Yn y llun: Chris Barker (ar y chwith) a Jenny Jones (ar y dde)
Cafodd Jenny Jones o Glwb Sboncen Caerfyrddin a Chris Barker o Glwb Sboncen Bush Penfro ill dau gydnabyddiaeth fel Hyfforddwyr y Flwyddyn yng ngwobrau diweddar WSRB (Sboncen a Phêl-raced Cymru). Cafodd y ddau hyfforddwr y wobr bwysig hon am eu hymroddiad i wella sboncen ar gyfer plant iau o fewn eu clybiau a'r gymuned leol.
Hefyd, derbyniodd Jenny ei chap am gynrychioli Cymru wedi iddi gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Meistri Rhyngwladol (Cartref) yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.
Da iawn i Jenny Jones, Prif Hyfforddwr Clwb Sboncen Caerfyrddin.
Diddordeb mewn chwarae sboncen?
Mae Jenny yn darparu hyfforddiant sboncen bob dydd Sadwrn ar gyfer plant rhwng 7 ac 16 oed.
09:30am-10:30am: Cyflwyno'r gamp a rheolau’r gêm i ddechreuwyr.
10:30am-12:30pm: Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer rhai sydd eisiau gwella.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224700.