
Byth wedi chwarae hoci o'r blaen? Meddwl eich bod chi'n rhy hen i ddechrau gweithgaredd newydd?
Wel, rydych chi byth yn rhy hen i roi cynnig ar rywbeth newydd, cadw'n heini, cael hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd
Mae Hoci Cerdded yn weithgaredd newydd sbon sy'n cael ei lansio ym mis Mai a'r cyntaf yng Nghymru sy'n cyfuno manteision cerdded â hwyl a mwynhad hoci. Mae'r sesiynau ar gyfer pobl dros 50 oed ond mae croeso i unrhyw un a fyddai'n hoffi cymryd rhan mewn ymarfer ysgafn. A does dim rhaid cael profiad o chwarae hoci o'r blaen i ymuno yn yr hwyl.
Er mwyn cyd-fynd â Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, byddwn ni'n lansio 4 o sesiynau rhagflas a fydd yn cael eu cynnal yn y gymuned.
Mae'n ffordd wych o gadw'n ffit, cael hwyl, a chymdeithasu ar yr un pryd, yng nghwmni pobl o'r un meddylfryd â chi. Waeth beth yw eich oedran neu'ch lefel ffitrwydd, gall unrhyw un gymryd rhan yn Hoci Cerdded.
Ewch ati, rhowch gynnig arni! Cynhelir y sesiynau rhagflas AM DDIM yn;
Neuadd Goffa Llandybïe
|
Dydd Mercher, 3 Mai 1.30pm
|
Canolfan Hamdden Sanclêr
|
Dydd Iau, 4 Mai 9.30am
|
Canolfan Hamdden Sanclêr
|
Dydd Iau, 4 Mai 7.00pm
|
Neuadd Goffa Llandybïe
|
Dydd Gwener, 5 Mai 11.30am
|
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 224720