Symud i'r Babi

Symud i'r Babi

 
 
Mae'r cynllun, sef 'Baby Let's Move,' yn darparu rhaglen gweithgareddau corfforol 16 wythnos o hyd er mwyn helpu mamau sy'n feichiog i gynnal pwysau iach drwy gydol y beichiogrwydd.

Mae nifer o fanteision o gymryd rhan yng nghynllun Baby Let's Move, gan gynnwys;

• Gwella rheolaeth ar bwysau a enillir yn ystod beichiogrwydd.
• Gwella hwyliau a hunan-barch
• Gwella cwsg a chylchrediad
• Gallu ymdopi'n well ag esgor a genedigaeth
• Cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiadau

Sut y gallaf i gael fy nghyfeirio at y cynllun atgyfeirio ymarfer corff?

Bydd angen ichi wneud apwyntiad gyda'ch bydwraig. Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun yna bydd eich bydwraig yn cwblhau ffurflen gyfeirio.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich cyfeirio?

Gofynnir ichi fynychu ymgynghoriad cychwynnol ar adeg sy'n gyfleus ichi yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin, Llanelli neu Dyffryn Aman. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cyflwyniad i'r cynllun, taith o amgylch y ganolfan hamdden ac asesiad iechyd.

A fyddaf i'n ymarfer ar fy mhen fy hun a pha mor aml bydd angen i mi fynychu'r dosbarthiadau atgyfeirio?

Byddwch yn ymarfer gydag eraill ar ffurf grwpiau mewn amgylchedd cyfeillgar drwy gydol y rhaglen sy'n para 16 wythnos. Bydd y rheiny sy'n cael eu hatgyfeirio yn cael eu hannog i fynychu dwy sesiwn yr wythnos.

Beth yw’r gost?

Mae'r sesiynau AM DDIM!

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun, cysylltwch â'ch bydwraig neu;
Simon Davies, Cydgysylltydd Gweithgareddau drwy ffonio 01269 590266
Helen James, Bydwraig yn Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 07970 814694
E-bost: actifsirgar@sirgar.gov.uk