Taith y Mis - Y Llethrau amdani!

Taith y Mis - Y Llethrau amdani!

Does dim angen ichi fynd i dop mynydd yn yr eira i brofi'r hyn sydd ar gael yng Nghanolfan Sgïo Pen-bre. Yn hytrach, gallwch weld beth sydd ar gael yn y ganolfan o foethusrwydd eich cartref! 

Hoffi'r hyn rydych yn ei weld?

Mae Canolfan Sgïo Pen-bre, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, yn fan gwych os ydych chi eisiau dysgu sgïo neu eirafyrddio.

Yn y Ganolfan, ceir prif lethr sgïo 130 metr o hyd a llethr llai 40 metr o hyd sy'n golygu bod rhywbeth i bawb ar gael yno p'un a ydych yn rhoi cynnig ar sgïo neu eirafyrddio am y tro cyntaf oll, yn ceisio gwella eich technegau neu'n trefnu digwyddiad grŵp.

Does dim angen archebu ymlaen llaw felly gallwch ddod ar hap i sgïo neu eirafyrddio yn eich amser sbâr. Cynghorir i grwpiau mawr archebu ymlaen llaw. Darperir yr holl offer neu gallwch ddod â'ch offer eich hunain ac arbed arian!

Yn ogystal mae hyfforddiant arbenigol ar gael gan hyfforddwyr cymwys proffesiynol ASSI / BASI sy'n addas ar gyfer eich anghenion p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n sgïwr proffesiynol.  Mae'r opsiynau'n cynnwys;

  • Gwersi Sgïo mewn Grŵp
  • Gwersi i glwb neu ysgol a drefnir ymlaen llaw
  • Gwersi sgïo neu eirafyrddio preifat
  • Hyfforddiant rasio er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau a pherfformiad Rasio Alpaidd
  • Hyfforddiant i'ch helpu chi i fod yn hyfforddwr sgïo llethrau artiffisial

Mae'r uchod yn seiliedig ar hyfforddiant sy'n para 1 awr gan gynnwys llogi offer

Nid ar y llethrau yn unig y mae hwyl i'w gael cofiwch... Yn ystod eich ymweliad, beth am roi cynnig ar y profiad tobogan gorau oll? Mae'r tobogan sy'n cael ei adnabod fel 'Cobra' yn un o'r reidiau tobogan hiraf yng Nghymru. Peidiwch â cholli'r cyfle cyffrous i gael reid o amgylch y llethr sgïo.

Chwant prynhawn allan yn yr awyr agored? Beth am roi cynnig ar y cwrs golff pitsio a phytio heriol naw twll sydd yng nghanol gwyrddni'r parcdir.

Ac os nad yw hynny'n ddigon, beth am logi beic a mynd ar daith ar hyd llwybrau beicio oddi ar y ffordd drwy Barc Pen-bre.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Sgïo Pen-bre yn uniongyrchol drwy ffonio 01554 834443.