
Mae cyllid Cist Gymunedol yn rhoi cyfle i sefydliadau cymunedol gael mynediad i hyd at &1500 i'w helpu nhw i wella cyfranogiad a safonau o fewn eu clwb.
Yn ystod 2016-17, gwnaethom ddosbarth ychydig dros &83,000 o grantiau Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru i 71 o sefydliadau chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, sef arian sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i'w helpu i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon yn y sir.
Trwy gydol 2017-18, byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda nifer o glybiau a sefydliadau i nodi meysydd posibl i'w gwella ac i annog prosiectau sy'n;
- Gwella lefelau cyfranogiad
- Gwella safonau trwy wella sgiliau gwirfoddolwyr, hyfforddwyr, swyddogion a phobl mewn rolau gweinyddol.
- Darparu cyfleoedd chwaraeon hygyrch ac o safon i bobl o bob oedran
- Creu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc
I wneud cais
Mae angen cyflwyno ceisiadau ar-lein cyn y dyddiadau cau (gweler isod) trwy fynd i wefan Chwaraeon Cymru, cliciwch fan hyn i gwblhau eich cais.
Neu, cysylltwch â Hilary Jones, Swyddog Datblygu Chwaraeon i gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich clwb neu'ch prosiect - 01267 224714 neu HGJones@sirgar.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
|
Cyfarfod y Panel
|
Dydd Mercher, 31 Mai 2017
|
Dydd Mercher, 14 Mehefin 2017
|
Dydd Iau, 27 Gorffennaf 2017
|
Dydd Iau, 10 Awst 2017
|
Dydd Mawrth, 19 Medi 2017
|
Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017
|
Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017
|
Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2017
|
Dydd Iau, 11 Ionawr 2018
|
Dydd Iau, 25 Ionawr 2018
|