarferion cardiofasgiwlar, plyometrig a chryfder.
Mae'r dosbarth, sy'n seiliedig ar gylchoedd ymarfer, i fod yn wahanol bob tro felly byddwch chi byth yn diflasu ar y dosbarth hwn!
Os ydych chi eisiau bod yn fwy ffit, llosgi braster a thynhau'ch corff, dyma'r dosbarth ichi oherwydd bydd yr hyfforddwr yn eich gwthio i'r eithaf bob tro!
Lefel dwysedd: Uchel
Ble:
Canolfan Hamdden Caerfyrddin - Bob dydd Sadwrn 10.30am
Canolfan Hamdden Llanelli - Bob dydd Mawrth 6.45am a dydd Mercher 6.00pm
Canolfan Hamdden Dyffryn Aman - Bob dydd Iau 6.45am a dydd Sadwrn 10.00am
Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn - Bob dydd Mawrth 6pm
Gallwch weld ein holl ddosbarthiadau ffitrwydd yma.
A wyddech chi? Gallwch archebu eich dosbarthiadau ar-lein ond cofiwch fynd i'r dderbynfa neu i'r bwth i gasglu eich derbynneb ar gyfer y dosbarth.